Parc Ynni Moel Chwa | Cwestiynau Cyffredin

Pam mae'r safle hwn wedi'i ddewis?

Mae Parc Ynni Moel Chwa o fewn Ardal wedi’i Asesu Ymlaen Llaw ar gyfer Ynni Gwynt ar y tir ar raddfa fawr yn ôl Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Mae hefyd wedi’i nodi fel ardal sy’n addas ar gyfer datblygiad gwynt ar y tir yn Asesiad Ynni Adnewyddadwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae hefyd wedi cael cais yn flaenorol am fferm wynt, yn cynnwys 11 tyrbin a seilwaith cysylltiedig, a ganiatawyd yn ôl yn 2011.

Mae hyn, ar y cyd â’n hasesiadau technegol a’n harolygon cychwynnol, yn dangos i ni fod y safle’n rhoi cyfle clir i ddarparu ynni gwynt glân a chynaliadwy a fydd yn cyfrannu at dargedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a chenedlaethol.

Beth mae Bute Energy yn bwriadu ei ddatblygu?

Mae Bute Energy yn ceisio darparu Parc Ynni sy’n cynnwys hyd at 12 o dyrbinau gwynt a seilwaith cysylltiedig, gydag uchafswm capasiti cynhyrchu amcangyfrifedig o 79.2 MW. Bydd hyn yn gallu darparu pŵer cynaliadwy, glanach ar gyfer tua 51,960 o gartrefi.

Yn ogystal â’r Parc Ynni, mae gan Bute Energy gytundeb cysylltu â’r Grid Cenedlaethol mewn is-orsaf newydd arfaethedig yn agos i Wyddelwern, tua 7km o’r safle. Cynigir bod y cysylltiad â’r grid trydan yn cael ei drosglwyddo gan linell uwchben (OHL). Byddai’r llinell uwchben yn cynnwys polion pren, a fyddai’n ymdoddi’n fwy cydnaws i’r dirwedd leol.

Pam ynni gwynt, a beth yw manteision Parc Ynni Moel Chwa?

Gellir cynhyrchu trydan glân, cynaliadwy trwy wynt ar y tir heb greu unrhyw allyriadau niweidiol, tra’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â thargedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd datganedig.

Hefyd, ynni gwynt ar y tir bellach yw’r ffurf rataf o gynhyrchu trydan, gan gynnig y potensial i leihau costau ynni. Bydd lleihau ein dibyniaeth ar ffynonellau ynni a gynhyrchir gan danwydd ffosil a fewnforir, megis nwy a thrydan, drwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru a ledled y DU, nid yn unig yn helpu i sicrhau mwy o sicrwydd ynni, ond bydd hefyd yn helpu i leihau effaith pigau prisiau yn y farchnad ynni fyd-eang.

Yn ogystal â chefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, nid oes angen unrhyw gymorthdaliadau gan y llywodraeth ar gyfer y prosiect. Mae hyn yn golygu dim baich i drethdalwyr nac ychwanegiadau at y ddyled genedlaethol. Bydd y prosiect hefyd yn destun trethiant y DU, gan gynnwys talu ardrethi busnes.

Mae manteision prosiectau ynni gwynt ar y tir hefyd yn mynd y tu hwnt i leihau allyriadau carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Gan weithio’n agos gyda chymunedau lleol, gall y prosiectau hyn sicrhau manteision sylweddol ar draws ystod o feysydd gan gynnwys buddsoddiad cymunedol, cymorth i’r gadwyn gyflenwi, cyfleoedd cyflogaeth, a datblygu sgiliau.

Mae ynni gwynt hefyd yn caniatáu i’r tir gadw ei ddefnyddiau presennol, megis ar gyfer arferion amaethyddol neu ar gyfer ymarfer corff neu hamdden. Wrth i ni fwrw ymlaen â’n cynnig byddwn hefyd yn edrych ar y ffordd orau o wella a datblygu cynefinoedd bywyd gwyllt ar draws y safle, yn ogystal â hygyrchedd i gerddwyr, rhedwyr, beicwyr, marchogion a mwy.

Faint o dyrbinau gwynt fydd yno?

Ein cynnig cychwynnol yw darparu hyd at 12 tyrbin ar y safle. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei fireinio wrth i ni gael mwy o wybodaeth o’n hasesiadau technegol (fel effaith amgylcheddol, effaith weledol, modelu sŵn ac ati…) ac arolygon, yn ogystal ag mewn ymateb i adborth gan ymgyngoreion, rhanddeiliaid, a thrigolion lleol.

Sut byddwch chi'n cael mynediad i'r safle a sut bydd offer yn cael ei ddosbarthu?

Megis dechrau ydym o hyd o ran nodi’r llwybrau gorau i sicrhau y gall traffig sy’n teithio i’r safle ac oddi yno wneud hynny’n ddiogel a chyda’r effaith leiaf bosibl ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach. Mae’r safle, fodd bynnag, yn elwa o fod yn agos at yr A5, sef prif lwybr ffordd yn y rhanbarth. Mae’n debygol felly y bydd cyfran fawr o’r traffig sy’n mynd i’r safle yn defnyddio’r llwybr hwn, gan helpu i ddiogelu ffyrdd gwledig llai rhag Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs) a cherbydau adeiladu mawr eraill.

Fel rhan o’n cais byddwn yn llunio Asesiad Trafnidiaeth a fydd yn amlinellu’r llwybrau y teimlwn fyddai fwyaf addas i draffig sy’n mynd i mewn ac allan o’r safle eu defnyddio. Byddwn hefyd yn ymgynghori â chyrff fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a thimau Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych drwy gydol y broses cyn ymgeisio i ddeall eu barn ar ein llwybrau arfaethedig ac ymgorffori’r rhain yn ein cynlluniau.

Rydym hefyd yn ymwybodol iawn y bydd trigolion lleol yn adnabod yr ardal yn llawer gwell na ni, ac felly byddem yn croesawu eu barn/dewisiadau/gwybodaeth ynghylch sut orau i gael mynediad i’r safle tra’n lleihau’r effaith ar y rhwydwaith ehangach.

Sut bydd y prosiect yn cysylltu â'r grid trydan?

Mae gan Bute Energy gytundeb cysylltu gyda’r Grid Cenedlaethol mewn is-orsaf yn agos i Wyddelwern, tua 7km o’r safle. Cynigir bod y cysylltiad â’r grid trydan yn cael ei drosglwyddo gan linell uwchben (OHL).

Bydd y llinell uwchben yn cynnwys polion pren a fydd yn ymdoddi’n fwy cydnaws i’r amgylchoedd gwledig. Fel rhan o’n hymgynghoriadau anffurfiol a statudol byddwn yn ceisio ymgysylltu â thrigolion lleol ar hyd y coridor llinell uwchben i ddeall eu barn a sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei gynnig yn cael cyn lleied o effaith â phosibl arnynt, gan hefyd fod yn sensitif i gyfyngiadau eraill megis coetiroedd hynafol lleol, nodweddion tirwedd a bywyd gwyllt, ymhlith pethau eraill.

A fydd y prosiect yn effeithio ar Barc Cenedlaethol Eryri neu'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol?

Fel rhan o baratoi ein cais i PEDW byddwn yn ystyried effaith y prosiect ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys pethau fel yr amgylchedd a gwelededd. Lle nodir unrhyw effeithiau, byddwn yn ceisio lliniaru’r rhain cymaint â phosibl.

Byddwn yn ceisio ymgysylltu â chyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gynnar yn ein hymgynghoriad i ddeall fel y gallwn ymgorffori eu barn a’u hadborth yn ein cynlluniau cyn eu cyflwyno.