Home » Newyddion » Datblygwr ynni adnewyddadwy o Gymru yn lansio ymgynghoriad ar ddau barc ynni newydd ym Mhowys

Datblygwr ynni adnewyddadwy o Gymru yn lansio ymgynghoriad ar ddau barc ynni newydd ym Mhowys

Mae’r datblygwr ynni adnewyddadwy o Gymru Bute Energy wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dau barc ynni newydd ym Mhowys a allai gyda’i gilydd gynhyrchu digon o ynni glân, gwyrdd i bweru’r hyn sy’n cyfateb i dros 175,000 o gartrefi.

Mae prosiectau Parc Ynni Aberedw a Pharc Ynni Bryn Gilwern yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a byddant yn cyfrannu at gyflenwad trydan adnewyddadwy cryfach a mwy gwydn tra’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru ar gyfer trydan adnewyddadwy 100% erbyn 2035.

Bydd y prosiectau hefyd yn cefnogi’r newid o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy, gan helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â thargedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a’r argyfwng hinsawdd datganedig.

Mae’r ddau Barc Ynni arfaethedig wedi’u lleoli i’r dwyrain o Landrindod a Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys, ac mae Bryn Gilwern yn gyfan gwbl o fewn Ardal Gyn-Asesedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni gwynt ar y tir ar raddfa fawr.

Gyda’i gilydd, bydd gan y Parciau Ynni arfaethedig hyd at 34 o dyrbinau ag uchder mwyaf o 220m ym Mryn Gilwern a 200m yn Aberedw. Unwaith y byddant yn weithredol, byddant yn gallu cynhyrchu tua 192MW o ynni glân, gwyrdd. Bydd y Parciau Ynni yn cysylltu â’r rhwydwaith trawsyrru trydan trwy rwydwaith ynni gwyrdd Green GEN Cymru Tywi Wysg arfaethedig i’w adeiladu gan Green GEN Cymru, rhan o Grŵp Bute Energy.

Mae Bute Energy wedi ymrwymo i weithio gyda’r cymunedau lle maent yn datblygu eu prosiectau a’u cefnogi. Fel rhan o gynigion Parc Ynni Aberedw a Bryn Gilwern, bydd dwy Gronfa Budd Cymunedol yn cael eu sefydlu, a rhagwelir y byddant, gyda’i gilydd, yn darparu gwerth tua £1.4m o fuddsoddiad y flwyddyn yn lleol.

Mae tîm Budd Cymunedol y cwmni yn canolbwyntio ar greu llwybrau i bobl leol gael cyflogaeth, gan sicrhau mynediad arfer gorau i’n parciau ynni a gweithio gydag ysgolion lleol a chyfleusterau cymunedol i helpu i leihau biliau ynni ac ôl troed carbon.

Yn ogystal â’r gronfa, mae Bute Energy wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad yn aros mor lleol â phosibl. Bydd pob contract a ddyfernir gan Bute Energy yn ystod y gwaith datblygu ac adeiladu yn gweld partneriaid yn ymrwymo i Safon Gwerth Cymdeithasol, a fydd yn cefnogi ac yn cyfeirio partneriaid i fuddsoddi swyddi, amser, adnoddau ac arian yn y cymunedau ger prosiectau, gan anelu at gadw cymaint o fuddsoddiad Bute yng Nghymru er budd cymunedau lleol.

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng dydd Mercher 8 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2023, a chynhelir sesiynau galw heibio cymunedol i alluogi pobl leol i weld gwybodaeth am y cynigion a dweud eu dweud. Yn y rownd gyntaf hon o ymgynghori, hoffai Bute Energy glywed barn y gymuned leol ar eu cynigion sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys lleoliad y tyrbinau, adeiladau, offer a llwybrau mynediad.

Bydd tîm Budd Cymunedol Bute Energy hefyd yn mynychu’r digwyddiadau, i nodi grwpiau a gwasanaethau lleol i ymgysylltu â nhw, i helpu Bute Energy i ddeall anghenion a dyheadau’r cymunedau a’r ffordd orau o sicrhau buddsoddiad a budd i’r ardal leol.

Meddai James Nicol, Uwch Reolwr Prosiect yn Bute Energy:

“Rydym yn falch o fod yn lansio Parciau Ynni arfaethedig Aberedw a Bryn Gilwern. Gyda’i gilydd maen nhw’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd, yn lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ac yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru i sicrhau trydan 100% yn adnewyddadwy erbyn 2035.

“Mae potensial diddiwedd ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Mae Bute Energy yn cymryd camau nawr i helpu i ddarparu’r ynni glân, gwyrdd hwn i’n cartrefi a’n busnesau. “Rydym eisiau clywed barn pobol leol, fel y gallwn eu cymryd i ystyriaeth wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau. Rydym hefyd am glywed gan bobl leol ar sut y gallwn helpu i gefnogi prosiectau a mynd i’r afael â phroblemau mewn cymunedau o amgylch y safle – fel y gallwn ddarparu buddion gwirioneddol, ystyrlon a pharhaol.”

Yn dilyn y rownd hon o ymgynghoriad cyhoeddus, bydd yr holl adborth a roddir yn cael ei ystyried yn ofalus, ynghyd ag arolygon amgylcheddol, technegol ac ecolegol, cyn ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol.

Gallwch ddarganfod mwy, a thrafod y cynigion â thîm y prosiect yn un o’r arddangosfeydd cyhoeddus:

  • Dydd Iau 23 Tachwedd, 2.30-6.30pm Neuadd y Strand, Stryd Strand, Llanfair ym Muallt LD2 3AA
  • Dydd Gwener 24 Tachwedd, 10.30am-2.30pm, Canolfan Gymunedol Pen-y-bont a’r Ardal, A44, Pen-y-bont, LD1 5UA
  • Dydd Mercher 29 Tachwedd, 12-4pm, Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau (MRC), Ffordd Rhydychen, Llandrindod, LD1 6AH

Gellir gweld gwybodaeth hefyd, a rhoi adborth, ar wefannau’r prosiectau: www.aberedwenergypark.wales a www.bryngilwernenergypark.wales.

Mae Parciau Ynni arfaethedig Aberedw a Bryn Gilwern yn cael eu dosbarthu fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd Bute Energy yn gwneud dau gais ar wahân i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru ynghylch rhoi caniatâd cynllunio ai peidio. Ar hyn o bryd mae Bute Energy yn disgwyl cyflwyno cais cynllunio i PEDW yn 2025, ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus trylwyr.