Home » Amdanom ni

Am Bute Energy

Rydym yn dylunio parciau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ar gyfer Cymru.

Pwy ydym ni

Rydym yn ddatblygwr ynni adnewyddadwy gyda’n pencadlys yng Nghymru, ar genhadaeth i ddadgarboneiddio ein system ynni i greu cenedl gyfoethocach ac iachach.

Ein pobl yw ein hased mwyaf gwerthfawr ac rydym yn falch o fod wedi denu pwll o staff angerddol a thalentog sy’n ymroddedig i’w gwaith ac yn cynnig sgiliau ehangach, trosglwyddadwy. Maent yn dod ag arbenigedd mewn cynllunio, adeiladu, rheoli prosiectau, addysg, symudedd cymdeithasol, peirianneg a chyfnodau gweithredol parciau ynni ledled y DU.

Rydym yn eiddo preifat, er lles y cyhoedd.

Ein cenhadaeth

Rydym am wneud i dywydd Cymru weithio i Gymru drwy’r buddsoddiad busnes mwyaf yn yr economi wledig mewn cenhedlaeth.

Byddwn yn chwarae ein rhan i adeiladu diogelwch ynni’r DU, dod ag aer glanach, creu swyddi a pharatoi cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer gwaith yn yr economi werdd. Byddwn yn cefnogi cyflenwyr lleol, yn darparu gwerth cymdeithasol blaenllaw yn y diwydiant ac yn buddsoddi’n bwrpasol ac yn ystyrlon mewn cymunedau ledled y wlad.

How we’re doing it

We’ve built up a market-leading pipeline of Energy Park projects in Wales, which will combine the latest technology for onshore wind and solar generation to provide projects that will be delivering the biggest business investment in rural Wales in a generation.

Ein stori

Wedi’i sefydlu yn 2018, ffurfiwyd Bute Energy gyda gweledigaeth i greu byd mwy cynaliadwy – nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu’n sylfaenol mai newid hinsawdd oedd yr her fwyaf i’n cenhedlaeth ac felly rydym wedi tyfu’n gyflym dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddatblygu cynlluniau ar gyfer parciau ynni adnewyddadwy ar gyflymder ac ar raddfa fawr.

Rydym wedi dod yn bell ers i’n stori ddechrau yn 2018 ac rydym yn falch o’r cerrig milltir enfawr yr ydym wedi’u cyrraedd ar ein taith. Ond mae ffordd hir o’n blaenau ac rydym yn benderfynol o adael etifeddiaeth barhaol i genedlaethau’r dyfodol.

Sgroliwch i’r chwith ac i’r dde ar y llinell amser isod i ddysgu am ein taith hyd yn hyn.

Sefydlwyd Bute Energy 2018
close xPrevious
Next
Sefydlwyd Bute Energy2018
Fe wnaethon ni ymgynghori ar ein parc ynni cyntaf. Rhagfyr 2022
close xPrevious
Next
Fe wnaethon ni ymgynghori ar ein parc ynni cyntaf.Rhagfyr 2022
Lansiwyd ein menter gwirfoddoli. Chwefror 2023
close xPrevious
Next
Lansiwyd ein menter gwirfoddoli.Chwefror 2023
Dechreuodd ein menter partneriaeth elusennol. Ebrill 2023
close xPrevious
Next
Dechreuodd ein menter partneriaeth elusennol.Ebrill 2023
Buddsoddiad wedi'i sicrhau gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Medi 2023
close xPrevious
Next
Buddsoddiad wedi'i sicrhau gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.Medi 2023
Croesawom ein intern cyntaf. Hydref 2023
close xPrevious
Next
Croesawom ein intern cyntaf.Hydref 2023
Cyrhaeddom 100 o aelodau staff Ebrill 2024
close xPrevious
Next
Cyrhaeddom 100 o aelodau staffEbrill 2024
Ymunom â Grŵp Windward Mai 2024
close xPrevious
Next
Ymunom â Grŵp WindwardMai 2024
Lansiwyd ein Strategaeth Sgiliau’r Dyfodol. Tachwedd 2024
close xPrevious
Next
Lansiwyd ein Strategaeth Sgiliau’r Dyfodol.Tachwedd 2024
Derbyniwyd caniatâd i’n parc ynni cyntaf. Tachwedd 2024
close xPrevious
Next
Derbyniwyd caniatâd i’n parc ynni cyntaf.Tachwedd 2024
Ailgadarnhaodd ein buddsoddwyr eu cefnogaeth i'n cenhadaeth. Chwefror 2025
close xPrevious
Next
Ailgadarnhaodd ein buddsoddwyr eu cefnogaeth i'n cenhadaeth.Chwefror 2025
Dechreuodd gwaith safle yn ein parc ynni cyntaf. Ebrill 2025
close xPrevious
Next
Dechreuodd gwaith safle yn ein parc ynni cyntaf.Ebrill 2025
Cyflwynwyd offeryn digidol newydd i gefnogi ein hymgysylltiad cymunedol. Mai 2025
close xPrevious
Next
Cyflwynwyd offeryn digidol newydd i gefnogi ein hymgysylltiad cymunedol.Mai 2025

Mae ein gwerthoedd wedi’u hymgorffori yn ein gwaith a’n pobl:

  • dewrder

  • angerdd

  • cymuned

  • uniondeb

Rydym wedi cael ein cydnabod am roi cymaint o werth ar ddiwylliant ein busnes. Mewn gwirionedd, fel rhan o Grŵp Windward, cawsom ein hardystio fel Lle Gwych i Weithio yn 2023 ac eto yn 2025.

Mae cyfres o bolisïau cynhwysol wedi’u datblygu ac wedi’u llywio 100% gan ein cydweithwyr – pobl sydd wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu profiadau bywyd a’u barn ar sut y gall gweithleoedd gefnogi eu pobl yn well. Mae hyn wedi ein galluogi i roi cefnogaeth ystyrlon ar waith ar gyfer yr holl adegau sy’n bwysig, trwy bob cam o fywyd gwaith.

Boed hynny’n gefnogaeth well i deuluoedd sy’n mynd trwy driniaeth ffrwythlondeb, absenoldeb profedigaeth heb bresgripsiwn sy’n cwmpasu unrhyw berson neu anifail anwes, neu gefnogaeth urddasol a gwybodus ar gyfer pethau fel trais domestig, menopos a hunaniaeth rhywedd. Mae ein polisïau a’n darpariaethau yn gwneud datganiad clir iawn; gallwch berthyn yn Bute, ni waeth pwy ydych chi na beth rydych chi’n mynd drwyddo.

Ein gwerthoedd ar waith

Cwrdd â’r tîm.

Ein hased mwyaf gwerthfawr yw ein pobl. Gyda dros 100 o aelodau staff – mae pob unigolyn yn cyfrannu at ein cenhadaeth, ein gwerthoedd a’n llwyddiant.

Dewch i'n nabod ni.

Gyda phwy rydyn ni'n gweithio