Mae Bute Energy yn falch i gefnogi Sefydliad DPJ a Gofal Hosbis Dewi Sant fel ei elusennau swyddogol mewn partneriaeth a fydd yn ei lle am dair blynedd.
Dyma lansio prosiect partneriaeth elusennol cyntaf Bute Energy, sy’n ceisio helpu pobl ledled Cymru drwy themau allweddol o ran cymorth – iechyd meddwl, cymorth gwledig, costau byw a hosbisau. Bydd yr elusennau yn elwa o becyn cymorth llawn, a mae’r bartneriaeth o fudd i’r ddwy ochr. Bydd y ddwy elusen hefyd yn helpu staff Bute Energy i wella llesiant ac ymdeimlad o gysylltiad â’r gymuned.
Enwebodd y tîm yn Bute Energy 19 o elusennau roedden nhw’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw i fod yn bartner elusennol posib ar gyfer y cwmni. Crëwyd rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau roedden nhw’n cyd-fynd â themâu’r sefydliad a gwahoddwyd pob elusen i ymgeisio. Cafodd pleidleisiau eu cyfrif i ddewis y ddau lwyddiannus:-
Dywedodd Catryn Newton, Cyfarwyddwr Buddion Cymunedol Bute Energy:
“Ein nod yw sicrhau ein bod yn gweithio’n agos gyda phobl ledled Cymru i nodi’r meysydd lle mae angen darparu buddion uniongyrchol. Mae’n bleser gennym groesawu’r elusennau a ddewiswyd i deulu Bute Energy, wrth i ni weithio ochr yn ochr â nhw i’w helpu i gael mynediad at sgiliau drwy wirfoddoli, codi arian ymhlith staff a chymorth ariannol ar gyfer eu prosiectau. Mae ein tîm yn awyddus i ddechrau gwirfoddoli gyda’r elusennau a ddewiswyd, yn ogystal â chynnig cymorth medrus, cynorthwyo gyda cheisiadau grant, gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol a chynllunio busnes, i enwi dim ond rhai.
“Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a chymunedau yn y lleoliadau rydyn ni’n gweithredu ynddyn nhw yn bwysig i ni, ac mae gweithio gyda’n partneriaid elusennol nid yn unig yn rhoi’r cyfle i’n staff gefnogi eu cymunedau, ond hefyd yn ein helpu ni i ddatblygu ein gwybodaeth a’n galluogi i ddarparu buddion cymunedol mwy cynhwysol i grwpiau, elusennau a sefydliadau yng Nghymru.”
Ychwanegodd Kate Miles, Rheolwr Elusennol Sefydliad DPJ:
“Mae Sefydliad DPJ mor falch bod staff Bute Energy wedi’n dewis ni fel un o’r elusennau y byddan nhw’n codi arian ar eu cyfer yn ystod y tair blynedd nesaf. I elusen fach fel Sefydliad DPJ, mae cael ein dewis yn golygu y byddwn yn cael cyfle i gyrraedd mwy o bobl gyda’n gwasanaeth sy’n achub bywydau, gan fod pob punt sy’n cael ei godi yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Bydd hefyd yn galluogi mwy o bobl i glywed am y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda’r gymuned amaethyddol yng Nghymru, ac sydd eisoes wedi dechrau mwy o sgyrsiau am iechyd meddwl a llesiant.
“Yn Sefydliad DPJ, rydyn ni’n cefnogi pobl mewn amaethyddiaeth sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl drwy ein llinell gymorth a’n gwasanaeth cwnsela Rhannwch y Baich. Mae’n costio tua £1,000 y mis i ni redeg y llinellau cymorth dros y ffôn a’r neges destun, a dyna pam rydyn ni mor falch o gael ein dewis fel un o’r elusennau y bydd staff Bute Energy yn ei chefnogi. Rydyn ni wedi clywed rhai o’r syniadau gwych sydd gan staff Bute Energy i godi arian ar ein cyfer a’r elusennau arall sydd wedi’u dewis, felly rydyn ni’n gyffrous i weld beth fyddan nhw’n ei wneud.”
Dywedodd Emma Saysell, Prif Weithredwr Gofal Hosbis Dewi Sant:
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Bute Energy am ein dewis ni fel un o’u helusennau mewn partneriaeth tair blynedd sy’n caniatáu i ni feithrin perthynas waith wych nid yn unig i godi arian ond hefyd i addysgu’r staff ynglŷn â’r gwasanaethau rhad ac am ddim niferus rydyn ni’n eu darparu’n lleol i gleifion a’u teuluoedd. Rydyn ni’n ymwybodol bod gan staff eu syniadau arloesol eu hunain i godi arian, ac edrychwn ymlaen at glywed mwy amdanyn nhw, yn ogystal ag annog y tîm i edrych ar y calendr helaeth o ddigwyddiadau rydyn ni’n eu trefnu.”
Mae Bute Energy wedi’i leoli yng Nghymru ac yn gweithredu nawr i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, yr argyfwng ynni a’r argyfwng costau byw, drwy greu dyfodol positif i Gymru gydag ynni glân, gwyrdd. Mae Tîm Buddion Cymunedol Bute Energy yn arwain y gwaith o ddarparu Buddion Cymunedol o dan bum thema – Cymorth gyda chostau byw, Hamdden ac Iechyd, Addysg, yr Amgylchedd a Diwylliant a Chyflogadwyedd. Mae buddsoddiad y cwmni yn y maes hwn yn dangos yr ymrwymiad i wneud y mwyaf o’r buddion i gymunedau Cymreig, gyda chymorth ariannol sy’n uwch na lefelau safonol y diwydiant.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd