Eich Cymuned yw’r lle rydych chi’n teimlo’n ddiogel, lle rydych chi’n ei alw’n gartref, lle mae eich teulu. Efallai y byddwch chi’n gweithio yno hefyd. Dyma’r lle yr ydym wedi buddsoddi ynddo ac eisiau ei weld yn tyfu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn falch o’r gwaith a wnawn gyda’n gilydd ledled Cymru oherwydd, wrth wraidd popeth a wnawn mae cymuned.

Mae ein parciau ynni yn cynrychioli buddsoddiad o £3 biliwn a’n nod yw cadw cymaint o’r arian hwnnw â phosibl yng Nghymru er budd cymunedau, pobl a’r economi leol.
Er mwyn i gymunedau lleol elwa o seilwaith gwyrdd newydd o’r diwrnod cyntaf, rydym wedi adeiladu’r tîm mwyaf sy’n ymroddedig i ymgysylltu cymunedol ymhlith datblygwyr ynni yng Nghymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ein tîm Buddsoddi Cymunedol wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddod i adnabod y bobl sy’n byw yn yr ardaloedd agosaf at ein parciau.
Mae’r tîm yn dilyn themau er mwyn deall sut y gallwn ni gefnogi’r canlynol:
O hybu’r gadwyn gyflenwi leol i gefnogi ysgolion i ddarparu addysg hinsawdd – rydym yn falch bod ein strategaeth Buddsoddi Cymunedol yn canolbwyntio ar y person ac yn uchelgeisiol.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd