Y Prosiect

Ynglŷn â’r broses gynllunio

Mae Parc Ynni Moel Chwa yn cynnwys hyd at 12 tyrbin a fydd 200m o’r gwaelod i’r blaen, gan gynrychioli’r dechnoleg ddiweddaraf yn y sector gwynt ar y tir.

Ystyrir bod y prosiect hwn yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS), sy’n golygu y bydd angen i ni gyflwyno cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Bydd PEDW yn asesu ein cais ac yna’n gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Fel rhan o’n cais byddwn yn cynnal dau gam o ymgynghoriad, lle byddwn yn casglu barn ac adborth trigolion lleol, rhanddeiliaid a phartïon eraill a chanddynt fuddiant, yn ogystal ag ymgysylltu ag ymgyngoreion megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eraill.

Bydd yr adborth a gawn yn ystod dau gam ein hymgynghoriad yn cael ei goladu ac ymatebir iddo mewn adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, a fydd hefyd yn nodi’n fanwl yr hyn rydym wedi’i wneud i ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid lleol. Bydd yr adroddiad hwn wedyn yn cael ei gyflwyno i PEDW fel rhan o’n cais cynllunio.

Delweddau delweddu dangosol

Fel rhan o’n gwaith cynnar ar asesu’r ystyriaethau gweledol a thirwedd ar gyfer y prosiect, rydym wedi cynhyrchu rhai delweddau delweddu dangosol o sawl lleoliad o amgylch y safle.