Mae’r datblygwr ynni adnewyddadwy o Gymru, Bute Energy, wedi cyflwyno cais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ar gyfer Parc Ynni Twyn Hywel, ar y ffin rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Bydd Parc Ynni Twyn Hywel yn cynnwys hyd at 14 o dyrbinau gwynt, gan gynhyrchu 92.4MW o ynni glân, gwyrdd, sy’n cyfateb i roi ynni i 81,000 o gartrefi’r flwyddyn. Mae’r prosiect yn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a bydd yn helpu cymunedau lleol i fyw bywydau trydan modern, tra’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod 100% o’n trydan yn adnewyddadwy erbyn 2035.
Bydd yr ynni glân a gynhyrchir yn Twyn Hywel yn helpu i ddadleoli tua 5.7 miliwn o dunelli o garbon deuocsid bob blwyddyn, yr un peth â chael gwared ar yr holl geir oddi ar y ffyrdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bob blwyddyn.
Bydd Parc Ynni Twyn Hywel hefyd yn cynnig buddion sylweddol i’r gymuned leol, gan gynnwys Cronfa Budd Cymunedol flynyddol gwerth tua £693,000 – sy’n gyfanswm o dros £30 miliwn yn ystod oes weithredol y prosiect o 45 mlynedd. Bydd y Gronfa Budd Cymunedol yn darparu cyllid i grwpiau, elusennau a gwasanaethau lleol i gynnal eu gwaith, creu prosiectau arloesol newydd sydd o fudd i drigolion lleol a helpu sefydliadau i gyfuno eu harbenigedd ag eraill i ddatblygu prosiectau etifeddol aml-flwyddyn ar raddfa fawr er budd cymunedau lleol. Yn unigryw ar gyfer cronfa o’r fath, mae hefyd yn gysylltiedig â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr i ganiatáu ar gyfer chwyddiant economaidd ac i ddiogelu’r cyllid at y dyfodol.
Wedi’i lywio drwy ymgysylltu â phobl leol a rhanddeiliaid, bydd y Cyllid Budd Cymunedol yn canolbwyntio ar greu cymunedau iachach a chyfoethocach drwy gefnogi gwelliannau hamdden, iechyd a lles, gwella’r ddarpariaeth addysg leol a nodi mwy o lwybrau i gyflogaeth ar gyfer trigolion lleol. A bydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddathlu a hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a bioamrywiaeth lleol.
Gallai’r prosiect hefyd gyflwyno gwelliannau hamdden mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol a defnyddwyr Eglwys Comin Silian, gan gynnwys gwella hawliau tramwy cyhoeddus presennol fel eu bod yn gwbl hygyrch ac yn gynhwysol i bob defnyddiwr. Ac mewn partneriaeth â sefydliadau treftadaeth lleol, bydd Bute Energy yn helpu trigolion lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dehongli rhai o nodweddion unigryw a threftadaeth gyfoethog yr ardal leol, gan gynnwys Clawdd Senghennydd. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i ysgolion lleol ymweld â’r safle i gefnogi’r broses o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae gwelliannau i gynefinoedd a chymorth i fywyd gwyllt lleol hefyd wedi’u cynnwys yn y cais, ac mae’r prosiect wedi ymrwymo i sicrhau dros 20% o Fudd Net Bioamrywiaeth i’r safle drwy gynlluniau sy’n cynnwys plannu gwrychoedd ac adfer cynefinoedd corsydd diraddiedig.
Dywedodd Matthew Haughton, Rheolwr Prosiect Parc Ynni Twyn Hywel:
“Rydyn ni’n falch o gyflwyno ein cais cynllunio ar gyfer Parc Ynni Twyn Hywel, a fydd yn cynhyrchu digon o ynni glân, gwyrdd, sy’n cyfateb i roi ynni i 81,000 o gartrefi’r flwyddyn ac yn helpu i ddadleoli tua 5.7 miliwn o dunelli o garbon deuocsid bob blwyddyn, yr un peth â chael gwared ar yr holl geir oddi ar y ffyrdd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bob blwyddyn. Mae cynllun y Parc Ynni wedi newid yn sgil adborth adeiladol y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill, lle gwelwyd gostyngiad yn nifer y tyrbinau a newid lleoliad rhai tyrbinau i leihau’r effaith ar gymunedau cyfagos.
“Mae Twyn Hywel hefyd yn cynnig pecyn sylweddol o fuddion i’r gymuned leol. Nid yn unig Cronfa Budd Cymunedol sydd werth tua £693,000 i gefnogi sefydliadau, grwpiau a darparwyr gwasanaethau lleol, ond hefyd gwella a chynnal cyfleoedd hamdden a mentrau amgylcheddol eraill.
“Fel cenedl, rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd ac argyfwng costau byw. Mae ein cyflenwad ynni wedi’i fygwth gan ddigwyddiadau’r byd. Eto i gyd, mae potensial ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn ddiddiwedd – yn enwedig gan y gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Tywydd Cymru, yn gweithio i Gymru yw nod Bute Energy: gweithredu nawr i helpu i gyflenwi ynni glân, gwyrdd i’n cartrefi a’n busnesau, lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil a chefnogi targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod 100% o’n trydan yn adnewyddadwy erbyn 2035.”
Bydd y datblygiad hefyd yn cefnogi elusen leol i bobl ifanc, Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd (SYDIC). Mae’r ganolfan, a sefydlwyd yn 1997, yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i bobl ifanc, gyda 37% o bobl ifanc lleol yn defnyddio eu gwasanaethau’n uniongyrchol yn gyson. Dywedodd Dave Brunton, Rheolwr Prosiect Canolfan Galw Heibio Ieuenctid Senghennydd:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Bute Energy i daclo newid hinsawdd. Yn ogystal â chyflenwi ynni adnewyddadwy i’r Grid Cenedlaethol, bydd Twyn Hywel yn gwella’r amgylchedd lleol ac yn cynnig cymorth i grwpiau lleol y mae angen mawr amdano.
“Mae ein partneriaeth gyda Bute Energy yn helpu i sicrhau gwasanaethau cymunedol parhaus a chymorth i bobl ifanc yng Nghwm Aber. Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i sicrhau bod ein gwaith cymorth hollbwysig gyda phobl ifanc yn parhau, tra’n creu cyfleoedd addysg a hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau ac interniaethau i bobl ifanc lleol.”
Dywedodd Heidi Purnell, Cynghorydd Ymgysylltu Busnes yn Gyrfa Cymru:
“Mae cymorth Bute Energy wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd o fewn y sector Ynni Gwyrdd. Mae ysgolion Rhondda Cynon Taf a Chaerffili wedi cynnal gweithdai ymarferol a ffug gyfweliadau ac wedi elwa o sgyrsiau a thrafodaethau.
“Fe wnaeth merched Blwyddyn 11 yn arbennig fwynhau ymweliad â swyddfeydd Bute Energy yng Nghaerdydd, lle wnaethon nhw gwrdd â modelau rôl benywaidd ysbrydoledig a chael gweld sut i redeg swyddfa o ddydd i ddydd, a helpodd i herio stereoteipiau rhywedd a chwalu rhwystrau.
“Mae Gyrfa Cymru yn edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth ac at sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd y gall y sector Ynni Gwyrdd eu cynnig.”
Dywedodd Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru, Jess Hooper:
“Mae ynni gwynt ar y tir yn rhad ac yn gyflym i’w adeiladu ac mae’n rhan hanfodol o’r cymysgedd ynni adnewyddadwy sydd ei angen ar Gymru i gyrraedd ein targedau diogelwch ynni a thargedau sero net. Daw 40% o ynni adnewyddadwy Cymru ar hyn o bryd o wynt ar y tir. I wneud y cynnydd mawr sydd ei angen i gyrraedd targed arfaethedig Llywodraeth Cymru o 100% o drydan o adnoddau adnewyddadwy erbyn 2035, mae gwir angen uwchraddio ein rhwydwaith grid a symleiddio’r broses gynllunio fel y gall mwy o ddatblygiadau gwynt ar y tir fel Twyn Hywel ddechrau gweithredu.
“Mae Cronfa Budd Cymunedol sylweddol y prosiect hwn yn enghraifft wych o’r buddion enfawr y gall gwynt ar y tir eu cynnig. Mae’n amlwg bod Bute Energy yn cydweithio â’r gymuned leol fel rhan o’r broses ddatblygu ac yn gwrando ar eu barn ynglŷn â pha fath o fuddion y dylai’r rhain fod, gan adeiladu partneriaeth gref, lwyddiannus wrth symud ymlaen.”
Mae’r rhan fwyaf o’r Parc Ynni arfaethedig o fewn Ardal a Aseswyd ymlaen llaw ar gyfer ynni gwynt ar y tir ar raddfa fawr yn ôl Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Oherwydd y bydd Parc Ynni arfaethedig Twyn Hywel yn cynhyrchu dros 10MW o ynni, caiff ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu bod Bute Energy wedi gwneud cais i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru o ran a ddylid rhoi caniatâd cynllunio neu beidio.
Mae Bute Energy hefyd yn gweithio gyda darparwyr addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd lleol i greu llwybrau cyflogaeth cynhwysol i gael mynediad at y diwydiant ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys gwaith gyda cholegau lleol i wella’r ddarpariaeth o raglenni datblygu sgiliau gwyrdd sydd ar gael yn lleol, creu canolfannau rhagoriaeth sgiliau gwyrdd ledled Cymru, gan alluogi ffrwd o dalent ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Bydd pob contract y bydd Bute Energy yn ei ddyfarnu yn ystod y gwaith datblygu ac adeiladu yn golygu bod partneriaid yn ymrwymo i Safon Gwerth Cymdeithasol, a fydd yn cefnogi ac yn cyfeirio partneriaid i fuddsoddi swyddi, amser, adnoddau ac arian yn y cymunedau gerllaw ein prosiectau, gan anelu at gadw cymaint o’n buddsoddiad yng Nghymru â phosib er budd cymunedau lleol.
Mae gennym weledigaeth am Gymru iachach a chyfoethocach sy’n defnyddio cynhyrchu ynni fel pŵer positif i’r byd, i Gymru ac i gymunedau lleol – ar gyfer y genhedlaeth sydd ohoni a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cwmni wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy roi ynni glân, gwyrdd i Gymru ac i rymuso ein cymunedau drwy fuddsoddi, swyddi a sgiliau.
Tywydd Cymru, yn gweithio i Gymru yw ein nod, drwy adeiladu ffermydd gwynt a solar ledled Cymru a fydd yn helpu i wireddu targedau Sero Net y Llywodraeth, gwresogi cartrefi, rhoi ynni i fusnesau a gwefru Cerbydau Trydan. Gwynt ar y tir yw un o’r dewisiadau mwyaf cost-effeithiol ar gyfer trydan newydd yn y DU – yn rhatach na nwy, niwclear, glo a mathau eraill o ynni adnewyddadwy. Bydd hyn yn lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil sydd wedi’u mewnforio.
Mae’r prosiectau cynhyrchu ynni hyn yn bartneriaeth rhwng Bute Energy a phobl Cymru, a bydd yn galluogi buddsoddiadau ariannol mawr mewn cymunedau cyfagos. Fel cwmni o Gaerdydd, byddwn yn gwneud y defnydd gorau o gadwyni cyflenwi yng Nghymru ac yn buddsoddi mewn cynlluniau hyfforddi lleol a chyfleoedd am brentisiaethau i greu effaith barhaol.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd