Home » Buddion i’r Gymuned » Cronfa Budd Cymunedol

Cronfa Budd Cymunedol

Rydym am helpu i hybu eich gwasanaethau a’ch mentrau lleol i’r lefel nesaf a gwneud eich syniadau newydd yn realiti. Rydym am weld cymunedau’n cydweithio ac yn ffynnu gyda’i gilydd. Bydd cyllid o’n Cronfa Budd Cymunedol yn trawsnewid lleoedd, profiadau a bywydau’r rhai sydd gerllaw ein parciau ynni newydd wrth iddynt gael eu datblygu.

Gyda miliynau o bunnoedd ar gael yn cyn hir, edrychwn ymlaen at fynd â chi ar y daith gyda ni.

 

Beth yw Cronfa Budd Cymunedol?

Yn gryno, bydd grwpiau cymunedol lleol, sefydliadau, ac elusennau ledled Cymru yn gallu gwneud cais am grantiau a fydd yn galluogi i fentrau newydd gael eu creu, a bydd prosiectau presennol yn cael eu codi i fedru cyrraedd eu potensial a chefnogi cymunedau hyd yn oed ymhellach.

Rydym yn sefydlu Sefydliad Elusennol Corfforedig (SEC) newydd i weinyddu a chyfarwyddo’r Gronfa sy’n gysylltiedig â phob parc ynni sydd wedi cael caniatâd i fwrw ymlaen – a bydd y cyfan yn cael ei reoleiddio gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr.

Helpwch i redeg y Gronfa Budd Cymunedol

Rydym yn recriwtio pobl leol ger ein parc ynni yng Nghaerffili i helpu i lywio’r pot cyllid grant cyntaf gwerth dros £700,000 y flwyddyn.

Eisiau cefnogi? Cymerwch olwg.

Dysgu mwy

Beth sy’n wahanol am sut rydym am weithredu’r Gronfa Budd Cymunedol?

Nid yw’n anarferol i ddatblygwr ynni gynnig grantiau i gymunedau sydd agosaf at ei seilwaith, ond rydym yn ymfalchïo yn ein dull unigryw o ymdrin â’r buddsoddiad hwn.

Wedi’i arwain gan ein themâu ffocws, mae ein tîm wedi mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ddata i fapio heriau a dyheadau cymunedau lleol. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddadansoddiad data ansoddol (ymchwil, sgyrsiau, astudiaethau achos) a meintiol (cyfrifiad, ystadegau, polau piniwn) – rydym yn defnyddio platfform digidol i ddelweddu a deall y rhyngddibyniaethau rhwng y darnau o fewnwelediad. Bydd y dull hwn yn helpu i’n cyfeirio ble y gallem fuddsoddi cyn gynted â phosibl, ac yn arwain paneli lleol a’r bwrdd ymddiriedolwyr.

Beth yw gwerth y Gronfa Budd Cymunedol?

Mae ein Cronfa Budd Cymunedol werth £7,500 fesul megawat o gapasiti cynhyrchu wedi’i osod, felly bydd gan bob parc ei bot ei hun o gyllid wedi’i ddyrannu yn dibynnu ar nifer terfynol y tyrbinau a faint o bŵer megawat y gallai’r tyrbinau ei gynhyrchu.

Mae ein teulu cyfan o barciau ynni yn cynrychioli buddsoddiad enfawr – petai pob un parciau ynni arfaethedig yn mynd yn eu blaen – bydd yn golygu y bydd hyd at £20 miliwn ar gael trwy’r sefydliad elusennol bob blwyddyn, am oes ein tyrbinau.

Bydd y gronfa’n gysylltiedig â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr i ganiatáu ar gyfer chwyddiant economaidd fel bod ein cronfeydd wedi’u diogelu ar gyfer y dyfodol am oes ein tyrbinau.

How will it work?

Bute shared ownership

Yr ymgeisiwr

Y cam cyntaf fydd eich bod chi, y bobl a’r prosiectau sydd wrth wraidd eich cymunedau yn gwneud cais am grant o’r Gronfa Budd Cymunedol.

Y panel lleol

Bydd panel o bobl leol yn cael ei sefydlu ar gyfer pob parc ynni. Bydd y bobl hyn yn arweinwyr cymunedol angerddol a fydd yn adnabod eu cymuned a’r ffordd orau o gefnogi i sicrhau bod blaenoriaethau a phrosiectau lleol yn cael eu cyflwyno a’u cefnogi.

Bwrdd yr ymddiriedolwyr

Ochr yn ochr â chynrychiolydd o Bute Energy, bydd grŵp o arbenigwyr annibynnol allweddol yn dod ynghyd fel bwrdd ymddiriedolwyr cenedlaethol yr elusen i gefnogi’r paneli lleol. Bydd ymddiriedolwyr hefyd yn chwilio am gyfarwyddyd dan arweiniad y gymuned gan y paneli lleol ynghylch ble y dylid buddsoddi arian.

Rhagor o wybodaeth am y Gronfa Budd Cymunedol

Llywodraethu a rheoli.

Sut fydd Cronfa Budd Cymunedol yn cael ei llywodraethu?

Er mwyn sicrhau rheolaeth gadarn, dryloyw ac effeithiol o’r arian a gynhyrchir gan bob parc ynni, rydym wedi dechrau’r broses o sefydlu Sefydliad Elusennol Corfforedig (SEC) pwrpasol. Y SEC hwn, elusen gofrestredig, fydd y prif endid sy’n gyfrifol am reoli a dosbarthu’r Gronfa Budd Cymunedol. Fel sefydliad elusennol, bydd y SEC yn gweithredu o dan oruchwyliaeth a rheoleiddio llym Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Mae hyn yn sicrhau’r safonau uchaf o lywodraethu, uniondeb ariannol ac atebolrwydd cyhoeddus.

Pwy fydd ar y bwrdd ymddiriedolwyr cenedlaethol?

Bydd y SEC yn cael ei lywodraethu gan fwrdd o ymddiriedolwyr, a fydd yn cael eu penodi yn dilyn ymgyrch recriwtio genedlaethol gynhwysfawr. Mae’r ymgyrch hon wedi’i chynllunio i ddenu unigolion sydd â phrofiad sylweddol mewn llywodraethu elusennau ac y mae eu harbenigedd proffesiynol a’u hangerdd bersonol yn cyd-fynd yn agos â’n themâu buddsoddi cymunedol strategol.

Ein themâu buddsoddi cymunedol, a fydd yn tywys penderfyniadau ariannu’r SEC a dewis ymddiriedolwyr, yw:

  • Cost byw: Cefnogi mentrau sy’n lleddfu caledi ariannol ac yn gwella gwydnwch economaidd o fewn cymunedau.
  • Hamdden ac iechyd: Hyrwyddo lles corfforol a meddyliol trwy fynediad at weithgareddau hamdden, ffyrdd iach o fyw, a gwasanaethau cymorth cymunedol.
  • Amgylchedd a diwylliant: Meithrin stiwardiaeth amgylcheddol, ymdrechion cadwraeth, a dathlu treftadaeth ddiwylliannol leol.
  • Addysg: Hyrwyddo cyfleoedd addysgol, datblygu sgiliau, a dysgu gydol oes i bob oed.
  • Cyflogadwyedd: Gwella llwybrau i gyflogaeth, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, a chefnogi unigolion i gyflawni eu potensial llawn.

 

Beth yw rôl y paneli grantiau lleol?

Mae ein hymrwymiad i roi grantiau cyfranogol yn gonglfaen i ddull ein Cronfa Budd Cymunedol. Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ariannu yn cael eu llywio gan anghenion a mewnwelediadau gwirioneddol y cymunedau eu hunain. I gyflawni hyn, bydd panel grantiau lleol pwrpasol yn cael ei sefydlu ar gyfer pob parc ynni. Bydd y paneli hyn yn cynnwys aelodau amrywiol o’r gymuned, gan gynnwys unigolion sydd â phrofiad uniongyrchol, byw o’r blaenoriaethau buddsoddi yn eu hardaloedd priodol.

Mae ein dull mapio cymdeithasol helaeth, sy’n cynnwys casglu a dadansoddi data ansoddol, wedi bod yn allweddol wrth nodi’r heriau a’r cyfleoedd lleol hanfodol hyn o amgylch y parciau ynni, a thrwy hynny gyfeirio ein strategaeth fuddsoddi. Bydd y paneli grantiau lleol yn gwasanaethu fel fforymau hanfodol, gan hwyluso trafodaeth fanwl ar bob cais a gyflwynir am gyllid. Yna bydd eu hargymhellion gwybodus yn cael eu cyflwyno i fwrdd y SEC, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol yn y gymeradwyaeth derfynol o grantiau, a thrwy hynny ymgorffori llais y gymuned yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau.

Sut fydd y paneli grantiau lleol yn cael eu recriwtio a pha gefnogaeth fyddant yn ei derbyn?

Bydd ein tîm Buddsoddi Cymunedol yn cefnogi’r SEC i recriwtio aelodau ar gyfer y paneli grantiau lleol a fydd yn cael eu sefydlu ar gyfer pob parc ynni sydd wedi cael caniatâd. Bydd y panel lleol yn cynnwys rhwng 8-12 o unigolion a bydd angen i aelodau’r panel allu dangos sgiliau a phrofiad perthnasol mewn un neu fwy o’n pum thema, a cadarnhau nag oes ganddynt gwrthdaro buddiannau â buddiolwyr posibl y Gronfa yn yr ardal leol honno.

Sut fydd Bute Energy yn rhan o hyn?

Dywedon ni y bydden ni yma am y tymor hir, gan ein bod eisiau bod yn rhan o waddol ehangach i gymunedau Cymru. Felly, yn ogystal ag unigolion annibynnol o bob cwr o’r genedl, bydd aelod o dîm Bute hefyd yn eistedd wrth fwrdd yr ymddiriedolwyr, gan ddarparu mewnwelediadau a data mapio cymdeithasol byw i gynorthwyo yn y cyfleoedd hirdymor y gwneir cais amdanynt.

Sut fydd y gronfa honno'n cael ei sicrhau ar gyfer cymunedau am hyd cynhyrchu'r parc ynni?

Bydd cytundeb cyfreithiol rhwymol rhwng y parc ynni a’r SEC yn cael ei sefydlu i sicrhau bod yr arian yn cael ei dalu yn unol â’r £7,500 y cytunwyd arno fesul megawat o gapasiti cynhyrchu wedi’i osod am hyd oes cynhyrchu ynni pob parc ynni. Bydd y taliadau’n parhau am hyd gweithrediadau’r parc.

Bydd y gronfa’n gysylltiedig â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr i ganiatáu ar gyfer chwyddiant economaidd fel bod ein cronfeydd wedi’u diogelu ar gyfer y dyfodol am oes ein tyrbinau.

Cefnogaeth y Gronfa Gymunedol.

Pa gymunedau fydd yn elwa o'r gronfa?

Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar y cymunedau o fewn tua 5-10km o’n parciau ynni. Rydym eisoes wedi dechrau ymarfer mapio cymdeithasol helaeth i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd lleol y gallai Cronfa Budd Cymunedol yn y dyfodol eu cefnogi.

Rydym wedi ymchwilio i fecanweithiau ariannu grantiau eraill ledled Cymru a’r rhwystredigaeth a deimlir gan rai ynghylch anhyblygrwydd y rhai sy’n defnyddio dull ffiniau sefydlog. Byddwn yn cael ein harwain gan fewnwelediad ac yn edrych ar y paneli grantiau lleol i sicrhau nad ydym yn rhwym wrth linellau coch daearyddol pan all cymorth ariannol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau agosaf at ein parciau.

Beth yw'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rhoi grant?

Rydym am fod yn gyllidwr mor gynhwysol â phosibl drwy leihau cymaint o fiwrocratiaeth ag y gallwn. Fodd bynnag, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd deg a thryloyw i dderbynwyr a all ddangos lefel briodol o lywodraethu a phrofiad cyfunol o gyflawni gweithgareddau effaith gymdeithasol.

Gofynnir i grwpiau gymryd rhan mewn cwis cymhwysedd byr i wirio a ydynt yn gymwys i wneud cais cyn cael eu gwahodd i ddechrau eu cais.

Beth mae'r broses ymgeisio yn debygol o gynnwys a sut fydd penderfyniadau ynghylch cyllid yn cael eu gwneud?

Rydym yn edrych i wneud y broses o wneud cais am gronfeydd mor hygyrch â phosibl o fewn cyfyngiadau cyfraith elusennau. Bydd canllawiau clir yn nodi’r broses ymgeisio ar gyfer mynediad at y cronfeydd hyn yn cael eu paratoi a’u cyhoeddi maes o law. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu platfform pwrpasol i gymunedau ei ddefnyddio i ddewis y grant mwyaf addas ar gyfer eu gweithgareddau ac i wneud eu cais.

Ein meddyliau ar hyn o bryd yw creu Cronfa Budd Cymunedol haenog gyda phrosesau gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar:

  • grantiau symiau bach
    grantiau symiau mawr
    grantiau symiau sylweddol (grantiau ‘etifeddiaeth’)

Faint o gyllid sydd ar gael a pha mor aml/faint y gall un ymgeisydd wneud cais?

Bob blwyddyn, byddwn yn buddsoddi hyd at £7,500 fesul megawat o gapasiti cynhyrchu mewn Cronfa Budd Cymunedol. Er enghraifft, byddai twrbin sengl nodweddiadol gyda chapasiti o 6.5MW yn cynhyrchu taliad blynyddol o £48,750 i Gronfa Budd Cymunedol.

Rydym yn parhau i weithio ar y manylion ynghylch faint a pha mor aml y bydd prosiectau ac unigolion yn gallu gwneud cais ond byddwch yn dawel eich meddwl y bydd y broses yn hawdd ac yn dryloyw.

Beth am brosiectau ynni lleol sy'n eiddo i'r gymuned - a allwn ni wneud cais am grantiau i'n cefnogi?

Medrwch! Rydym yn gwrando ar gymunedau ger ein parciau ynni a byddwn yn neilltuo 25% o’n Cronfa Budd Cymunedol i adeiladu, cysylltu a rhoi prosiectau i helpu i leihau biliau ynni a chynhyrchu incwm i’r gymuned.

Gallai’r prosiectau cynhyrchu llai hyn gysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu lleol – gan ddarparu incwm i’w berchnogion neu i wasanaethu angen ynni uniongyrchol.

Bydd y gronfa hon ar gael i unrhyw grŵp cyfansoddedig, consortiwm o sefydliadau trydydd sector neu gyrff sector cyhoeddus, fel clystyrau ysgolion neu Gynghorau Cymuned. Bydd y grwpiau a nodwyd yn cael eu cefnogi i fod yn berchen ar y prosiect (a’r incwm) a’i reoli er budd eu haelodaeth a’r gymuned ehangach.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein model perchnogaeth leol a rennir trwy glicio ar y ddolen hon.

Pryd fydda i’n gallu gwneud cais?

Dim ond pan fydd parc yn cael caniatâd cynllunio gan Lywodraeth Cymru y bydd Cronfa Budd Cymunedol yn cael ei sefydlu ar gyfer y pawc hwnnw, yn dilyn proses gynllunio drylwyr a helaeth.

Bydd ein Cronfa Budd Cymunedol gyntaf yn gysylltiedig â Pharc Ynni Twyn Hywel ac rydym yn anelu at cael y Gronfa yn barod i wneud cais amdani erbyn dechrau 2026. Bydd panel lleol yn cael ei sefydlu cyn i’r Gronfa agor, gyda set lawn o feini prawf a gwybodaeth fanwl am y broses ymgeisio.

Os rhoddir caniatâd i’n parciau eraill fwrw ymlaen – yna bydd pob Cronfa Budd Cymunedol leol yn dilyn yr un broses.

Pa fath o bethau alla i wneud cais amdanynt?

Nod y Gronfa Budd Cymunedol yw i fod yn ffynhonnell ariannu hyblyg, arloesol ac unigryw o’i gymharu â grantiau traddodiadol. Nid yw ein prif ffocws ar ragnodi mathau penodol o brosiectau, ond yn hytrach ar ddeall y gwahaniaeth pendant y bydd eich prosiect, gwasanaeth neu weithgaredd arfaethedig yn ei wneud, a’r dystiolaeth gadarn sy’n cefnogi ei effaith bosibl.

Rydym yn annog cynigion creadigol ac effeithiol sy’n mynd i’r afael ag anghenion cymunedol gwirioneddol o fewn ein themâu buddsoddi strategol. Er ein bod yn hyblyg yn y mathau o brosiectau y gallwn eu cefnogi, bydd y pwyslais bob amser ar y canlyniadau amlwg a’r newid cadarnhaol y bydd eich menter yn ei ddwyn i’r gymuned.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag aelod o’n tîm ymroddedig i drafod eich syniadau prosiect cyn cyflwyno cais ffurfiol drwy ebostio CICteam@bute.energy

Gall y drafodaeth anffurfiol hon helpu i egluro aliniad ag amcanion y Gronfa a rhoi arweiniad ar ddatblygu cynnig cryf.

Rydym yn parhau i weithio ar y manylion ynghylch meini prawf a chymhwysedd, ond medrwn sicrhau y byddwn yn glir ac yn dryloyw gyda’r hyn y gellir a na ellir gwneud cais amdano.

Dilynwch ein datblygiadau

Recriwtio bwrdd ymddiriedolwyr Haf 2025
close xPrevious
Next
Recriwtio bwrdd ymddiriedolwyrHaf 2025
Bwrdd ymddiriedolwyr wedi'i benodi Gwanwyn 2026
close xPrevious
Next
Bwrdd ymddiriedolwyr wedi'i benodiGwanwyn 2026
Cyfnod presennolRecriwtio gwirfoddolowyr ar gyfer panel grantiau lleol Gwanwyn 2026
close xPrevious
Next
Recriwtio gwirfoddolowyr ar gyfer panel grantiau lleolGwanwyn 2026
Panel penderfyniadau grantiau cyntaf a gynhelir gan fwrdd ymddiriedolwyr. Gaeaf 2026
close xPrevious
Next
Panel penderfyniadau grantiau cyntaf a gynhelir gan fwrdd ymddiriedolwyr.Gaeaf 2026