Bydd y prosiect yn sicrhau budd net i fioamrywiaeth yn ystod ei oes, gan gynnwys creu ac adfer cynefinoedd. Bydd y gwelliannau hyn a ddaw dan reolaeth briodol am gyfnod y cynllun (45 mlynedd) hefyd o fudd i fywyd gwyllt ar draws y safle drwy gynyddu ansawdd, maint, amrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd o’r sefyllfa bresennol.
Effaith ar y dirwedd ac effaith weledol
Rydym wedi cwblhau Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol (LVIA) cynhwysfawr, gan adolygu golygfeydd allewddol hyd at radiws o 45km mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr tirwedd y Cyngor. Mae pob cartref o fewn 2 km i’r tyrbinau wedi’u hasesu i sicrhau cyn lleied â phosib o darfu ar fwynderau gweledol preswyl. Mae gosodiad terfynol y 13 tyrbin, o’i gymharu â’r 15 gwreiddiol, yn arwain at welliant amlwg o ran effeithiau gweledol ac ar y dirwedd.
Rydym wedi cydweithio’n agos â’r Awdurdod Hedfan Sifil, y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol, a’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod ein cynlluniau’n cydymffurfio’n llawn â rheoliadau diogelwch hedfan. O ystyried uchder y tyrbinau, bydd angen goleuadau diogelwch hedfan. Lle bynnag y bo modd, bydd y cyfluniad goleuo terfynol yn cael ei optimeiddio i leihau’r effaith weledol ar yr ardal leol. Yn ogystal, pan na fydd y goleuadau’n cael eu cuddio gan gwmwl, bydd y goleuadau’n gweithredu ar y dwysedd lleiaf am 88% o’r amser.
Mae ein tîm wedi cynnal asesiadau cefndir archeolegol a hanesyddol helaeth o’r safle a’r ardal gyfagos. Daeth yr asesiadau hyn i’r casgliad nad oes unrhyw Dirweddau Hanesyddol Cofrestredig nac Asedau Treftadaeth Dynodedig o fewn y safle arfaethedig. Mae nifer o Adeiladau Rhestredig o fewn yr ardal gyfagos, gyda deg ohonynt wedi’u lleoli yn Llangurig, oddeutu 1.4 km i’r gorllewin o’r safle. Mae eglwys restredig Gradd II* Curig hefyd wedi’i lleoli ym mhentref Llangurig. Rydym wedi dylunio’r prosiect i osgoi effaith ffisegol uniongyrchol ar yr asedau treftadaeth hyn.
Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd protocol ar gyfer darganfyddiadau archeolegol annisgwyl yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio. Cytunir ar y protocol hwn gyda Heneb (Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys gynt), ac mae’n debygol o gynnwys:
- Sgyrsiau blwch offer neu ddulliau cyfarwyddo eraill i alluogi gweithredwyr i adnabod olion archeolegol posib.
- Protocolau ar gyfer diogelu, cofnodi ac archifo darganfyddiadau perthnasol.
- Protocolau a chynlluniau cyfathrebu ar gyfer atal gwaith dros dro ac ymgynghori â’r rhanddeiliaid perthnasol os bydd olion annisgwyl o werth/sensitifrwydd uchel neu uchel iawn.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi cynnal arolygon adaryddol helaeth ar draws y safle, gan gynnwys arsylwi mannau gwylio, asesiadau adar magu ac adar ysglyfaethus, ac arolygon cerdded dros y gaeaf. Rhoddwyd sylw arbennig i rywogaethau blaenoriaeth fel y Cwtiad Aur, Barcud Coch a Bod Tinwen, a all fod mewn perygl o wrthdrawiadau tyrbinau. I liniaru hyn, rydym wedi cynnal Modelu Risg Gwrthdrawiad cynhwysfawr fel rhan o’r broses gynllunio, gan helpu i fireinio dyluniad y safle a lleihau effeithiau posib. Yn ogystal, bydd mesurau rheoli cynefinoedd wedi’u targedu yn atal gweithgarwch ger tyrbinau, gan sicrhau eu hamddiffyn ymhellach.
Rydym wedi cynnal gwaith monitro sŵn ac asesiadau effaith trylwyr yn unol ag arfer gorau, deddfwriaeth berthnasol ac mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Powys. Mae hyn yn sicrhau bod terfynau sŵn yn cael eu gosod i amddiffyn trigolion lleol a diogelu amwynder preswyl. Bydd unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn cynnwys terfynau sŵn llym, ac rydym wedi ymrwymo i beidio â mynd y tu hwnt iddynt. Bydd sŵn dros dro yn ystod y gwaith adeiladu yn cael ei reoli drwy Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu, sy’n cynnwys oriau gwaith cyfyngedig i leihau aflonyddwch.
Hydroleg, hydroddaeareg a daeareg
Mae cyfres o astudiaethau wedi’u cynnal o’r safle er mwyn darparu dealltwriaeth fanwl o’r amgylchedd dŵr presennol a chyflwr y tir. Roedd hyn yn cynnwys asesiadau desg a sawl cam o waith maes. Archwiliwyd priddoedd drwy archwilio’r ddaear, a chynhaliwyd samplu mewn gwahanol leoliadau ar draws y safle ac mae nodweddion dŵr wedi’u mapio’n drylwyr.
Cytunir ar Gynlluniau Rheoli Amgylcheddol Pridd, Dŵr Wyneb ac Adeiladu gyda rhanddeiliaid arbenigol cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle, gan gynnwys adeiladu a gweithredu.
Nid oes unrhyw gyflenwadau dŵr preifat o fewn ffin y safle. Bydd cyflenwadau cyfagos yn cael eu hamddiffyn trwy arferion o safon diwydiant, gan gynnwys cynlluniau draenio parhaol, rheolaethau llygredd a gwaddod yn ystod y gwaith adeiladu, a chynllun monitro ansawdd dŵr. Rydym yn addo cyfathrebu’n rheolaidd â’r tirfeddianwyr perthnasol a pharatoi cyfres o fesurau brys i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau, yn yr achos annhebygol eu bod yn digwydd.
Rydym wedi asesu’r potensial ar gyfer cysgodion symudol mewn eiddo preswyl cyfagos, ffenomen a achosir gan gylchdroi llafnau tyrbinau yn taflu cysgodion ysbeidiol. Gellir rhagfynegi’r effaith hon yn gywir, a byddwn yn gweithredu mesurau lliniaru megis atal tyrbinau dros dro yn ystod cyfnodau brig cysgodion symudol.
Fel rhan o’n hymrwymiad i dryloywder, rydym wedi cyfrifo cost carbon adeiladu, gweithredu a chynnal Parc Ynni Banc Du yn ofalus. Mae hyn yn cynnwys ôl troed carbon adeiladu’r tyrbinau, y concrit a ddefnyddiwyd yn y sylfeini, a’r allyriadau a ryddhawyd yn ystod y cloddio.
O ystyried oes weithredol ragamcanol y datblygiad arfaethedig o 45 mlynedd, mae’r cyfrifiadau hyn yn dangos y bydd Parc Ynni Banc Du wedi cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy gwyrdd i ad-dalu cost carbon ei adeiladu a’i weithredu o fewn 1.7 mlynedd yn erbyn cymysgedd tanwydd ffosil o gynhyrchu trydan.
Mynediad, Traffig a Thrafnidiaeth
Y pwynt mynediad ar gyfer cludo cydrannau tyrbinau fydd trwy gyffordd flaenoriaeth syml newydd ar yr A470 i’r dwyrain o Langurig. Bydd y gyffordd mynediad yn cael ei chynnwys yn y cais am ganiatâd, a bydd yn darparu mynediad ar gyfer yr holl lwythi annormal sy’n gysylltiedig â chludo’r tyrbinau, yn ogystal â mynediad ar gyfer cerbydau nwyddau trwm (HGV) sy’n cludo deunyddiau adeiladu. Bydd angen caniatâd cynllunio ar wahân ar gyfer unrhyw waith ychwanegol sydd ei angen i gludo llwythi annormal, a gyflwynir mewn ymgynghoriad â’r Awdurdod Lleol. Bydd Cynllun Rheoli Trafnidiaeth yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â’r heddlu, awdurdodau priffyrdd, a chludwyr i sicrhau bod cydrannau’n cael eu cludo’n ddiogel ac yn effeithlon.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd