Diweddariad Ymgynghoriad

Home » Newyddion » Esgair Galed – Diweddariad Ymgynghoriad

Niferoedd

Ysgrifennon ni i 582 cartref a busnes yn y gymuned leol i gyflwyno’r prosiect. Roedd gwahoddiad i gymunedau ddod i dri achlysur gwybodaeth lleol i weld y cynlluniau ac enghreifftiau gweledol, ac i ddysgu rhagor am ein cynigion a gofyn cwestiynau i aelodau’r tîm.

Roedd lefel dda o ddiddordeb yn y prosiect ac fe ddaeth nifer gadarnhaol o bobl i’r tri achlysur:

  • Daeth 161 person i’n hachlysuron wyneb yn wyneb
  • Cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu yn y Powys County Times ar 25 Ionawr 2024
  • Daeth 360 o ymatebion i law oddi wrth randdeiliaid a chymunedau lleol
  • Daeth 9% o’r adborth i law ar bapur, 12% ar-lein a 79% drwy e-bost, ffôn neu ffurflen gysylltu ar ein gwefan
  • Roedd 721 o ymweliadau unigryw â’r wefan

Y camau nesaf

Mae cwblhau cytundebau tir wedi cymryd yn hirach na’r disgwyl, gan newid ein llinell amser. Rydyn ni bellach yn bwriadu cynnal ymgynghoriad statudol yn ystod hanner cyntaf 2026.

Yn y cyfamser, byddwn ni’n gweithio â rhanddeiliaid allweddol a’r gymuned leol i sefydlu Grŵp Cysylltu â’r Gymuned. Bydd y grŵp yma’n cynnig cyfle i gwmni Bute Energy rannu gwybodaeth ddiweddaraf y prosiect ac i’r gymuned godi unrhyw bryderon yn uniongyrchol gyda thîm Parc Ynni Esgair Galed.

Bydd yr ymgynghoriad statudol yn cyflwyno cynigion manwl am Barc Ynni Esgair Galed, gan roi cyfle i gymunedau a mudiadau lleol wneud sylwadau cyn cyflwyno’r cais i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) yn 2026.

Bydd manylion llawn yr ymgynghoriad statudol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Parc Ynni Esgair Galed – www.esgairgaledenergypark.wales/?lang=cy

Pe hoffech chi gysylltu â Thîm Prosiect Esgair Galed, mae croeso i chi e-bostio: esgairgaled@bute.energy