Y prosiect

Diweddariadau ar y Cynnig

Mae’r cynigion wedi cael eu diweddaru yn dilyn canlyniadau arolygon ac adborth a dderbyniwyd gan y gymuned a rhanddeiliaid allweddol fel rhan o’n hymgynghoriad blaenorol.

Rydym wedi newid dyluniad ein safle i:

  • Leihau cysgodion symudol a sŵn posibl mewn eiddo cyfagos;
  • Lleihau datblygiad ar dir comin;
  • Lleihau’r effeithiau ar y dirwedd, amwynder gweledol a nodweddion hanesyddol; a
  • Lleihau’r effeithiau ar y cyrsiau dŵr ar draws y safle.
Transport Development Icon Rydym yn cynnig uwchraddio cyffordd ffordd bresennol a phriffordd i’r safle i leihau faint o ddatblygiad newydd fydd ar Fryn Aberedw.
Land Development Icon Rydym wedi dewis lleoliad is-orsaf ger yr A481 a fydd wedi’i ddylunio i edrych fel sied fferm a bydd yn creu cysylltiad haws â’r grid. Bydd gan hwn fynediad ei hun, a fydd wedi’i uwchraddio, o’r A481.
Aviation Development Icon Rydym wedi cytuno ar ein cynllun goleuadau hedfanaeth gyda’r Awdurdod Hedfan Sifil ac mae’n cydymffurfio â chanllawiau’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Y broses gynllunio

Oherwydd faint o ynni adnewyddadwy glân y bydd y prosiect o bosibl yn ei gynhyrchu, fe’i dosbarthir fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC), gan danlinellu ei bwysigrwydd i drawsnewid ynni gwyrdd Cymru.

Ar ôl cyflwyno, bydd Cyngor Sir Powys yn paratoi Adroddiad ar yr Effaith Leol a fydd yn sicrhau bod effeithiau lleol cadarnhaol, niwtral ac andwyol yn cael eu hystyried yn y broses.

Bydd y cais cynllunio DNS ynghyd â’r holl wybodaeth ategol a’r Adroddiad ar yr Effaith Leol yn cael eu cyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a fydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru ar gyfer penderfyniad.

Asesiadau amgylcheddol

Er mwyn sicrhau bod Parc Ynni Aberedw wedi’i gynllunio gyda gofal a sensitifrwydd, rydym wedi cynnal arolygon helaeth ar briddoedd, adnoddau dŵr, ecoleg, adareg, sŵn, awyrenneg, goleuadau a thirwedd ac effaith weledol. Mae’r asesiadau hyn wedi ein helpu i benderfynu ar y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer y tyrbinau a sicrhau yr eir i’r afael ag unrhyw effeithiau posib gyda mesurau lliniaru cadarn.

Mae ein harolygon ac asesiadau hefyd wedi casglu data ar ddatblygiadau cyfagos arfaethedig i asesu effeithiau cronnus tebygol y parc ynni. Bydd hyn yn ystyriaeth gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a Gweinidogion Cymru.

Mae canlyniadau a chanfyddiadau’r arolygon a’r asesiadau wedi’u manylu yn y Datganiad Amgylcheddol, sydd ar gael i’w weld yma ar dudalen Dogfennau’r Prosiect.

Mae ein Datganiad Amgylcheddol yn amlinellu’r holl arolygon a gynhaliwyd a’r camau rydym yn eu cymryd i ddiogelu’r amgylchedd:

Ecoleg

Bydd y prosiect yn sicrhau budd net i fioamrywiaeth yn ystod ei oes, gan gynnwys creu ac adfer cynefinoedd. Bydd y gwelliannau hyn, a wneir o dan reolaeth gynefinoedd briodol am gyfnod 40 mlynedd y prosiect, o fudd i fywyd gwyllt ar draws y safle drwy gynyddu ansawdd, amrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd.

Adareg

Rydym wedi cynnal arolygon manwl o adar ar draws y safle, gan gynnwys arolygon o bwyntiau gwylio, tymor bridio, adar ysglyfaethus ac arolygon cerdded yn y gaeaf.

Rhoddwyd sylw arbennig i rywogaethau fel yr Hebog Marthin, y Barcud Coch a’r Cwtiad Aur a allai gael eu heffeithio yn ystod y gwaith adeiladu a / neu a allai fod mewn perygl o wrthdrawiad.

Er mwyn lleihau’r risg, rydym wedi defnyddio modelu risg gwrthdrawiadau i helpu i lunio dyluniad y safle a lleihau effeithiau posibl. Rydym wedi ychwanegu parthau byffer o amgylch safleoedd nythu adar gwarchodedig a bydd Cynllun Diogelu Adar yn tywys y gwaith adeiladu i osgoi aflonyddwch.

Hydroleg, hydroddaeareg a daeareg

Rydym wedi cynnal amrywiaeth o arolygon i ddeall amgylchedd dŵr a chyflwr daear presennol y safle, gan gynnwys astudiaethau desg a gwaith maes. Profwyd pridd mewn amrywiol leoliadau, a mapiwyd yr holl nodweddion dŵr yn ofalus. Mae ardaloedd bach o briddoedd mawnaidd wedi’u nodi a’u hosgoi yn y dyluniad.

Mae nifer o gyflenwadau dŵr preifat ar y safle. Er mwyn eu diogelu, byddwn yn cynnal asesiadau pellach ac yn monitro ansawdd dŵr yn rheolaidd yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd y canfyddiadau hyn yn llywio Cynlluniau manwl ar gyfer Rheoli Pridd, Dŵr Wyneb ac Amgylchedd Adeiladu, a ddatblygir gydag arbenigwyr ac a gedwir yn gyfredol drwy gydol y gwaith adeiladu a’r gweithrediad.

Hedfanaeth a goleuo

Rydym wedi gweithio’n agos â’r Awdurdod Hedfan Sifil, y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol, a’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod ein cynlluniau’n cydymffurfio’n llawn â rheoliadau diogelwch hedfanaeth. O ystyried uchder y tyrbinau, bydd angen goleuadau diogelwch hedfanaeth a lle bynnag y bo modd, bydd y cyfluniad goleuadau terfynol yn cael ei optimeiddio i leihau’r effaith weledol ar yr ardal leol a’r effaith ar awyrennau.

Byddai goleuadau arbennig yn cael eu defnyddio i leihau disgleirdeb tuag i lawr, gan ei wneud yn llai gweladwy oddi isod.

Effaith ar y dirwedd ac effaith weledol

Rydym wedi cwblhau Asesiad Effaith Gweledol a Thirwedd cynhwysfawr, gan adolygu golygfannau allweddol hyd at 28km o dyrbinau mwyaf allanol y safle a 33km o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr tirwedd Cyngor Sir Powys.

Rydym hefyd wedi cynnal Asesiad Amwynder Gweledol Preswyl manwl o bob eiddo preswyl o fewn 2km o’r safle.

Yr Amgylchedd Hanesyddol

Rydym wedi cynnal asesiadau cefndir archeolegol a hanesyddol helaeth o’r safle a’r ardal gyfagos. Canfu’r asesiadau hyn bedwar ased hanesyddol dynodedig o fewn y safle, ac mae dyluniad y datblygiad arfaethedig wedi ystyried yn ofalus ac wedi osgoi effeithio’n uniongyrchol arnynt. Bydd ein Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu yn nodi mesurau arfer gorau i leihau niwed i asedau hanesyddol heb eu dynodi ac anhysbys yn ystod y gwaith adeiladu.

Bydd effaith sylweddol ar leoliad dau ased hanesyddol dynodedig, sef Crugiau Crwn Bryn Aberedw (Cyf. Cadw. RD074) a Chwt Hir Amgaeëdig Cwmblaenerw (Cyf. Cadw RD169), tra bod y Parc Ynni ar waith. Bydd yr effaith hon yn dod i ben unwaith y bydd y parc wedi’i ddadgomisiynu.

Yn ystod y gwaith adeiladu, byddwn yn cyflogi archaeolegwyr i gadw a chofnodi gweddillion unrhyw asedau heb eu dynodi a allai gael eu heffeithio’n ffisegol, gyda gwaith wedi’i gytuno â Heneb (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys gynt).

Cysgodion symudol

Rydym wedi asesu’r potensial ar gyfer cysgodion symudol mewn eiddo preswyl cyfagos, ffenomen a achosir gan gylchdroi llafnau tyrbinau yn taflu cysgodion ysbeidiol o dan amodau tywydd penodol. Gellir rhagfynegi’r effaith hon yn gywir, a byddwn yn gweithredu mesurau lliniaru megis atal tyrbinau dros dro yn ystod cyfnodau brig cysgodion symudol.

Sŵn

Rydym wedi cynnal gwaith monitro sŵn ac asesiadau effaith trylwyr yn unol ag arfer gorau, deddfwriaeth berthnasol ac mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Powys. Mae hyn yn sicrhau bod terfynau sŵn yn cael eu gosod i amddiffyn trigolion lleol a diogelu amwynder preswyl.

Bydd unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn cynnwys terfynau sŵn llym, ac rydym wedi cymryd camau drwy ddyluniad y prosiect i sicrhau nad eir heibio i’r terfynau hyn. Bydd sŵn dros dro yn ystod y gwaith adeiladu yn cael ei reoli drwy Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu, sy’n cynnwys oriau gwaith cyfyngedig i leihau aflonyddwch.

Newid yn yr Hinsawdd

Rydym wedi cyfrifo y bydd Parc Ynni Aberedw wedi cynhyrchu digon o ynni gwyrdd o fewn y flwyddyn gyntaf o weithredu i ad-dalu cost carbon ei adeiladu a’i weithredu yn erbyn cymysgedd tanwydd ffosil o gynhyrchu trydan.

Mae’r gost carbon i adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r Parc Ynni wedi’i chyfrifo yn rhan o’r cais cynllunio. Mae hyn yn cynnwys y carbon a grëir wrth adeiladu’r tyrbinau, y concrit a ddefnyddir yn y sylfeini a’r carbon a ryddheir wrth gloddio sylfeini.

Mynediad

Y prif fynediad ar gyfer Parc Ynni Aberedw fydd trwy gyffordd mynediad wedi’i huwchraddio oddi ar y ffordd C1336.

Bydd y gyffordd mynediad hon yn darparu’r unig fynediad ar gyfer yr holl lwythi annormal sy’n gysylltiedig â danfoniadau’r tyrbinau yn ogystal â mynediad i gerbydau nwyddau trwm sy’n danfon deunydd adeiladu a mynediad i’r gweithwyr adeiladu.

Mae ail bwynt mynediad wedi’i leoli’n uniongyrchol oddi ar yr A481, i’r gogledd o’r Safle, i hwyluso mynediad i’r is-orsaf yn ystod y cyfnod adeiladu a gweithredu yn unig. Ni fydd mynediad o’r is-orsaf i brif ardal tyrbin gwynt y safle.

Bydd unrhyw waith ychwanegol sy’n ofynnol ar gyfer cludo llwythi annormal sydd angen caniatâd ar wahân yn cael ei gyflwyno ar ôl ymgynghori â’r awdurdodau cynllunio a phriffyrdd lleol perthnasol.

Bydd Cynllun Rheoli Trafnidiaeth yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â’r heddlu, awdurdodau priffyrdd a chludwyr i sicrhau bod cydrannau’n cael eu cludo’n ddiogel ac yn effeithlon ac i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, er enghraifft mae’n ystyried amseroedd teithio i’r ysgol a digwyddiadau allweddol.

Is-orsaf

Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys newid sylweddol o ran yr is-orsaf arfaethedig.

Yn ystod yr ymgynghoriad Cysylltiad Grid Aberedw a gynhaliwyd gan Green GEN Cymru yn 2024, cynghorwyd y byddai is-orsaf Parc Ynni Aberedw wedi’i lleoli ar ben Bryn Aberedw, gyda llinell uwchben polyn pren i’w chysylltu â gorsaf switsio drydanol a gynigiwyd fel rhan o brosiect Tywi Wysg a’r grid ehangach.

Rydym bellach wedi nodi lleoliad newydd ar gyfer yr is-orsaf wrth droed Bryn Aberedw, gan ddefnyddio ceblau tanddaearol i drosglwyddo pŵer o’r tyrbinau i’r is-orsaf. Bydd y trawsnewidydd grid a’r offer switsio o fewn adeilad, wedi’i gynllunio i edrych fel adeilad amaethyddol i gyd-fynd â’r amgylchedd lleol. Bydd hyn yn agos at yr orsaf switsio trydanol a gynigiwyd fel rhan o brosiect Green Gen Towy Usk.

Mae hyn nawr yn golygu:

  • Mae ceblau tanddaearol i’r is-orsaf o bosibl yn dileu’r angen am gysylltiad polyn pren i lawr ochr Bryn Aberedw.
  • Llai o effaith weledol o’r is-orsaf a’r cysylltiad grid.
  • Tynnu seilwaith o dir comin.
  • Mynediad haws i’r is-orsaf oherwydd ei bod wedi’i lleoli wrth ymyl priffordd.
  • Mynediad haws i’r rhwydwaith grid.

Rhagor o wybodaeth

Mae nifer o asesiadau ac adroddiadau wedi’u crybwyll ar y dudalen hon, a gallwch weld a lawrlwytho’r deunyddiau hyn ar dudalen Dogfennaeth y Prosiect.

Peidiwch ag anghofio cysylltu os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei wybod.

Gweld dogfennau

Map Seilwaith y Safle