Home » Newyddion » Ymgynghoriad Cyhoeddus ar agor ar gyfer Parciau Ynni Banc Du a Rhiwlas

Ymgynghoriad cyhoeddus ar agor ar gyfer Parciau Ynni Banc Du a Rhiwlas

Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau cyhoeddus ar gyfer Parc Ynni Banc Du a Pharc Ynni Rhiwlas – dau brosiect arfaethedig sy’n gamau hanfodol tuag at Gymru wyrddach a mwy cynaliadwy.

Mae’r ymgynghoriadau hyn yn rhoi cyfle i chi edrych ar fanylion cynnar ein cynlluniau a rhoi gwybod i ni beth ydych chi’n ei feddwl cyn i ni gyflwyno ceisiadau cynllunio ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

Beth rydyn ni'n ei gynnig?

Mae’r ddau brosiect yn cael eu dosbarthu fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS), sy’n golygu y byddant yn gwneud cyfraniad ystyrlon at dargedau ynni’r wlad.

Y ffenestr i roi eich adborth ar y ddau barc ynni yw dydd Llun 16 Mehefin 2025.

Parc Ynni Banc Du

Wedi’i leoli tua 2km i’r gogledd-orllewin o bentref croesawgar Llangurig, mae Parc Ynni Banc Du yn gam cyffrous ymlaen ym maes ynni adnewyddadwy i Gymru. Bydd y datblygiad hwn yn cynnwys hyd at 6 tyrbin gwynt datblygedig, sy’n gallu cynhyrchu tua 39.6MW o ynni glân, gwyrdd – digon i bweru dros 40,000 o gartrefi bob blwyddyn*.

Parc Ynni Rhiwlas

Wedi’i leoli i’r dwyrain o Ddolfach, tua 1.3km i’r de-ddwyrain o Langurig, mae Parc Ynni Rhiwlas yn gam cyffrous ymlaen ym maes ynni adnewyddadwy i Gymru. Bydd y datblygiad hwn yn cynnwys hyd at 13 tyrbin gwynt datblygedig, sy’n gallu cynhyrchu hyd at 85.8MW o ynni gwyrdd glân – digon i bweru tua 79,000 o gartrefi y flwyddyn*.

Pam mae'r datblygiadau'r bwysig

Nid yw’r parciau ynni hyn yn ymwneud â chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn unig – maent yn ymwneud â sicrhau dyfodol ynni Cymru mewn ffordd sy’n parchu cymunedau lleol, yn diogelu’r amgylchedd, ac yn cefnogi gwytnwch economaidd.

Stu i ddysgu mwy a rhannu adborth

Gallwch nawr weld yr holl ddogfennau ategol a chynlluniau ar gyfer y ddau ddatblygiad ar-lein ar wefan y naill na’r llall o barciau ynni – cliciwch yma i ymweld â gwefan Parc Ynni Banc Du, ac yma i ymweld â gwefan Parc Ynni Rhiwlas.

Yno, fe welwch fanylion hefyd ar sut i roi eich adborth:

drwy ffurflen arlein

mewn digwyddiadau ymgynghori

ymuno â gweminar

cwblhau ein harolwg digidol

 

Gadewch i ni adeiladu Cymru wyrddach, gyda'n gilydd

Rydym yn falch o’r hyn y mae’r prosiectau hyn yn ei gynrychioli. Ond yn fwy na hynny, rydym wedi ymrwymo i wneud hyn yn y ffordd iawn – trwy dryloywder, ymddiriedaeth a gwaith tîm.

Diolch am gymryd yr amser i fod yn rhan o’r broses. Mae eich barn yn bwysig, ac maen nhw’n helpu i lunio beth sy’n dod nesaf.

Ein parciau ynnig gwynt ar dir

Rydym yn datblygu teulu o barciau ynni gwynt ar y tir ledled Cymru sydd â’r gallu i gynhyrchu 2GW o ynni glân, gwyrdd – digon i bweru dros 2.2 miliwn o gartrefi.

Darganfyddwch fwy am barciau ynni.