Mae angen 25,000 o swyddi gwyrdd ar Gymru erbyn 2050, gan gynnwys cynllunwyr, rheolwyr prosiectau a pheirianwyr i enwi dim ond ychydig o’r rolau sydd angen eu llenwi.
Mewn gwirionedd, bydd dros 3,000 o’r swyddi hyn yn cael eu creu gan prosiectau ynni gwynt Bute Energy yn unig! Ond pwy fydd yn adeiladu, gweithredu a chyflawni’r prosiectau pan fo prinder sgiliau o’r fath yma yng Nghymru?
Y newyddion da yw – credwn y gallwn fod yn rhan o’r ateb i’r her fawr hon. Newyddion drwg yw – does gennym ni ddim llawer o amser i’w wneud.
O addysg yn yr ystafell ddosbarth a helpu mwy o fenywod a merched ifanc i astudio pynciau STEM, i interniaethau cyflogedig a chydweithio gyda’r sector addysg uwch – mae ein gwaith eisoes wedi dechrau. Byddwn yn ysbrydoli ochr yn ochr â sefydliadau partneriaid beiddgar ac arloesol o bob rhan o wahanol sectorau, ac yn addo darparu Gwerth Cymdeithasol i gymunedau lleol.
Ymunwch â ni a darganfod y cyfleoedd sydd o’n blaenau – gadewch i ni gwblhau’r pos gyda’n gilydd.
.
.
.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd