Parc Ynni Waun Hesog Cwestiynau Cyffredin

Pam ydych chi wedi dewis y safle penodol hwn? A wnaethoch chi ystyried tir coedwigaeth?

Mae’r lleoliad a nodwyd ar gyfer y tyrbinau arfaethedig wedi’i ddewis yn dilyn proses fanwl o ddewis safle, sy’n ystyried ystod o ffactorau technegol, amgylcheddol a chynllunio. Mae’r rhain yn cynnwys yr adnoddau gwynt sydd ar gael, argaeledd cysylltiad i’r grid, argaeledd tir, mynediad, effeithiau amgylcheddol posibl, ac agosrwydd at eiddo preswyl.

Mae sawl ffactor sy’n cyfyngu ar addasrwydd tir coedwigaeth ar gyfer gosod tyrbinau.

Yn gyntaf, mae tyrbinau angen bylchau, amodau tir, a llwybrau mynediad penodol at y tyrbinau i weithredu’n ddiogel ac effeithlon, sy’n aml ddim yn gydnaws â chynlluniau plannu coedwigaeth ac arferion rheoli tir. Yn ogystal, byddai angen torri coed mewn ardaloedd mawr i greu llwyfannau tyrbinau a lle addas, a all arwain at fwy o aflonyddwch ecolegol nag ar dir agored.

Yn ogystal, mae cylchrediad cwympo ac ailblannu yn cael eu rheoli’n ofalus o dan reoliadau coedwigaeth, a gall rhoi tyrbinau a gweithrediadau coedwigaeth ochr yn ochr gyflwyno heriau ymarferol. Gall coedwigoedd hefyd gael effaith andwyol ar gynnyrch gwynt a pherfformiad gweithredol pan fyddant wedi’u lleoli o fewn neu yn agos at ddatblygiad arfaethedig.

Mae ardaloedd coedwigaeth hefyd yn cefnogi ystod o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig, a byddai angen asesu gofynion amgylcheddol a rheoleiddiol llym er mwyn eu gwaredu neu eu haddasu.

Am y rhesymau hyn, er y gall safleoedd coedwigaeth ymddangos i ddechrau i gynnig cyfle i ddatblygu, maent yn aml yn cyflwyno mwy o heriau amgylcheddol a thechnegol. Mae’r lleoliad a nodwyd ar gyfer y tyrbinau arfaethedig felly wedi’i ddewis fel yr opsiwn mwyaf priodol wrth gydbwyso ymarferoldeb technegol, rhwymedigaethau diogelu’r amgylchedd, a gofynion polisi cynllunio.

Bydd yr asesiadau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn rhoi rhagor o fanylion am y rhesymeg dros ddewis y safle, a bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu fel rhan o’r broses ymgynghori.

Pa fesurau lliniaru sy’n cael eu cynnig ar gyfer perchnogion eiddo sydd agosaf at y safle arfaethedig, pa effaith a ragwelir ar brisiau eiddo, a sut y gellir cynnal yr ardal hon o harddwch naturiol a bywyd gwyllt eithriadol?

Mae ein hastudiaethau hyd yma yn dangos bod gan y safle ym Mharc Ynni Waun Hesgog gysylltiad rhagorol ag adnoddau gwynt a’i fod yn addas o ran technoleg ac yn amgylcheddol.

Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn â’r effaith bosibl ar y rhai sy’n byw agosaf at y tyrbinau arfaethedig, ac nid ydym yn tanamcangyfrif arwyddocâd y materion hyn.

Fel rhan o’r broses gynllunio ac ymgynghori, cynhelir cyfres o asesiadau technegol ac amgylcheddol manwl. Mae’r rhain yn mynd i’r afael yn benodol â materion fel amwynder preswyl, effaith gweledol ac effaith ar y dirwedd, sŵn, cryndod cysgodion ac effeithiau posibl ar eiddo. Pan fo sgil effaith yn cael ei nodi, ystyrir mesurau lliniaru priodol yn unol â gofynion cynllunio a chanllawiau arfer gorau.

Mae prisiau tai yn cael eu dylanwadu gan ystod eang o ffactorau macro economaidd cymhleth – o amodau ariannol presennol i gyfraddau llog, dalgylchoedd ysgolion, ac argaeledd swyddi – pob un ohonynt yn chwarae rôl llawer mwy arwyddocaol nag yw fferm wynt gerllaw.

Mae’r ymchwil sydd ar gael yn awgrymu nad oes unrhyw dystiolaeth gyson i gefnogi’r syniad bod byw ger fferm wynt yn effeithio’n negyddol ar werth eiddo.

Rydym yn cymryd agwedd “natur yn gyntaf” wrth ddylunio ein holl barciau ynni. Mae dynodiad yr ardal yn un o harddwch naturiol eithriadol ac mae’r bywyd gwyllt cysylltiedig â diogelu’r amgylchedd naturiol yn ystyriaeth ganolog wrth ddatblygu ein cynigion. Mae asesiadau amgylcheddol trylwyr yn cael eu cynnal i sicrhau bod effeithiau posibl ar fioamrywiaeth a chymeriad tirwedd yn cael eu deall yn llawn a’u rheoli neu eu lliniaru’n briodol.

Mae'r ardal hon y tu allan i'r ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw a ddiffinnir yn “Cymru’r Dyfodol”, a chafodd yr Ardal Chwilio Strategol flaenorol ei dileu oherwydd effaith ar y dirwedd a graddfa'r cynigion blaenorol. A yw hyn wedi'i ystyried?

Rydym yn cydnabod nad yw’r safle wedi’i leoli o fewn yr ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw a nodwyd yn “Cymru’r Dyfodol” a bod yr Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAs) blaenorol wedi’u dileu. Fodd bynnag, nid yw polisi cenedlaethol yn atal datblygu ynni adnewyddadwy y tu allan i ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw, os gall cynigion ddangos cydymffurfiaeth â pholisi cynllunio, gan gynnwys asesiad cadarn o effeithiau tirwedd a gweledol.

Rydym yn cydnabod sensitifrwydd y dirwedd leol, yn enwedig mewn perthynas â’i dynodiad a’i gwerth i gymunedau lleol. Am y rheswm hwn, mae asesiadau manwl o’r dirwedd a’r effaith weledol yn cael eu cynnal fel rhan o’r Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA). Mae asesiadau manwl eraill yn cynnwys treftadaeth, mawn, hydroleg, mwyngloddio, ac ystod eang o arolygon ecolegol. Bydd yr asesiadau hyn yn dylanwadu ar y dyluniad sy’n dod i’r amlwg ac yn ystyried yn benodol maint y tyrbinau arfaethedig, eu hagosrwydd at gymunedau, a’r effeithiau cronnol posibl, a dysgu gwersi o gynigion blaenorol yn yr ardal.

Bydd canfyddiadau’r asesiadau hyn yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r cais cynllunio i sicrhau tryloywder. Pan fydd effeithiau sylweddol yn cael eu nodi, bydd y rhain yn cael eu nodi’n glir ac ystyrir mesurau lliniaru yn unol â gofynion cynllunio.

A fydd y prosiect yn effeithio ar Barc Cenedlaethol Eryri neu'r ardal Tirwedd Arbennig?

Nid yw’r safle wedi’i leoli o fewn unrhyw dirweddau dynodedig cenedlaethol. Y dirwedd ddynodedig genedlaethol agosaf yw Parc Cenedlaethol Eryri tua 3.2km i’r gogledd o ffin y safle. Mae’r safle wedi’i leoli’n rhannol o fewn Ardal Tirwedd Arbennig (ATA) Ucheldiroedd Gogledd Ceredigion.

Fel rhan o baratoi ein cais i PEDW byddwn yn ystyried effaith y prosiect ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys pethau fel y tirwedd a gwelededd. Lle nodir unrhyw effeithiau, byddwn yn ceisio lliniaru’r rhain cymaint â phosibl.

Byddwn yn ceisio ymgysylltu â chyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gynnar yn ein hymgynghoriad i ddeall fel y gallwn ymgorffori eu barn a’u hadborth yn ein cynlluniau cyn eu cyflwyno.

Faint o dyrbinau gwynt fydd yno?

Ein cynnig cychwynnol yw darparu hyd at uchafswm o 37 o dyrbinau ar y safle. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei fireinio wrth i ni gael mwy o wybodaeth o’n hasesiadau technegol (fel effaith amgylcheddol, effaith weledol a modelu sŵn) ac arolygon, yn ogystal ag mewn ymateb i adborth gan y gymuned, ymgyngoreion arbenigol a rhanddeiliaid eraill.

A fydd y tyrbinau yn swnllyd?

Fel rhan o’n cyfnod datblygu, byddwn yn cynnal asesiad sŵn a fydd yn cael ei gyflwyno i PEDW. Bydd hyn yn amlinellu’r sŵn y disgwylid ei gynhyrchu gan y parc ynni yng nghyd-destun y sŵn cefndir ehangach o bob rhan o’r safle a’r ardal gyfagos.

Er mwyn cael caniatâd cynllunio bydd angen i ni arddangos y byddai’r tyrbinau arfaethedig yn bodloni’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer allyriadau sŵn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i waith yn ystod y cyfnod adeiladu, a bydd sŵn yn ystod y cyfnod hwn yn cael ei reoli’n agos a’i liniaru cymaint â phosibl trwy fesurau rheoledig; mae’r rhain yn cynnwys oriau gwaith sefydledig, rhaglenni rheoli sŵn ac amseroedd penodol i ddanfoniadau.

Sut ydych chi'n bwriadu cludo'r tyrbinau i'r safle?

Mae cyflenwi cydrannau tyrbin yn rhan bwysig o’r broses gynllunio, ac mae asesiadau trafnidiaeth fanwl yn cael eu cynnal i nodi llwybrau addas.

Ar hyn o bryd, y dull dan sylw fyddai defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd presennol cyn belled â phosibl, gydag unrhyw waith uwchraddio neu waith dros dro wedi’u nodi drwy’r broses asesu. Byddai’r tyrbinau yn cael eu cludo mewn rhannu gan ddefnyddio cerbydau arbenigol, a bydd yr holl lwybrau posibl yn cael eu hasesu ar gyfer addasrwydd o ran geometreg ffyrdd, capasiti pontydd, diogelwch, a lleihau’r tarfu ar gymunedau lleol.

Bydd y llwybr trafnidiaeth derfynol yn cael ei gadarnhau fel rhan o’r cais cynllunio, unwaith y bydd yr astudiaethau manwl wedi’u cwblhau ac ymgynghori wedi digwydd gyda’r awdurdodau priffyrdd perthnasol. Pan nodir effeithiau, bydd mesurau lliniaru fel gwelliannau ffyrdd dros dro, cynlluniau rheoli traffig, neu gyfyngiadau amseru yn cael eu rhoi ar waith i leihau aflonyddwch.

Byddem yn croesawu eich adborth a’ch mewnwelediad ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a allai helpu i lywio ein hasesiadau trafnidiaeth.

Sut fyddwch chi'n cael mynediad i'r safle?

Megis dechrau ydym o hyd o ran nodi’r llwybrau gorau i sicrhau y gall traffig sy’n teithio i’r safle ac oddi yno wneud hynny’n ddiogel a chyda’r effaith leiaf bosibl ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach.

Bydd dyluniad manwl y parc ynni yn esblygu dros y misoedd nesaf, gan ystyried adborth gan gymunedau ac ymgyngoreion statudol, yn ogystal ag asesiadau amgylcheddol a thechnegol parhaus.

A fydd y tir o dan y tyrbinau gwynt yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill?

Mae’n gyffredin i ffermwyr barhau i fagu da byw a/neu dyfu cnydau ar dir lle mae tyrbinau gwynt. Mae yna lawer o enghreifftiau o dir wrth ymyl ac o dan dyrbinau gwynt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hamdden, o gerdded a rhedeg, i feicio a marchogaeth ceffylau.

Yn ystod y cyfnod adeiladu byddai angen mynediad wedi’i reoli a chyfyngiadau ar y mathau o weithgareddau y gellid eu cynnal ar draws y safle. Fodd bynnag, unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau a’r parc ynni yn weithredol, bydd gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle yn gallu dychwelyd i’r arfer.

Beth fydd yn digwydd i'r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ystod y cam adeiladu a phan fydd y parc ynni'n weithredol?

Yn ystod y cam ymgynghori, efallai y bydd angen ailgyfeirio rhai hawliau tramwy cyhoeddus am resymau adeiladu ac iechyd a diogelwch. Os bydd angen hyn, byddwn yn gwneud cais am gydsyniadau perthnasol ac yn sicrhau bod cymunedau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’n gyffredin i dirfeddianwyr barhau i bori da byw ar dir lle lleolir tyrbinau gwynt. Gall pobl leol ac ymwelwyr barhau i gerdded neu heicio ar y tir o dan dyrbinau (yn amodol ar ganllawiau ar barciau penodol) ac rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda sefydliadau fel Cymdeithas Ceffylau Prydain i lunio ein Fframwaith Hamdden i gefnogi marchogion ceffylau.

A fyddwch chi'n berchen ar y tir rydych chi wedi'i nodi ar gyfer y prosiect?

Mae’r cynllun arfaethedig yn cael ei ddatblygu ar dir lle mae gennym unai gytundebau ar waith gyda thirfeddianwyr neu rydym mewn trafodaethau i sicrhau’r hawliau angenrheidiol. Rydym yn gweithio’n agos gyda thirfeddianwyr o’r dechrau’n deg ac yn parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol â nhw trwy gydol oes y parc ynni. Mae tir y parc ynni wedi’i brydlesu i Bute Energy am gyfnod o 40 mlynedd.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer prynu gorfodol. Mae lleoliad y tyrbinau yn dibynnu’n llwyr ar sicrhau cytundeb gyda’r tirfeddianwyr perthnasol, ac ni fyddai unrhyw ddatblygiad yn yr ardaloedd hyn yn mynd rhagddo heb gytundeb addas.

Mae’r holl drafodaethau yn cael eu cynnal yn unol â fframweithiau cyfreithiol perthnasol a gofynion cynllunio, ac mae tîm y prosiect wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â thirfeddianwyr a chymunedau lleol trwy gydol y broses.

Sut mae eich cynlluniau yn gydnaws â Biosffer Dyfi?

Rydym yn cydnabod fod Biosffer Dyfi wedi’i warchod fel Gwarchodfa Biosffer UNESCO ac yn cydnabod pwysigrwydd ei amgylchedd naturiol, a’r ffordd gynaliadwy o fyw a arferir gan y gymuned leol.

Rydym yn cymryd dull natur yn gyntaf gan weithio i sicrhau bod ein dyluniadau yn sensitif i’r amgylchedd ehangach – gyda’r nod o greu budd net i natur a bioamrywiaeth.

Er mwyn sicrhau bod Parc Ynni Waun Hesgog yn cael ei gynllunio gyda gofal a sensitifrwydd, byddwn yn cynnal arolygon helaeth ar ecoleg, adareg, hydroleg, daeareg a phriddoedd a thirwedd.

Bydd yr asesiadau hyn yn helpu i lywio ein cynigion dylunio i sicrhau bod ein cynlluniau yn sensitif i fywyd gwyllt, cynefinoedd a defnydd hamdden leol.

Os bydd tyrbin yn mynd ar dân yn y dalgylchoedd, sut ydych chi'n bwriadu atal mygdarthau gwenwynig – a gynhyrchir gan y tân – rhag llygru ffynonellau cyflenwadau dŵr yfed sy'n gwasanaethu Gogledd Ceredigion?

Bydd mesurau dylunio arfaethedig, ochr yn ochr â chydymffurfio â deddfwriaeth a safonau arfer gorau, yn lleihau i’r eithaf y tebygolrwydd o ddamwain neu drychineb mawr. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â methiant posibl cadernid strwythurol neu nam mecanyddol ar dyrbin.  Mae gan dyrbinau modern synwyryddion uwch sy’n synhwyro cyflymder gwynt anniogel ac sy’n cau’r tyrbin yn awtomatig. Mae hyn yn diogelu cydrannau allweddol fel y blwch gêrs, yn lleihau traul ac yn lleihau’n sylweddol y risg o dân, methiant llafnau, neu ddifrod strwythurol.

Mae RenewableUK (RUK) wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am sut mae tyrbinau’n cael eu rheoli yn ystod tywydd eithafol yn A Guide to Wind Farms in Storm Conditions.  Rydyn ni am sicrhau’r cymunedau a fyddai’n cynnal ein parciau ynni mai diogelwch yw ein blaenoriaeth uchaf. Os bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo, rydym wedi ymrwymo i broses gaffael gadarn a dim ond gyda chyflenwyr profiadol a chyfrifol y byddwn yn gweithio i sicrhau bod ein tyrbinau’n cael eu hadeiladu a’u cynnal i’r safonau uchaf.

Pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o fawn ar y safle a'r effaith ar gyrsiau dŵr lleol?

Rydym yn cydnabod bod mawndir yn gynefin sensitif iawn, sy’n cael ei werthfawrogi am ei fioamrywiaeth a hefyd ei rôl wrth storio carbon a rheoleiddio dŵr.

Mae presenoldeb posibl o fawn yn y safle arfaethedig yn cael ei asesu’n ofalus trwy ymchwiliadau manwl ar y tir fel rhan o’r Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA). Lle mae mawn yn cael ei nodi, bydd y prosiect yn cael ei gynllunio i osgoi neu leihau aflonyddwch cyn belled â phosibl. Dewisir lleoliadau tyrbin a seilwaith gyda’r nod o leihau effeithiau ar gyflwr tir sensitif, a gellir defnyddio dulliau adeiladu penodol i amddiffyn mawn a hydroleg.

Rydym yn gwbl ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhyddhau carbon a newidiadau i gapasiti cadw dŵr. Felly, bydd y broses asesu yn cynnwys cynllun rheoli mawn manwl ac astudiaeth hydrolegol, sy’n nodi sut y bydd adnoddau mawn yn cael eu diogelu, sut y bydd unrhyw effeithiau posibl ar lifogydd yn cael eu lliniaru ac, lle bynnag y bo modd, eu gwella.

Mae diogelu mawndiroedd yn ystyriaeth allweddol mewn polisi cynllunio ac amgylcheddol, a bydd angen i’r prosiect ddangos cydymffurfiaeth â’r gofynion hyn cyn y gall fynd yn ei flaen.

Ble fydd y llinellau trosglwyddo trydan newydd yn rhedeg gan fod y grid lleol ar gapasiti?

A. Bydd Green GEN Cymru yn dylunio, adeiladu a chynnal a chadw’r cysylltiad grid ar gyfer Parc Ynni Waun Hesgog.

Bydd rhagor o wybodaeth am y cysylltiad arfaethedig hwn yn cael ei chyflwyno gan Green GEN Cymru – www.greengencymru.com

Pwy fydd yn penderfynu a fydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen ai peidio?

Gan fod capasiti cynhyrchu’r parc ynni arfaethedig yn fwy na 10MW o ynni, mae’n dod o dan y categori cynllunio a elwir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).

Cyflwynir ceisiadau DNS i Weinidogion Llywodraeth Cymru i benderfynu arnynt drwy Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Felly bydd rhanddeiliaid a thrigolion lleol yn gallu rhoi eu barn ar gamau lluosog o’r broses gynllunio, gan gynnwys y cyfnodau cyn ymgeisio a phenderfynu. Y dyddiad cyflwyno arfaethedig ar gyfer y cais DNS yw 2026.

Beth yw'r ymateb hyd yma gan y cynghorau cymuned?

Mae ein hymgysylltiad â chynghorau cymuned wedi dechrau a bydd yn parhau dros y misoedd nesaf. Rydym wedi gweld parodrwydd gan gynghorau cymuned i ymgysylltu yn y cyfnod cynnar hwn, i ddarganfod mwy am y prosiect a’r cyfleoedd y gallai eu cyflwyno i gymunedau lleol.

Sut fydd cymunedau lleol yn gallu dweud eu dweud?

Gall unrhyw un ddweud eu dweud ar y cynigion ar hyn o bryd drwy gymryd arolwg byr Bute gan ddefnyddio’r platfform adborth Give My View. Yn ogystal â defnyddio Give My View yn y cyfnod cynnar hwn, byddwn yn cyfarfod ag aelodau o’r cyhoedd dros yr haf. Yna byddwn yn ysgrifennu at y trigolion a’r busnesau sy’n byw agosaf at y safle gyda gwybodaeth fanylach yn y misoedd nesaf i gasglu adborth ar ddyluniad y prosiect mewn arolwg cymunedol. Bydd gwybodaeth am y prosiect a’r arolwg ar gael ar y wefan.

Bydd Bute Energy yn cynnal ymgynghoriad statudol â chymunedau lleol, ymgyngoreion arbenigol a rhanddeiliaid eraill yng ngwanwyn 2026 cyn cyflwyno cais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol yn hydref 2026. Bydd trigolion lleol yn gallu gwneud sylwadau yn ystod y cyfnodau archwilio a phenderfynu a gynhelir gan PEDW a Gweinidogion Cymru.

Beth yw'r posibiliadau ar gyfer gostwng biliau ynni lleol a pherchnogaeth gymunedol rhai tyrbinau?

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu rhannu manteision prosiectau ynni adnewyddadwy.

O ran gostyngiad mewn biliau ynni lleol, mae modelau amrywiol yn cael eu harchwilio ar draws y sector ar hyn o bryd, gan gynnwys cynlluniau sy’n darparu gostyngiadau biliau ynni uniongyrchol neu gymorth ariannol cyfatebol i aelwydydd yn yr ardal leol.

O ran perchnogaeth gymunedol, mae modelau eisoes wedi’u sefydlu lle gall cyfran o’r prosiect fod yn eiddo i unigolion neu sefydliad cymunedol trwy gyfranddaliadau, gan alluogi i enillion ariannol uniongyrchol gael eu hail-fuddsoddi’n lleol.

Rydym wedi dewis peidio â darparu cynnig cyfranddaliadau. Bob blwyddyn, bydd hyd at 25% o’r Gronfa Budd Cymunedol ar gael i gymunedau lleol i ddatblygu prosiectau cynhyrchu ynni ar raddfa fach, fel dŵr, solar neu wynt. Trwy gyfuno ein cronfa budd cymunedol ac arbenigedd ein contractwyr a’n cyflenwyr, byddwn yn cefnogi cymunedau i ganfod a datblygu cynlluniau ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa fach – fel dŵr, solar, neu wynt – a fydd yn eiddo’n llwyr i’r cymunedau lleol.

Rydym yn awyddus i weithio gyda chynlluniau ynni cymunedol i ddatblygu prosiectau a all helpu’r ardal leol i gael budd mewn sawl ffordd, megis cynhyrchu ynni ar gyfer adeiladau lleol fel ysgolion neu werthu’r ynni yn ôl i’r grid cenedlaethol er mwyn i arian gael ei fuddsoddi yn y gymuned. Rydym eisoes yn cynnig cefnogaeth i brosiectau cymunedol sy’n dod i’r amlwg trwy ein hymrwymiad gwirfoddoli i staff a’n hymrwymiad gwerth cymdeithasol, ac yn croesawu cyfleoedd i drafod sut y gallwn ni a’n cadwyn gyflenwi ehangach helpu i gyflawni prosiectau ynni cymunedol arfaethedig.

Mae’r broses ymgynghori yn rhan bwysig o lunio sut mae buddion yn cael eu cyflawni, a bydd adborth fel hyn yn llywio’n uniongyrchol yr opsiynau sy’n cael eu hystyried.

Sut fydd y Gronfa Budd Cymunedol yn cael ei gweinyddu?

Bydd y Gronfa Budd Cymunedol yn cael ei gweinyddu drwy endid elusennol annibynnol sy’n ymwneud ag ynni i gefnogi cymunedau lleol i greu prosiectau gwaddol, i gefnogi elusennau a grwpiau ac i wella gwasanaethau.

Megis dechrau y mae Parc Ynni Waun Hesgog o hyd, ond mae tîm Buddsoddi Cymunedol Bute Energy eisoes yn gweithio gyda chynrychiolwyr cymunedol yn yr ardaloedd lleol i ddeall sut y gallant eu cefnogi nawr a phan fydd y Gronfa ar gael pan fydd y parc ynni’n dechrau cynhyrchu trydan.

Mae rhagor o wybodaeth am sut bydd ein Cronfa Budd Cymunedol yn cael ei sefydlu a’i rheoli ar gael ar ein tudalen Cymuned: Cronfa Budd Cymunedol | Bute Energy

Rydych chi'n cyfeirio at sefydliadau, cyfleusterau a grwpiau "lleol" ar gyfer eich cronfa budd cymunedol - beth yw eich diffiniad o "lleol"?

Pan gyfeiriwn at sefydliadau, cyfleusterau a grwpiau “lleol”, rydym yn golygu’r rhai sy’n gweithredu o fewn y cymunedau sydd agosaf at y datblygiad arfaethedig a’r rhai mwyaf tebygol o brofi ei effeithiau uniongyrchol. Mae hyn fel arfer yn cynnwys trefi, pentrefi a phlwyfi yn yr ardal gyfagos.

Yn ymarferol, nid yw’r diffiniad o “lleol” yn un sefydlog a gall amrywio yn dibynnu ar y math o fenter neu fuddsoddiad sy’n cael ei ystyried. Er enghraifft, gall rhai cyfleoedd gael eu cyfeirio’n fwyaf priodol tuag at grwpiau cymunedol neu gyfleusterau sydd wedi’u lleoli yn yr aneddiadau agosaf, tra gall eraill elwa o ddalgylch ehangach lle mae cysylltiad clir i effeithiau neu fanteision y prosiect.

Wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod cwmpas “lleol” yn cael ei gymhwyso’n deg ac yn dryloyw, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i’r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf uniongyrchol gan y datblygiad.

A fydd cyfleoedd i fusnesau neu gyflenwyr lleol gymryd rhan yn y prosiect?

Mae Bute Energy wedi ymrwymo i wneud y defnydd gorau o gadwyni cyflenwi a busnesau lleol er mwyn sicrhau bod y prosiect yn gwneud y mwyaf o botensial buddsoddi, swyddi a hyfforddiant. Byddem yn annog perchnogion busnesau lleol sydd â diddordeb mewn cyfleoedd caffael yn y dyfodol i gysylltu â ni ag unrhyw ymholiadau.

Rydym ar hyn o bryd ar gam cynnar iawn o’n prosiect, ond byddem yn awyddus i ddefnyddio’r camau cyn ymgeisio a phenderfynu i adeiladu rhwydwaith o gyflenwyr lleol a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gam caffael y prosiect, yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio.

Sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd diwylliant a threftadaeth bresennol y safle yn cael ei gynnal?

Rydym yn cydnabod gwerth diwylliannol a threftadaeth y dirwedd yn llawn ac yn deall pryderon ynghylch sut y gall datblygiad newydd effeithio arni.

Fel rhan o’r Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA), mae Asesiad Treftadaeth Ddiwylliannol gynhwysfawr yn cael ei gynnal. Bydd hyn yn archwilio asedau treftadaeth ddynodedig a rhai heb eu dynodi, yn ogystal â chymeriad tirwedd hanesyddol ehangach, i ddeall effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol posibl y tyrbinau arfaethedig. Bydd yr asesiad hefyd yn ystyried y cyfraniad y mae lleoliad a safbwyntiau yn ei wneud i arwyddocâd asedau treftadaeth.

Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn cydnabod yr angen i gydbwyso diogelu amgylcheddau diwylliannol a hanesyddol gyda’r trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Ein dull felly fydd dangos, trwy dystiolaeth, sut y gellir osgoi, lleihau neu liniaru effeithiau posibl, a sicrhau bod gwerth treftadaeth yr ardal yn cael ei ystyried yn llawn wrth wneud penderfyniadau.

Mae’r adborth a ddarperir drwy’r ymgynghoriad hwn yn rhan bwysig o’r broses honno a bydd yn helpu i lywio asesiad a dylunio’r prosiect.

A fydd bond datgomisiynu?

Pan fydd y parc ynni yn cyrraedd diwedd ei oes weithredol, bydd yn cael ei ddadgomisiynu’n gyfrifol yn unol â’r rheolau a’r arferion gorau sydd mewn grym ar y pryd. Bydd cytundeb cyfreithiol gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn cadarnhau mai perchennog y Parc Ynni sy’n gyfrifol am sicrhau bod y dadgomisiynu’n cael ei gyflawni. Bydd yr egwyddorion ar gyfer sut y caiff y broses hon ei rheoli a’i hariannu yn cael ei gytunofel rhan o Gynllun Dadgomisiynu manwl, a fydd angen cymeradwyaeth gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle. Mae hyn yn sicrhau bod mesurau diogelu cyfreithiol ac ariannol cadarn (er enghraifft, bond dadgomisiynu) mewn lle er mwysicrhau bod y dadgomisiynu’n mynd yn ei flaen fel y bwriadwyd.