Home » Sgiliau’r Dyfodol » Safon Gwerth Cymdeithasol

Safon Gwerth Cymdeithasol

Mae ein Safon Gwerth Cymdeithasol yn golygu bod cydweithio wrth wraidd ein dull o weithio gyda’r diwydiant ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd ehangach.

Bydd ein prosiectau yn Bute Energy yn dod â buddsoddiad gwerth £3 biliwn i Gymru – rydym am gadw cymaint o’r arian hwnnw â phosibl yng Nghymru. Bydd pob tro o dyrbin yn cynhyrchu arian er budd y cymunedau sydd agosaf at ein parciau ynni arfaethedig, a’u galluogi i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol hefyd.

Nod ein Safon Gwerth Cymdeithasol yw cyfrannu’n bwrpasol at ein Strategaeth Sgiliau’r Dyfodol, fel y gallwn adeiladu’r sgiliau a’r llwybrau gyrfa angenrheidiol i’r economi werdd.

Gwerth Cymdeithasol ar Waith.

Cafodd ein hymrwymiad i werth cymdeithasol ei wireddu drwy ein partneriaeth â Drenewydd Actif Newtown i gefnogi eu cais am gyfleuster newydd o’r radd flaenaf.

Darllen mwy.