Home » Newyddion » Parc Ynni Garreg Fawr yn ymuno â system gynllunio Cymru yn swyddogol.

Parc Ynni Garreg Fawr yn ymuno â system gynllunio Cymru yn swyddogol.

Gallai Parc Ynni Garreg Fawr gynhyrchu digon o drydan glân, gwyrdd i bweru hyd at 109,700 o gartrefi.

Ein Cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Garreg Fawr

Rydym wrth ein bodd yn rhannu bod y tîm prosiect sy’n arwain ar Barc Ynni Garreg Fawr wedi dod â’r cynnig yn swyddogol i system gynllunio Cymru drwy gyflwyno cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) am gyfarwyddyd ar gwmpas ein Hasesiad Effaith Amgylcheddol (EIA).

Mae hwn yn garreg filltir gynnar bwysig wrth ddatblygu’r prosiect ac rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â chymunedau ger y parc ynni arfaethedig yn fuan iawn pan fyddwn yn dechrau’r cyfnod ymgynghori yn ddiweddarach eleni.

Beth nesaf i Barc Ynni Garreg Fawr?

Wrth i ni lunio’r cynlluniau ar gyfer y datblygiad gwynt ar y tir newydd hwn, rydym am glywed gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal. Bydd y broses hon yn dechrau’n ffurfiol yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni, ond rydym am ddod i adnabod yr ardal cyn gynted â phosibl ac yn gwahodd cymunedau lleol i rannu eu barn trwy ein harolwg digidol yn y cyfamser.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ein nod yw cysylltu â chynifer o grwpiau a sefydliadau â phosibl – o gynghorau lleol a chlybiau chwaraeon i ysgolion ac elusennau – i ddeall beth sy’n wirioneddol bwysig yn eich cymuned, a sut y gallwn wneud cyfraniad ystyrlon.

Credwn y dylai datblygiadau ynni fod o fudd i’r cymunedau sy’n eu cynnal – nid yn unig trwy bŵer glân, ond trwy fuddsoddiad lleol, cyfleoedd a phartneriaethau. Dyna pam y gallai Parc Ynni Garreg Fawr ddarparu hyd at £1,155,000 bob blwyddyn i’r ardal leol trwy Gronfa Buddiannau Cymunedol, gan greu etifeddiaeth o fuddsoddiad mewn mannau cymunedol, gwasanaethau a chefnogaeth.

Beth yw Asesiad Effaith Amgylcheddol a pham mae angen gwneud cais i Lywodraeth Cymru?

Mae’r Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) yn ddogfen ganolog sy’n nodi’r holl arolygon, asesiadau ac adroddiadau a gynhaliwn i lywio dyluniad y parc ynni arfaethedig a sicrhau ein bod yn lleihau effeithiau amgylcheddol posibl. Mae’r broses hon yn cymryd sawl mis, a rhaid i ni sicrhau ein bod yn asesu’r holl ystyriaethau amgylcheddol angenrheidiol.

Ar y pwynt hwn rydym yn cyflwyno trosolwg o sut rydym yn bwriadu ymgymryd â’r gwaith hwn, a pha arolygon ac asesiadau y byddwn yn eu cynnwys. Trwy ei ‘Gyfarwyddyd Cwmpasu’, (fel arfer ar ffurf llythyr), bydd yr adran sy’n gyfrifol am gynllunio yn Llywodraeth Cymru (PEDW) yn dweud wrthym a yw ein dull arfaethedig o gyflawni hyn yn briodol, ac a oes angen i ni ystyried unrhyw faterion eraill.

Cynlluniau cynnar.

Mae’r safle arfaethedig tua 9km i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu. Rydym yn dal i fod ar ddechrau’r daith hon, ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud – felly nawr yw’r amser i gymryd rhan a helpu i lunio’r dyfodol.

Darganfod mwy