< 3 munud i’w ddarllen
Mae Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cael eu dewis gan weithwyr Bute Energy fel partneriaid elusennol y cwmni ar gyfer 2026-2029. Bydd y partneriaethau tair blynedd yn cyfuno codi arian, gwirfoddoli a rhannu sgiliau proffesiynol i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig a gofalwyr di-dâl ledled Cymru.
Mae Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn yn cefnogi menywod, dynion a phlant sy’n profi neu’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yng Ngogledd Powys. Trwy gefnogaeth arbenigol, gwasanaethau lloches ac allgymorth, addysg a chodi ymwybyddiaeth, mae’r elusen yn helpu pobl i leihau risg, ailadeiladu eu bywydau a symud tuag at ddyfodol diogel ac iach.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio i drawsnewid bywydau gofalwyr di-dâl trwy bartneriaeth, tystiolaeth, dylanwad ac arloesedd. Gan weithio gyda sefydliadau gofalwyr lleol ledled Cymru, mae’n helpu i gryfhau cefnogaeth a sicrhau bod gofalwyr yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu cael mynediad at y cyngor, y gwasanaethau a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Dewiswyd y ddau sefydliad gan weithwyr yn dilyn proses mynegi diddordeb. Mae gan eu gwaith berthnasedd personol cryf i gydweithwyr, gan gynnwys pobl sy’n ofalwyr eu hunain neu sydd â chysylltiadau â’r cymunedau y mae’r elusennau’n eu cefnogi.
Rydym yn dewis gweithio gyda’n partneriaid elusennol am dair blynedd oherwydd bod effaith ystyrlon yn cymryd amser.
Mae partneriaeth hirach yn rhoi mwy o amser inni ddeall pob sefydliad, codi mwy o arian a nodi cyfleoedd sy’n mynd y tu hwnt i roddion. Mae hefyd yn darparu mwy o sicrwydd i elusennau ac yn lleihau’r baich o geisio cefnogaeth newydd dro ar ôl tro.
Ochr yn ochr â chodi arian, bydd ein gweithwyr yn gwirfoddoli ac yn rhannu arbenigedd mewn meysydd fel cyfathrebu, cyllid, cyfreithiol a llywodraethu.

"Boed hynny'n helpu rhywun sydd wedi'i effeithio gan gam-drin domestig i ddod o hyd i ddiogelwch a chefnogaeth, neu'n sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod ac yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, mae'r ddau sefydliad yn gwneud gwahaniaeth parhaol i bobl, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
"Rydym yn falch o fod yn bartneru â nhw dros y tair blynedd nesaf ac yn edrych ymlaen at gefnogi eu gwaith trwy godi arian, gwirfoddoli a rhannu ein sgiliau a'n harbenigedd."
Catryn Newton - Cyfarwyddwr Buddsoddi a Chyfathrebu Cymunedol, Bute Energy

“Rydym wrth ein bodd o gael ein dewis yn un o bartneriaid elusennol Bute Energy am y tair blynedd nesaf ac yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig i Ganolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn.
“Gall partneriaethau hirdymor fel hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i elusennau fel ein un ni sy’n dibynnu’n fawr ar gyllid i barhau â’r gwaith hanfodol a wnawn. Mae’r ymrwymiad i godi arian a gwirfoddoli yn hynod werthfawr, ond rydym yn arbennig o falch bod Bute Energy hefyd yn edrych ar sut y gall ei weithwyr rannu eu sgiliau a’u harbenigedd proffesiynol gyda ni. Gall y gefnogaeth ymarferol honno gryfhau ein sefydliad a’n helpu i barhau i ganolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth arbenigol i bobl yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig.
“Edrychwn ymlaen at adeiladu perthynas gref â Bute Energy a gweithio gyda’n gilydd dros y tair blynedd nesaf i godi ymwybyddiaeth, cynhyrchu adnoddau gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a theuluoedd ledled Gogledd Powys.”
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis gan dîm staff Bute Energy fel un o’r ddwy elusen y byddant yn eu cefnogi dros y tair blynedd nesaf.
“Gyda 3 o bob 5 ohonom yn ofalwyr ar ryw adeg yn ein bywydau a bron i 1 o bob 7 o weithwyr yn ofalwyr, gall gofalu effeithio ar bob un ohonom.
“Heb y gefnogaeth gywir, gall gofalwyr gael eu gwthio i dlodi, profi iechyd corfforol a meddyliol gwael a hyd yn oed fod mewn mwy o berygl o hunanladdiad. Bydd ein partneriaeth â Bute Energy yn ein cefnogi i godi ymwybyddiaeth, i ymgyrchu dros newid ac i dyfu ein rhaglenni sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ofalwyr yn y fan a’r lle.”

Rydym wedi sefydlu Pwyllgor Partneriaeth Elusennol pwrpasol i gydlynu codi arian, gwirfoddoli ac ymgysylltu staff ar draws y busnes.
Bydd y pwyllgor yn gweithio’n agos gyda’r ddwy elusen i nodi cyfleoedd lle gall sgiliau, arbenigedd a brwdfrydedd ein pobl wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae’r partneriaethau’n adeiladu ar ein perthnasoedd blaenorol â Sefydliad DPJ a Gofal Hosbis Dewi Sant, a welodd weithwyr yn codi £30,000 trwy gyfres o heriau a digwyddiadau codi arian.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd