Pam fod y safle hon wedi'i dewis?
Mae Parc Ynni Bryn Gilwern yn gyfan gwbl o fewn Ardal 4 a Aseswyd ymlaen llaw ar gyfer Ynni Gwynt yng Nghymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040.
Dewiswyd y lleoliad hwn oherwydd bod ein hastudiaethau hyd yn hyn yn dangos ei fod yn agored dros ben i adnoddau gwynt, mae ganddo addasrwydd technegol ac amgylcheddol, a mynediad da i’r safle.
Beth mae Bute Energy yn bwriadu ei ddatblygu?
Mae Bute Energy yn ceisio darparu Parc Ynni a fydd yn darparu hyd at 84MW o ynni glân, gwyrdd gan ddefnyddio’r dechnoleg tyrbin gwynt ddiweddaraf – digon i bweru hyd at 78,000 o gartrefi, tra’n disodli tua 117,000 tunnell o CO2 dros oes weithredol y prosiect.
Bydd gan Barc Ynni Bryn Gilwern hyd at 16 o dyrbinau gwynt ag uchafswm uchder blaen llafn o 220m, is-orsaf drydanol ac adeilad rheoli, a mastiau anemomedr ar gyfer monitro cyflymder gwynt a pherfformiad tyrbinau. Bydd ein cynigion yn cynnwys ceblau tanddaearol, llwybrau mynediad i’r safle, rheoli cynefinoedd, a, lle bo angen, gwelliannau priffyrdd oddi ar y safle.
Faint o dyrbinau gwynt fydd yno?
Ein cynnig cychwynnol yw darparu hyd at uchafswm o 16 o dyrbinau ar y safle. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei fireinio wrth i ni gael mwy o wybodaeth o’n hasesiadau technegol (megis effaith amgylcheddol, effaith weledol, a modelu sŵn) ac arolygon, yn ogystal â mewn ymateb i adborth gan ymgyngoreion, rhanddeiliaid, a thrigolion lleol.
Sut byddwch chi'n cael mynediad i'r safle a sut bydd offer yn cael ei ddosbarthu?
Megis dechrau ydym o hyd o ran nodi’r llwybrau gorau i sicrhau y gall traffig sy’n teithio i’r safle ac oddi yno wneud hynny’n ddiogel a heb fawr o effaith ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach. Mae’r safle, fodd bynnag, yn elwa o fod yn agos at yr A44, yr A483 a’r A470.
Bydd dyluniad manwl y parc ynni yn esblygu dros y misoedd nesaf, gan ystyried adborth i’r ymgynghoriad gan bobl leol ac ymgyngoreion statudol, yn ogystal ag asesiadau amgylcheddol a thechnegol parhaus.
Sut bydd y prosiect yn cysylltu â'r grid trydan?
Yng Nghanolbarth Cymru, nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y gallu i gysylltu’r holl ynni adnewyddadwy newydd arfaethedig â chartrefi a busnesau – er mwyn rhoi terfyn ar ddefnyddio tanwyddau ffosil mae angen seilwaith newydd arnom a hynny’n gyflym.
Mae cynlluniau eisoes i gysylltu Parc Ynni Nant Mithil gerllaw ag is-orsaf newydd yn Sir Gaerfyrddin drwy gynllun Green GEN Tywi-Wysg a gynigir gan Green GEN Cymru (rhan o Bute Energy Group). Bydd Parciau Ynni Bryn Gilwern yn cael eu cysylltu â’r llinell hon trwy ddefnyddio llinellau trawsyrru polion pren i orsaf gasglu arfaethedig newydd yn agos at y parciau ynni arfaethedig.
Defnyddir peilonau ledled y byd fel modd profedig o gysylltu ynni yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn effeithlon. Mae defnyddio peilonau yn unol â chanllawiau polisi cenedlaethol ar gyfer cysylltiadau trydanol.
Gellir gweld rhagor o fanylion am gynnig Green GEN Cymru Tywi Wysg yn: https://www.greengentowyusk.com/
Cael y newyddion diweddaraf i gyd