Rydym yn cynllunio parc ynni adnewyddadwy o’r enw Parc Ynni Esgair Galed, i’r de-ddwyrain o Fachynlleth ac i’r de o Lanbrynmair ym Mhowys, yng nghanolbarth Cymru.
Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 26 tyrbin sy’n cynhyrchu tua 171MW o ynni glân a gwyrdd, sy’n ddigon i bweru’r hyn sy’n cyfateb i rhwng 113,000 a 179,000 o gartrefi bob blwyddyn*, a helpu i ddisodli tua 266,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn.
Bydd y prosiect hefyd yn darparu manteision sylweddol i’r gymuned leol, gan gynnwys Cronfa Budd Cymunedol flynyddol gwerth oddeutu £1.2 miliwn yn seiliedig ar ddyluniadau cyfredol.
Mae’r prosiect yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). Mae hyn yn golygu y bydd cais yn cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.
* Defnydd cyfartalog aelwydydd yn y DU wedi’i gymryd o RenewableUK
Mae’r cynlluniau cynnar yn cynnwys traciau mynediad a seilwaith cysylltiedig arall gan gynnwys is-orsaf, adeilad rheoli, cyfarpar mesur gwynt a chompowndiau adeiladu a storio dros dro. Mae’r llwybr trafnidiaeth ar gyfer cydrannau tyrbinau i’r safle yn dal i gael ei archwilio, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu yng ngham nesaf yr ymgynghoriad.
Bydd dyluniad manwl y Parc Ynni yn esblygu dros y misoedd nesaf, ar ôl gwrando ar adborth pobl leol ac ymgyngoreion statudol, yn ogystal â’r asesiadau amgylcheddol a thechnegol sy’n mynd rhagddynt yn barhaus.

Mae’r elfennau graffig sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn yn rhan o’i hunaniaeth brand weledol ac fe’i cynlluniwyd i helpu i greu ymdeimlad o le a’i wahaniaethu oddi wrth brosiectau eraill. Nid yw’n darlunio’r parc ynni arfaethedig, ei seilwaith, na’i ymddangosiad terfynol.
Er nad ydym yng nghyfnod ymgynghori ein prosiect, rydym yn parhau i gyfarfod ag aelodau’r gymuned leol bob chwarter – trwy Grŵp Cyswllt Cymunedol pwrpasol. Yma, rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf, yn ateb cwestiynau ac yn gofyn am arweiniad.
Dysgu mwy
Cael y newyddion diweddaraf i gyd