Mae ein rownd gyntaf o ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg o 06 Tachwedd 2025 i 18 Rhagfyr 23.59YP 2025. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn eich gwahodd i adolygu ein cynigion a rhoi eich adborth – megis gwybodaeth leol a allai fod gennych ar gyrsiau dŵr cyfagos, ffyrdd a llwybrau, neu gyflenwadau dŵr preifat. Mae eich mewnbwn yn bwysig i ni, a byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl sylwadau ac awgrymiadau yn ystod camau nesaf y broses ddylunio, cyn ein cam ymgynghori nesaf.
Mae hwn hefyd yn gyfle i chi rannu gwybodaeth am unrhyw grwpiau, prosiectau neu fentrau a allai elwa o Gronfa Budd Cymunedol yn y dyfodol.
Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho a darllenwch ein llyfryn gwybodaeth
Cliciwch ar y ddolen hon i ddarllen ein cylchlythyr diweddaraf
| Anfonwch e-bost atom yn: brynrhudd@bute.energy | |
| Trwy ffurflen adborth sydd ar gael i’w lawrlwytho trwy glicio ar y ddolen hon neu yn ein sesiwn galw heibio cyhoeddus ar 26 Tachwedd. Fel arall, cysylltwch â ni a gofyn am gopi caled a byddwn yn ei bostio atoch | |
| Postiwch eich adborth i Freepost LFBR Energy Parks. Nid oes angen cyfeiriad neu stamp pellach | |
| 0800 699 0081 (Gwasanaeth llaisbost yw hwn, gadewch eich neges a rhowch eich manylion cyswllt dewisol a bydd rhywun mewn cysylltiad i ateb eich neges) |
Trosolwg: Digwyddiad galw heibio, dewch i siarad ag aelodau o dîm y prosiect
Amser: 15:00 – 20:00
Lleoliad: Canolfan Cymunedol Llanddewi Brefi; Cysgod Y Llan, Llanddewi-Brefi, Tregaron SY25 6AS
Trosolwg: Gweminar ar-lein drwy ddefnyddio platfform Zoom i rannu ein cynlluniau arfaethedig ar y parc ynni hwn, ac yna sesiwn Holi ac Ateb. Bydd y gweminar hwn yn cael ei recordio, a bydd dolen ar gael ar ein gwefan i’w chwarae’n ôl.
Amser: 18:00 – 19:00
Cael y newyddion diweddaraf i gyd