Pam mae’r safle hwn wedi cael ei ddewis?
Mae ein hastudiaethau hyd yma yn dangos bod gan y safle ym Mharc Ynni Esgair Galed gysylltiad rhagorol ag adnoddau gwynt, bod ganddo addasrwydd technegol ac amgylcheddol a bod datblygiadau gwynt wedi hen ennill eu plwyf yn yr ardal.
Faint o dyrbinau gwynt fydd yno?
Ein cynnig cychwynnol yw darparu hyd at uchafswm o 26 tyrbin ar y safle. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei fireinio wrth i ni gael rhagor o wybodaeth o’n hasesiadau technegol (fel effaith amgylcheddol, effaith weledol, a modelu sŵn) a’n harolygon, yn ogystal ag mewn ymateb i adborth gan ymgyngoreion, rhanddeiliaid a phobl leol.
Beth yw’r manteision i’r gymuned?
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Esgair Galed yn manteisio i’r eithaf ar effaith gadarnhaol y prosiect yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Yn ogystal â sicrhau bod y Parc Ynni yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i gyrraedd targedau lleol a chenedlaethol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, rydym hefyd yn awyddus i weithio’n agos gyda darparwyr sgiliau a’r gadwyn gyflenwi ehangach i sicrhau bod ein buddsoddiad yn cefnogi cyfleoedd swyddi a hyfforddiant ym Mhowys a Chanolbarth Cymru yn ehangach.
Fel rhan o’r prosiect, bydd Bute Energy yn buddsoddi yn y cymunedau agosaf at ein prosiectau drwy ein Cronfa Budd Cymunedol sy’n cael ei rheoli’n annibynnol.
Mae ein tîm eisoes yn gweithio i ddeall dyheadau’r cymunedau ar gyfer yr ardal ac i ddeall rhai o’r prif heriau sy’n eu hwynebu. Byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi grwpiau, elusennau, a gwasanaethau lleol â chyllid i gynnal ac ehangu eu gwaith a chreu prosiectau arloesol newydd, ac i helpu sefydliadau i gyfuno eu harbenigedd er mwyn creu prosiectau gwaddol ar raddfa fawr.
Dwedwch wrthym sut gallwn ni gefnogi prosiectau yn eich cymunedau, er mwyn i’n prosiectau ddod â budd gwirioneddol i bobl leol.
Byddai’r cynigion yn golygu bod Esgair Galed yn cynhyrchu oddeutu 171MW.
Mae hyn ar gyfradd o £7,500 y MW sy’n gysylltiedig â’r mynegai, sy’n golygu tua £1.2 miliwn y flwyddyn a thua £48 miliwn dros oes y prosiect.
Sut byddwch chi’n cael mynediad i’r safle a sut bydd yr offer yn cael ei ddanfon?
Rydym yn dal ar gam cynnar iawn o ran nodi’r llwybrau gorau i sicrhau bod traffig sy’n teithio i’r safle ac oddi yno yn gallu gwneud hynny’n ddiogel, gan gael cyn lleied o effaith â phosibl ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach. Bydd cynllun rheoli trafnidiaeth llawn ar gael yng ngham nesaf yr ymgynghoriad.
Bydd dyluniad manwl y Parc Ynni yn esblygu dros y misoedd nesaf, gan ystyried yr adborth gan bobl leol ac ymgyngoreion statudol yn yr ymgynghoriad, yn ogystal ag asesiadau amgylcheddol a thechnegol parhaus.
Sut bydd y prosiect yn cysylltu â’r grid trydan?
Yng Nghanolbarth Cymru, nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y capasiti i gysylltu’r holl ynni adnewyddadwy newydd arfaethedig â chartrefi a busnesau – mae angen seilwaith newydd arnom ar fyrder er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil.
Ar hyn o bryd, cynigir y bydd Esgair Galed yn cael ei gysylltu drwy linell uwchben ar bolion pren. Bydd y cysylltiad yn rhedeg i’r gogledd, tuag at is-orsaf afaethedig ‘Bryn Gwyn’ ger Cefn Coch.
Bydd Green GEN Cymru yn cyflwyno rhagor o fanylion am y cysylltiad arfaethedig hwn fel rhan o ymgynghoriad ar wahân
Bydd proses ganiatâd ar wahân ar gyfer hyn fel rhan o Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).
Cael y newyddion diweddaraf i gyd