Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein cenhadaeth i wneud y tywydd yng Nghymru weithio ar gyfer Cymru, a thrwy wneud hynny, rhoi dyfodol ynni positif i Gymru. Mae ein gwerthoedd craidd cyson sef dewrder, angerdd, cymuned ac uniondeb yn cyd-fynd â’r genhadaeth hon. Mae’r gwerthoedd hyn wedi’u gwreiddio yn ein gwaith a’n pobl. Oherwydd y gwerthoedd hyn rydyn ni’n hapus i rannu y cyhoeddwyd yr wythnos hon bod Bute Energy wedi’i ardystio fel Lle Gwych i Weithio! Mae hon yn foment anhygoel i ni, ac rydyn ni wrth ein bodd bod ymdrechion a chefnogaeth ein gweithwyr, drwy’r gwerthoedd craidd hyn, yn cael eu harddel a’u cydnabod.
Yn Bute Energy, rydyn ni’n gweithio er budd cymunedau lleol yng Nghymru, ac mae hynny’n dechrau wrth galon y cwmni. Mae ein gwerthoedd a’n cenhadaeth craidd yn cyd-fynd â’n nod o sicrhau amgylchedd ymddiriedus i staff gyda llinellau cyfathrebu clir. I sicrhau bod diwylliant ein gweithle yn tyfu ac yn esblygu’n barhaus, mae cwestiynu’r diwylliant yn allweddol; beth sy’n gweithio, beth sy’n bleserus, pa feysydd sydd angen eu gwella. Mae hyn yn cyd-fynd â model a gwerthoedd GPTW, ac arweiniodd hynny’n naturiol at Bute Energy yn cymryd rhan ac yn cynnwys ei weithwyr yn yr arolwg ar draws y busnes. Gyda hynny mewn cof, gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn
Lle Gwych i Weithio.
Mae GPTW yn awdurdod byd-eang gyda dros tri degawd o ymchwil ac mae hynny wedi caniatáu iddynt ddatblygu model trwyadl gyda chydnabyddiaeth fyd-eang. Gyda meintioli profiad y gweithiwr wrth wraidd eu model, mae ardystiad GPTW yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pob unigolyn yn cael profiad positif cyson yn y gwaith, waeth pwy ydyn nhw na pha rôl sydd ganddyn nhw. Mae GPTW wedi amlinellu’r tri ffactor allweddol hyn o fewn eu methodoleg fel rhai hanfodol i sicrhau diwylliant gwych mewn cwmni:
Pan fydd sefydliadau’n gwreiddio’r gwerthoedd hyn yn llwyddiannus i ddiwylliant eu gweithle, mae’n rhoi hwb i’r adenillion o fuddsoddi gwerthfawr, gyda phrofiadau positif ymhlith gweithwyr yn ganolog iddo. Mae’r tri gwerth hyn yn mynd law yn llaw gyda’r sefydliad yn elwa ar arloesi a thwf busnes gwell. Fel awdurdod blaenllaw ar ddiwylliant y gweithle, nodau GPTW yw cydnabod a gwella’r amgylchedd lle mae gweithwyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ynddo.
Felly, sut mae sefydliad yn cael ei ardystio gan GWP? Rhennir y broses ardystio yn dair rhan:
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Bute Energy wedi cyflawni cyfradd ymateb o ‘84%’, gan fynd y tu hwnt i ofynion y broses ardystio. Diolch i’r staff ymroddedig yn Bute Energy a rannodd eu mewnwelediad gwerthfawr ac a roddodd adborth drwy’r arolwg, mae GPW wedi cadarnhau, fel sefydliad, ein bod ni fel tîm wedi gweithio gyda’n gilydd i adeiladu diwylliant gwerth chweil a thosturiol.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae ein Cynllun Pobl wedi canolbwyntio ar feithrin yr ymdeimlad hwnnw o berthyn. Mae’n air rydyn ni’n ei glywed dro ar ôl tro yn adborth ein cydweithwyr, a dyma’r ffactor blaenllaw yn ein diwylliant nodedig.
Ar gyfer y Tîm Pobl ac Ymgysylltu, er bod llawer o’n gweithgarwch wedi canolbwyntio ar osod y sylfaeni ar gyfer ein busnes sy’n tyfu’n gyflym, rydyn ni wedi rhoi pwyslais go iawn ar lais ein gweithwyr, ac wedi eu cynnwys ym mhob carreg filltir bwysig ar hyd y ffordd.
Rydyn ni wedi llunio cyfres o bolisïau cynhwysol sydd wedi’u llywio gan ein cydweithwyr, pobl sydd wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu profiadau bywyd a’u barn ar sut gall gweithleoedd gefnogi eu pobl yn well. Mae hyn wedi ein galluogi i roi cymorth ystyrlon ar waith ar gyfer yr holl gyfnodau pwysig, drwy bob cam o fywyd gwaith. Boed hynny’n gymorth ychwanegol i deuluoedd sy’n mynd drwy driniaeth ffrwythlondeb, absenoldeb anrhagnodol oherwydd profedigaeth sy’n cynnwys unrhyw berson neu anifail anwes, neu gymorth urddasol a gwybodus ar gyfer pethau fel trais domestig, menopos a hunaniaeth o ran rhywedd, mae ein polisïau a’n darpariaethau yn gwneud datganiad clir iawn; gallwch chi berthyn yn Bute, waeth pwy ydych chi neu beth rydych chi’n mynd drwyddo ac, i fi, dyna’r goleuni sydd wedi llywio pob menter rydyn ni wedi’i chyflawni fel tîm ac fel busnes.
Wrth i ni barhau i aeddfedu fel busnes, rydyn ni’n gweithredu mecanweithiau datblygu tebyg, llwybrau a mentrau sy’n ystyried dewisiadau unigol a dyheadau gyrfa, gan roi pŵer go iawn i botensial ein pobl.
Drwyddi draw, yr angerdd diwyro a’r buddsoddiad dwfn y mae ein pobl yn ei wneud i’r busnes a’r gwaith pwysig rydyn ni’n ei wneud sydd wedi creu diwylliant a chymuned fewnol sy’n sefyll allan. Rydyn ni’n sefyll i fyny ac yn cefnogi ein gilydd o ran yr hyn sy’n iawn, a dywedodd 95% o’n cydweithwyr wrthon ni, o ystyried popeth, fod Bute Energy yn lle gwych i weithio.
Mae ein llwyddiannau hefyd yn adlewyrchu Agenda Gwaith Teg Llywodraeth Cymru. Fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mae byd gwaith yn elfen fawr o’n bywydau a’n cylch oes. Mae’r gred hon yn cyd-fynd â GPTW yn yr ystyr bod gwaith teg wedi’i osod ochr yn ochr â rheidrwydd economaidd a busnes, ac wrth gwrs, caiff ei gydnabod yn llwyr yn Bute Energy. Rydyn ni wedi sefydlu diwylliant o berfformiad uchel yn y gweithle sy’n cael ei gydnabod gyda gwobrwyo teg. Mae’r ymroddiad sydd gan staff Bute Energy tuag at ei gilydd ac at les ei gilydd yn ddangosydd teimladwy o ganlyniadau arolwg GPTW, sy’n adlewyrchu arfer Gwaith Teg arall sydd wedi’i wreiddio yn y diwylliant.
Nawr ein bod wedi cyflawni’r ardystiad gwych hwn, byddwn yn cystadlu am y 100 Gweithle Gorau yn y DU. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd pellach i ni rannu sut rydyn ni’n adeiladu diwylliant iach yn y gweithle, yn ogystal â llywio ein cenhadaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae grymuso cymunedau yn elfen hanfodol o’n taith, ac nid yw’r gymuned o fewn y byd gwaith yn eithriad. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth gwerth ei ddathlu yn unol â rhan olaf y broses ardystio.
Mae ymddiriedaeth a pharch yn llwybr dwy ffordd, ac rydyn ni wrth ein bodd bod hyn wedi’i gyflawni drwy ymroddiad staff a’r gwerthoedd sydd wedi’u gwreiddio yn ein tîm – sy’n cael ei gydnabod drwy ardystiad Bute Energy gan GPTW. Mae’r bar wedi’i osod gan Bute Energy, ac o’r fan hon, i fyny yw’r unig ffordd: i sefydliadau yng Nghymru, cymunedau yng Nghymru a’r tywydd yng Nghymru.
Tom Callow: Pennaeth Pobl ac Ymgysylltu, Bute Energy
Cael y newyddion diweddaraf i gyd