Mae Parc Ynni Banc Du, parc ynni arfaethedig ger Llangurig, wedi cyrraedd carreg filltir newydd yn y broses ddatblygu. Mae’r cais cynllunio wedi’i ddilysu’n ffurfiol gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), 11 Medi 2026, ar ôl ei gyflwyno yn Rhagfyr 2025.
Mae PEDW yn awr wedi lansio ymgynghoriad pump-wythnos, gan wahodd trigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid allweddol i roi eu barn ar y cais, cyn i argymhelliad gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

Yn gallu cynhyrchu 40 MW o drydan gwyrdd
Digon i bweru tua 37,963 o gartrefi bob blwyddyn
Gan fuddsoddi £300,000 mewn buddion cymunedol yn flynyddolYn dilyn ymgynghori yng Ngwanwyn 2025, rydym wedi gwneud sawl newid i’r cynnig mewn ymateb i adborth y gymuned ac asesiadau amgylcheddol, gan gynnwys:
• Gostwng uchder blaen llafn Tyrbin 1 o 200m i 180m i leihau effeithiau ar y dirwedd a rhai gweledol;
a
• Cafodd Tyrbin 6 a’r pad craen cysylltiedig eu hail-leoli i leihau’r effaith ar ystlumod a threftadaeth.
“Mae derbyniad PEDW o Barc Ynni Banc Du yn nodi carreg filltir bwysig i’r prosiect. Ar ôl cyflwyno ein cais DAC i PEDW ar ddiwedd 2025, gofynnwyd i ni ddarparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol, a ddarparwyd gennym ar unwaith. Rydym yn falch o weld y prosiectau’n symud i’r cam nesaf a byddwn yn parhau i gynorthwyo PEDW wrth iddynt symud ymlaen.”
Dywed Alasdair Adey, Uwch Reolwr Prosiect ar gyfer Parciau Ynni Banc Du a Rhiwlas:
Mae PEDW bellach yn cynnal ymgynghoriad ar y cais o ydd Gwener 11 Medi i Dydd Gwener 16 Hydref 2026. Gall unrhyw un sy’n dymuno gweld y cais wneud hynny trwy chwilio rhif cyfeirnod (Banc Du – CAS-01927-F0T2T1) yn planningcasework.service.gov.wales/case.
Gall trigolion a rhanddeiliaid gyflwyno eu barn ar y cais trwy e-bostio PEDW.infrastructure@gov.wales. Y dyddiad cau ar gyfer rhoi adborth yw 16 Hydref 2026.
Mae Parc Ynni Banc Du yn ffurfio rhan o drawsnewidiad Cymru at ynni glanach, gwyrddach, cynhenid adnewyddadwy – gan gefnogi diogelwch ynni, buddsoddiad lleol, a nodau hinsawdd cenedlaethol.
Mae Parc Ynni Banc Du yn barc ynni arfaethedig tua 1.2km i’r gogledd-orllewin o Langurig.
Dysgwch fwy
Cael y newyddion diweddaraf i gyd