Wedi’i lansio yn 2025, mae ein Bwrdd Cynghori Ieuenctid yn dwyn ynghyd a chwech o bobl ifanc angerddol ac uchelgeisiol i gynghori ac arwain y busnes ar gyfathrebu, addysg ac ymgysylltu ag ieuenctid.
O dan arweiniad llwyr yr aelodau eu hunain, bydd y grŵp yn dod yn ymgynghorwyr ifanc sy’n gweithredu fel canllaw’r busnes i ddeall yn well beth sy’n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru o ran eu sgiliau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
Wrth ymgymryd â’r cyfrifoldeb pwysig hwn, bydd yr aelodau’n ennill sgiliau fel sgiliau cyfathrebu a threfnu, trwy hyfforddiant proffesiynol a mynediad at rwydweithiau o fewn byd ynni adnewyddadwy. Mae’r Bwrdd yn blatfform i alluogi pobl ifanc o bob cwr o Gymru i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol a fydd yn rhoi hwb i’w gyrfaoedd yn y dyfodol a thu hwnt.
Amy, 23
Aelod o'r Bwrdd
Ciri, 20
Aelod o'r Bwrdd
Jess, 22
Aelod o'r Bwrdd
Owain, 18
Aelod o'r Bwrdd
Perys, 21
Aelod o'r Bwrdd
Gwnaeth y bobl ifanc hyn gais i ddod yn aelodau o grŵp a fydd nid yn unig yn cynghori Bute Energy ar faterion pwysig ac a fydd yn effeithio ar bobl ifanc o ran ynni adnewyddadwy, ond hefyd yn galluogi’r aelodau i ddysgu sgiliau newydd – i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae pob aelod wedi ymrwymo i hyd at ddwy flynedd yn eu swydd ar y Bwrdd.
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn chwarterol am gyfnod o ddwy flynedd yn bersonol ac yn rhithiol.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd