Mae’r datblygwr ynni adnewyddadwy o Gymru, Bute Energy, yn diolch i gymunedau am ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer Parc Ynni Llyn Lort, a allai gynhyrchu digon o ynni glân a gwyrdd i bweru bron i 144,000 o gartrefi.
Mae’r prosiect yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a bydd yn cyfrannu at gyflenwad trydan adnewyddadwy cryfach a chadarnach i gartrefi a busnesau ac yn helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar i drydan y wlad fod yn 100% adnewyddadwy erbyn 2035.
Bydd yn cefnogi’r ymdrech i newid o danwyddau ffosil i ynni adnewyddadwy, gan helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â thargedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a’r Argyfwng Hinsawdd a ddatganwyd.
Yn y rownd gyntaf o ymgynghori, a gynhaliwyd rhwng 6 Medi a 18 Hydref 2023, cynhaliwyd tair sesiwn galw heibio yn lleol yn Llanfair Caereinion, Carno, a Chefn Coch, lle gallai pobl weld gwybodaeth, siarad â thîm y prosiect a dweud eu dweud. Yn dilyn y rownd hon o ymgynghori cyhoeddus, bydd yr holl adborth a ddaeth i law yn cael ei ystyried yn ofalus, ynghyd ag adroddiadau o arolygon amgylcheddol a thechnegol, cyn y rownd nesaf o ymgynghori cyhoeddus – a ddisgwylir yn ystod haf 2024.
Mae Parc Ynni arfaethedig Llyn Lort wedi’i leoli i’r de orllewin o Lanerfyl ac i’r gorllewin o Gefn Coch ym Mhowys ac yn gyfan gwbl o fewn Ardal a Aseswyd Ymlaen Llaw ar gyfer ynni gwynt ar y tir ar raddfa fawr yn unol â Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Mae’n cynnwys hyd at 25 tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder llafn o 220m. Pan fydd yn weithredol, gallai’r Parc Ynni gynhyrchu oddeutu 165MW o ynni glân a gwyrdd.
Mae Bute Energy wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio gyda chymunedau lle maent yn datblygu eu prosiectau. Fel rhan o brosiect Parc Ynni Llyn Lort, bydd Cronfa Budd Cymunedol yn cael ei sefydlu a rhagwelir ar hyn o bryd y bydd yn darparu gwerth tua £1.2m o fuddsoddiad y flwyddyn yn lleol.
Yn ogystal â’r gronfa, mae Bute Energy wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad yn aros mor lleol â phosibl. Bydd pob contract a ddyfernir gan Bute Energy yn ystod y cyfnod datblygu ac adeiladu yn golygu y bydd partneriaid yn ymrwymo i Safon Gwerth Cymdeithasol. Bydd y Safon yn cefnogi ac yn cyfarwyddo partneriaid i fuddsoddi swyddi, amser, adnoddau ac arian yn y cymunedau sy’n agos at brosiectau, gyda’r nod o gadw cymaint â phosib o’n buddsoddiad yng Nghymru er budd cymunedau lleol.
Dywedodd Iain Foster, Rheolwr Prosiect yn Bute Energy:
“Mae wedi bod yn braf siarad â phobl leol am ein cynlluniau a siarad am y rôl bwysig sydd gan ynni adnewyddadwy i’w chwarae wrth ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd. Mae potensial di-ben-draw i ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd.
“Mae Bute Energy yn cymryd camau nawr i helpu i ddarparu ynni glân a gwyrdd i’n cartrefi a’n busnesau, gan leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a chefnogi targed Llywodraeth Cymru i drydan fod yn 100% adnewyddadwy erbyn 2035.
“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi pobl yn rhoi o’u hamser i roi gwybod i ni beth yw eu barn am ein cynigion cychwynnol, a byddwn yn eu hystyried, ochr yn ochr ag arolygon amgylcheddol a thechnegol, cyn y rownd nesaf o ymgynghori cyhoeddus – a ddisgwylir yn ystod haf 2024.
“Dywedodd pobl leol wrthym hefyd sut gallai Cronfa Budd Cymunedol y prosiect gefnogi prosiectau ac achosion sy’n agos at eu calon. Mae ein tîm Budd Cymunedol yn canolbwyntio ar ganfod grwpiau a gwasanaethau lleol i ymgysylltu â nhw nawr i ddeall anghenion a dyheadau’r cymunedau a sut gall buddsoddi sicrhau’r budd mwyaf i’r ardal leol.”
Mae Parc Ynni arfaethedig Llyn Lort yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd Bute Energy yn gwneud cais am ganiatâd i asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), ac yna bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar y cais. Ar hyn o bryd mae Bute Energy yn disgwyl cwblhau a chyflwyno cais cynllunio i PEDW ddiwedd 2024, ar ôl ymgysylltu’n drwyadl â’r cyhoedd.
Bydd Parc Ynni Llyn Lort yn cysylltu â’r rhwydwaith trawsyrru trydan drwy Green GEN Cymru Efyrnwy Frankton, linell uwchben newydd a fydd yn cael ei hadeiladu gan Green GEN Cymru, rhan o Grŵp Bute Energy.
Mae gan Bute Energy weledigaeth o Gymru iachach a chyfoethocach sy’n defnyddio cynhyrchu ynni fel pŵer cadarnhaol i’r byd, i Gymru, i gymunedau lleol – i’r genhedlaeth hon ac i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r cwmni wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac mae’n mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd drwy roi pŵer i Gymru gydag ynni glân a gwyrdd, a grymuso ein cymunedau drwy fuddsoddiad, swyddi a sgiliau.
Mae’r cwmni hefyd yn gweithio gyda darparwyr addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd lleol i greu llwybrau cyflogaeth cynhwysol ar gyfer ymuno â’r diwydiant ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda cholegau i wella’r ddarpariaeth o raglenni datblygu sgiliau gwyrdd sydd ar gael yn lleol, gan gynnwys creu canolfannau rhagoriaeth sgiliau gwyrdd ledled Cymru, i alluogi llif o dalent ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd