Home » Newyddion » Cais Parc Ynni Rhiwlas yn mynd i’r cyfnod nesaf

Mae PEDW yn dilysu’r cais

Mae Parc Ynni Rhiwlas, parc ynni arfaethedig ger Llangurig, wedi cyrraedd carreg filltir newydd yn ei broses ddatblygu. Mae’r cais cynllunio wedi’i ddilysu’n ffurfiol gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) heddiw (17 Awst 2026), ar ôl ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2025.

Mae PEDW bellach wedi lansio cyfle i ymgynghori am bum wythnos, gan wahodd trigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid allweddol i roi eu barn ar y cais, cyn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru.

Cyfle i ymgynghori yn llunio ein cynigion terfynol

Yn dilyn ymgynghori yng Ngwanwyn 2025, rydym wedi gwneud sawl newid i’r cynnig mewn ymateb i adborth y gymuned ac asesiadau amgylcheddol, gan gynnwys:

  • Cael gwared ar Dyrbin 13 i leihau effeithiau ar y dirwedd a’r effaith weledol yn ogystal ag osgoi parthau byffer ystlumod a choetiroedd;
  • Ail-leoli Tyrbin 3 i leihau effeithiau ar y dirwedd a’r effaith weledol;
  • Ail-alinio’r llwybr mynediad i Dyrbin 3 i leihau’r effeithiau ar fawn;
  • Ail-alinio’r trac mynediad i Dyrbin 7 i osgoi ased treftadaeth; ac
  • Ail-leoli Tyrbin 12 i ddarparu bylchau ychwanegol rhwng tyrbinau.

“Rydym wrth ein bodd bod PEDW wedi dilysu’r cais ar gyfer Parc Ynni Rhiwlas, ac mae’n garreg filltir bwysig i’r prosiect. Ers i ni gyflwyno ein cais DAC i PEDW ar ddiwedd 2025, gofynnwyd i ni ddarparu gwybodaeth ychwanegol, ac rydym wedi gwneud hynny. Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiectau’n symud ymhellach i’r broses gynllunio a byddwn yn parhau i gefnogi PEDW yn eu harchwiliad o’n cais.”

Dywed Alasdair Adey, Uwch Reolwr Prosiect ar gyfer Parciau Ynni Banc Du a Rhiwlas:

Camau nesaf – ymgynghoriad PEDW

Mae PEDW bellach yn cynnal cyfle i ymgynghori ar y cais o 17 Awst i 21 Medi 2026. Gall unrhyw un sydd am weld y cais wneud hynny drwy chwilio am y rhif cyfeirnod (Rhiwlas – CAS-01928-W3M9S8) yn planningcasework.service.gov.wales/case.

Gall trigolion a rhanddeiliaid gyflwyno eu barn ar y cais drwy e-bostio PEDW.infrastructure@gov.wales. Y dyddiad cau ar gyfer rhoi adborth yw 21 Medi 2026.

Bydd Parc Ynni Rhiwlas yn rhan o drawsnewidiad Cymru i ynni adnewyddadwy glanach, gwyrddach, a gynhrychir yn lleol—gan gefnogi diogelwch ynni, buddsoddiad lleol, a nodau hinsawdd cenedlaethol.