Buddion economaidd a chymunedol
Bydd Parciau Ynni Banc Du a Rhiwlas yn darparu buddion sylweddol i’r gymuned leol gan gynnwys Cronfa Budd Cymunedol flynyddol o hyd at £900,000.
Bydd ein Cronfa Budd Cymunedol yn darparu cyllid i grwpiau lleol, elusennau, a gwasanaethau i gynnal eu gwaith a chreu prosiectau newydd arloesol sydd o fudd i bobl leol.
Wedi’i lunio trwy ymgysylltu â phobl leol a rhanddeiliaid, bydd cyllid budd cymunedol yn canolbwyntio ar greu cymunedau iachach, cyfoethocach trwy gefnogi gwelliannau o ran hamdden, iechyd a llesiant, gan wella’r cynnig addysg lleol ac adnabod rhagor o lwybrau i mewn i gyflogaeth i bobl leol. Bydd hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddathlu a hyrwyddo diwylliant, treftadaeth, a bioamrywiaeth lleol.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd