Home » Rhanberchnogaeth

Rhanberchnogaeth, lleol

Mae perchnogaeth ar y cyd ar brosiectau ynni lleol yn rhywbeth rydyn ni’n ei gynnig fel rhan o’n strategaeth Buddsoddi Cymunedol. Mae hyn yn sicrhau bod pobl Cymru yn gallu elwa o’r ynni gwyrdd y mae tywydd Cymru yn ei gynhyrchu, ar ein taith i ddatgarboneiddio a diogeli ynni.

Mae dwy haen i'n model ar gyfer rhanberchnogaeth leol.

Diolch i Bartneriaeth Pensiwn Cymru, bydd 388,000 o ddeiliaid cronfeydd pensiwn Awdurdodau Lleol Cymru o saith cynllun pensiwn Awdurdod Lleol yn elwa o'n prosiectau. Dyma un o'r buddsoddiadau sector cyhoeddus mwyaf mewn ynni glân Cymru hyd yma.

Cynllun ar gyfer Ynni Cymunedol: Corwen yn Arwain y Ffordd

Fel rhan o’n hymgysylltiad cymunedol ar gyfer Parc Ynni Moel Chwa, fe wnaethon ni gysylltu â Chwmni Cydweithredol Trydan Corwen ac, gyda’n gilydd, fe wnaethon ni archwilio sut y gallai Bute Energy gefnogi cam nesaf eu taith.

Darllen mwy