Home » Newyddion » Buddsoddiad Mewn Fferm Wynt Yn Ne Cymru I Greu Swyddi Newydd A Helpu I Leihau Biliau Ynni

BUDDSODDIAD MEWN FFERM WYNT YN NE CYMRU I GREU SWYDDI NEWYDD A HELPU I LEIHAU BILIAU YNNI

Yr wythnos hon, mae Bute Energy yn rhannu cynlluniau arloesol ar gyfer Parc Ynni arfaethedig newydd, Twyn Hywel, rhwng Caerffili a Phontypridd. Bydd datblygu’r fferm wynt adnewyddadwy yn buddsoddi mewn cynlluniau a phrentisiaethau hyfforddi lleol, yn cynnig cronfa buddion cymunedol gwerth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ac yn lleihau biliau ynni i bobl sy’n byw yng Nghymru. Dyma’r prosiect cyntaf i Bute Energy hyd at 2000 Mega Watt o ynni gwynt adnewyddadwy.

Gan weithredu nawr i bweru Cymru gydag ynni gwyrdd, glân, mae gan y parc botensial i gynhyrchu hyd at 92.4MW o ynni gwynt. Mae hyn yn ddigon i bweru’r hyn sy’n cyfateb i 81,000 o gartrefi bob blwyddyn, gan helpu i ddadleoli tua 5.7 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn, sy’n cyfateb i gael gwared ar bob car oddi ar y ffyrdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bob blwyddyn.

Bydd prosiect Ynni Twyn Hywel hefyd yn sicrhau bod buddion i’r cyhoedd yn cael eu gwireddu drwy gyfrannu’n sylweddol at:

  • Cronfa buddion cymunedol blynyddol yn y rhanbarth gwerth £693,000 (£7,500 fesul megawatt o gapasiti a osodwyd), mwy na £30 miliwn dros fywyd gweithredol o 45 mlynedd.
  • Hyd at £200,000 y flwyddyn tuag at gadwraeth ynni a chymorth i gartrefi gan gynnwys banciau bwyd, banciau cynnes, effeithlonrwydd ynni yn y cartref a gwaith gyda Chymdeithasau Tai i ychwanegu gwerth at y rhaglenni effeithlonrwydd ynni a chymorth sy’n bodoli ar hyn o bryd.
  • Buddsoddi mewn sgiliau gwyrdd newydd yn lleol drwy ddatblygu rhaglen i gyflwyno sgiliau gwyrdd trosglwyddadwy mewn partneriaeth â cholegau lleol – Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent.
  • Mae’r cynlluniau yn cynnwys gwella mynediad cyhoeddus agored ar draws y safle a datblygu cyfleoedd hamdden ar y safle.
  • Gwelliannau i gynefinoedd a bywyd gwyllt, gan gynnwys dros 20% o Gynnydd Net mewn Bioamrywiaeth ar y safle a mentrau diogelu a dehongli treftadaeth ddiwylliannol o dan arweiniad y gymuned.
  • Helpu i gyflawni targedau Sero Net Llywodraeth Cymru o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Daw’r datblygiad hwn ar adeg pan fo pobl yn y DU yn byw trwy argyfwng hinsawdd ac argyfwng costau byw, gyda’r cyflenwad ynni yn cael ei fygwth gan ddigwyddiadau’r byd. Bellach, gwynt ar y tir yw’r dull rhataf o gynhyrchu trydan fesul MWh, a gyda’r adnoddau naturiol sydd ar gael yng Nghymru, mae gan Bute Energy weledigaeth am Gymru iachach a chyfoethocach sy’n defnyddio’r broses o gynhyrchu ynni i adeiladu dyfodol glanach i’n plant. Bydd y prosiect yn ymdrechu i ddatblygu mentrau cynaliadwy,

amgylcheddol a hamdden sy’n cynyddu gwerth lleol a rhanbarthol y safle.

“Cawsom ein syfrdanu gan yr adborth positif a dderbyniwyd hyd yn hyn ac rydym yn gyffrous i fod yn ymgynghori â’r gymuned a rhanddeiliaid ynglŷn â’r cynigion ar gyfer cynlluniau terfynol Parc Ynni Twyn Hywel. Mae’n gyfle am gyfraniad sylweddol i gynhyrchu pŵer adnewyddadwy i Gaerffili, Rhondda, a Chymru, yn ogystal â phecyn sylweddol o fuddion i’r cymunedau lleol o amgylch y safle,” dywedodd Matthew Haughton, Rheolwr Prosiect Parc Ynni Twyn Hywel.

Bydd y gronfa buddion cymunedol yn cefnogi grwpiau, gwasanaethau a phrosiectau lleol i gyflawni o dan ei 5 thema – hamdden ac iechyd, yr amgylchedd a diwylliant, cyflogadwyedd, addysg a chostau byw. Mae’r tîm buddion cymunedol yn gweithio gyda grwpiau i ddod o hyd i fuddsoddiadau’r dyfodol ac i ddefnyddio’r set amrywiol o sgiliau o fewn ei weithlu, i helpu i gefnogi anghenion partneriaid cymunedol drwy ei bolisi gwirfoddoli staff.

Dywedodd Dave Brunton, Rheolwr Prosiect Canolfan Ieuenctid Senghennydd:

“Y peth pwysicaf i ni yw bod Matthew a Catryn (Cyfarwyddwr Cronfa Budd Cymunedol) yn gwrando ar ein barn ar sut yr hoffem esblygu a thyfu fel canolfan ieuenctid. Byddwn yn gweithio gyda Bute Energy i gyflawni pethau gwych i’r rhai sy’n mynychu ein sesiynau ieuenctid. Trwy weithredu ar y cyd, bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl ifanc sy’n byw yn Senghennyd – ac mae hynny’n foment bwerus i’n cymuned.”

Bydd Bute Energy yn cynnal arddangosfeydd yn Senghennydd, Trallwn, Cilfynydd, Nelson, Abertridwr a Llanbradach, ynghyd â gweminar ar-lein, er mwyn i drigolion lleol gael gwybod mwy am y cynlluniau a chael dweud eu dweud wrth greu’r parc ynni.

Dewch i ddarganfod mwy am y prosiect yn un o arddangosfeydd Parc Ynni Twyn Hywel yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr:

  • Gweminar ar-lein – Dydd Iau 8 Rhagfyr, 6-7pm
  • Canolfan Gymunedol Senghennydd – Dydd Mercher 30 Tachwedd, 12pm-7.30pm
  • Canolfan Gymunedol Trallwn – Dydd Iau 1 Rhagfyr, 12pm-7.30pm
  • Canolfan Gymunedol Cilfynydd – Dydd Gwener 2 Rhagfyr, 1pm-4pm
  • Institiwt Nelson – Dydd Llun 5 Rhagfyr, 12pm-7.30pm
  • Institiwt Nelson – Dydd Mawrth 6 Rhagfyr, 12pm-7.30pm
  • YMCA Abertridwr – Dydd Mercher 7 Rhagfyr, 12pm-7.30pm
  • Canolfan Gymunedol Llanbradach – Dydd Iau 8 Rhagfyr, 12pm-7.30pm

Mae gan aelodau’r cyhoedd tan ddydd Llun 9 Ionawr 2023 i anfon eu syniadau a’u hadborth at twyn.hywel@bute.energy neu ffoniwch 02920 023682. I ddarllen mwy am y prosiect, ewch i wefan Bute Energy. Dilynwch ni ar Instragram, YouTube a LinkedIn.