Mae Bute Energy, sef datblygwr ynni adnewyddadwy o Gymru, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Llyn Lort, a allai gynhyrchu digon o ynni glân a gwyrdd i bweru 144,000 o gartrefi.
Mae’r parc yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a bydd yn cyfrannu at gyflenwad trydan adnewyddadwy cryfach a chadarnach i gartrefi a busnesau ac yn helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i drydan y wlad fod yn 100% adnewyddadwy erbyn 2035.
Bydd yn cefnogi’r ymdrech i newid o danwyddau ffosil i ynni adnewyddadwy, gan helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â thargedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a’r Argyfwng Hinsawdd sydd wedi cael ei ddatgan.
Mae Parc Ynni arfaethedig Llyn Lort i’r de orllewin o Lanerfyl ac i’r gorllewin o Gefn Coch ym Mhowys ac yn gyfan gwbl o fewn Ardal a Aseswyd Ymlaen Llaw ar gyfer ynni gwynt ar y tir ar raddfa fawr yn unol â Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Mae’n cynnwys hyd at 25 tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder llafn o 220m. Pan fydd yn weithredol, gallai’r Parc Ynni gynhyrchu oddeutu 165MW o ynni glân a gwyrdd.
Mae Bute Energy wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio gyda chymunedau lle maent yn datblygu eu prosiectau. Fel rhan o brosiect Parc Ynni Llyn Lort, bydd Cronfa Budd Cymunedol yn cael ei sefydlu a rhagwelir ar hyn o bryd y bydd yn darparu gwerth tua £1.2m o fuddsoddiad y flwyddyn yn lleol.
Mae tîm Budd Cymunedol y cwmni’n canolbwyntio ar greu llwybrau i bobl leol gael gwaith, sicrhau’r mynediad gorau at ein parciau ynni a gweithio gydag ysgolion lleol a chyfleusterau cymunedol i helpu i leihau eu biliau ynni a’u hôl troed carbon.
Yn ogystal â’r gronfa, mae Bute Energy wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad yn aros mor lleol â phosibl. Bydd pob contract a ddyfernir gan Bute Energy yn ystod y cyfnod datblygu ac adeiladu yn golygu y bydd partneriaid yn ymrwymo i Safon Gwerth Cymdeithasol. Bydd y Safon Gwerth Cymdeithasol yn cefnogi ac yn cyfarwyddo partneriaid i fuddsoddi swyddi, amser, adnoddau ac arian yn y cymunedau sy’n agos at brosiectau, gyda’r nod o gadw cymaint o’n buddsoddiad â phosib yng Nghymru er budd cymunedau lleol.
Bydd rownd gychwynnol o ymgynghori cyhoeddus yn cael ei chynnal rhwng dydd Mercher 6 Medi a dydd Mercher 18 Hydref 2023, gyda sesiynau galw heibio cyhoeddus a gweminarau i alluogi pobl i weld gwybodaeth a chael dweud eu dweud.
Yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, hoffai Bute Energy glywed barn y gymuned leol am eu cynigion cychwynnol, gan gynnwys lleoliad y tyrbinau, yr adeiladau, yr offer a’r llwybrau mynediad.
Bydd yr holl sylwadau a ddaw i law, ynghyd ag asesiadau amgylcheddol a thechnegol, yn cael eu hystyried wrth i gynlluniau manwl ar gyfer y Parc Ynni gael eu datblygu.
Bydd tîm Budd Cymunedol Bute Energy hefyd yn mynychu’r digwyddiadau, gan ganolbwyntio ar nodi grwpiau a gwasanaethau lleol i ymgysylltu â nhw nawr er mwyn deall anghenion a dyheadau’r cymunedau a sut gall buddsoddiad sicrhau’r budd mwyaf i’r ardal leol.
Dywedodd Iain Foster, Rheolwr Prosiect yn Bute Energy:
“Rydyn ni’n falch o lansio Parc Ynni Llyn Lort arfaethedig, sy’n ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd, yn lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ac yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru i drydan fod yn 100% adnewyddadwy erbyn 2035.
“Mae potensial di-ben-draw i ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Mae Bute Energy yn cymryd camau nawr i helpu i ddarparu’r ynni glân a gwyrdd hwn i’n cartrefi a’n busnesau.
“Rydyn ni eisiau clywed barn pobl leol am ein cynlluniau, er mwyn i ni allu eu hystyried wrth i ni ddatblygu’r prosiect. Ac rydyn ni eisiau clywed gan bobl leol sut gallwn ni helpu i gefnogi prosiectau a mynd i’r afael â materion mewn cymunedau sydd o amgylch y safle – er mwyn i ni allu sicrhau manteision go iawn i bobl leol.”
Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan ein prosiect www.llynlortenergypark.wales, lle gallwch chi roi adborth i ni hefyd. Rydyn ni hefyd yn cynnal arddangosfeydd cyhoeddus lle gallwch chi gael gwybod mwy am ein cynlluniau a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am y prosiect:
Mae Parc Ynni arfaethedig Llyn Lort yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd Bute Energy yn gwneud cais am ganiatâd i asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, ac yna bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar y cais. Ar hyn o bryd mae Bute Energy yn disgwyl cwblhau a chyflwyno cais cynllunio i PCAC ddiwedd 2024, ar ôl ymgysylltu’n drwyadl â’r cyhoedd.
Bydd Parc Ynni Llyn Lort yn cysylltu â’r rhwydwaith trawsyrru trydan drwy linell uwchben newydd a fydd yn cael ei hadeiladu gan Green GEN Cymru, rhan o Grŵp Bute Energy.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd