Cwestiynau Cyffredin

Pwy yw Bute Energy?

Mae Bute Energy yn Gwmni Ynni Adnewyddadwy sy’n canolbwyntio ar ddatblygu seilwaith mawr o barciau gwynt ar y tir yng Nghymru. Mae ein teulu o brosiectau i gyd mewn gwahanol gamau o ddatblygiad, gyda llawer mewn gwahanol gamau o gynllunio ar hyn o bryd. Mae’r prosiectau o bwys strategol i ddyfodol ynni Cymru, gyda phob prosiect gyda’r gallu i ddarparu ynni gwyrdd erbyn 2030. Gyda’i gilydd, byddai’r prosiectau’n cynrychioli tua £3 biliwn o fuddsoddiad, gyda llawer iawn o hyn yn dod yn uniongyrchol i gadwyn gyflenwi Cymru. Gallai fod yn gallu cynhyrchu 2 gigawat o ynni gwyrdd glân, digon o drydan adnewyddadwy i bweru tua 2.25 miliwn o gartrefi. Erbyn 2035, amcangyfrifir y bydd hyn tua 25% o gyfanswm y galw am drydan yng Nghymru.

Mae Bute Energy yn gweithredu nawr, gan gymryd camau rhagweithiol cadarnhaol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chostau byw cynyddol, tra’n buddsoddi mewn cymunedau gwledig yng Nghymru i’w helpu i gael dyfodol iach.

Pam fod y safle hwn wedi cael ei ddewis?

Mae’r safle hwn wedi’i nodi fel un sydd ag amlygiad rhagorol i adnoddau gwynt a mynediad da i’r safle. Rydym wedi cynnal astudiaethau technegol safle a desg helaeth yn ogystal ag asesiadau dichonoldeb amgylcheddol i’n helpu i arddangos mai’r safle yw’r gorau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Beth mae Bute Energy yn bwriadu ei ddatblygu?

Mae Bute Energy yn ceisio sicrhau Parc Ynni a fydd yn darparu tua 40MW o ynni glân, gwyrdd gan ddefnyddio’r dechnoleg tyrbinau gwynt ddiweddaraf – digon i bweru tua oddeutu 38,000 o gartrefi.

Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys 6 thyrbin gwynt ag uchafswm uchder blaen llafn o 200m, sylfeini tyrbinau, llawr caled i graen a mannau gosod/storio.

Bydd gan y safle draciau mynediad, is-orsaf drydanol a mast anemomedr ar gyfer monitro cyflymder gwynt a pherfformiad tyrbinau gwynt.

Bydd cyrtiau adeiladu a storio dros dro ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu.

Sut mae’r cynnig wedi newid ers yr ymgynghoriad anstatudol anffurfiol?

Ers ein hymgynghoriad cyn ymgeisio statudol, rydym wedi gwneud y newidiadau dylunio canlynol i’n cynigion, gan gynnwys:

  • Mae uchder blaen llafn Tyrbin 1 wedi cael ei leihau o 200m i 180m i leihau effeithiau amwynder gweledol (RVA) preswyl; ac
  • Mae Tyrbin 6 a’r pad craen cysylltiedig wedi symud i’r dwyrain i osgoi ardal glustogi ystlumod ac ased treftadaeth.

Beth yw'r manteision i'r gymuned?

Yn ogystal â chynhyrchu’r ynni glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, bydd Parc Ynni Banc Du yn dod â manteision sylweddol i’r gymuned leol.

Am bob megawat o ynni y mae Parc Ynni Banc Du yn gallu ei gynhyrchu, bydd £7,500 yn cael ei fuddsoddi yn y gymuned leol. Bydd hyn yn gweld cronfa Budd Cymunedol blynyddol o ryw £300,000 miliwn bob blwyddyn dros oes y prosiect.

Bydd y gronfa Budd Cymunedol yn cael ei gweinyddu trwy endid elusennol annibynnol i gefnogi cymunedau lleol i greu prosiectau etifeddiaeth, cefnogi elusennau a grwpiau, ac i wella gwasanaethau.
Mae’r gronfa hefyd yn gysylltiedig â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, er mwyn caniatáu ar gyfer chwyddiant economaidd a diogelu’r cyllid ar gyfer y dyfodol.

Wedi’i lywio drwy ymgysylltu â phobl leol a rhanddeiliaid, bydd cyllid budd cymunedol yn canolbwyntio ar greu cymunedau iachach a chyfoethocach trwy gefnogi gwelliannau hamdden, iechyd a lles, gwella’r ddarpariaeth addysg leol a nodi mwy o lwybrau i gyflogaeth ar gyfer pobl leol. Bydd hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddathlu a hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a bioamrywiaeth lleol.

Sut byddwch chi'n cael mynediad i'r safle a sut bydd offer yn cael ei ddosbarthu?

Y pwynt mynediad ar gyfer cludo cydrannau tyrbinau fydd trwy gyffordd flaenoriaeth syml newydd ar yr A44 i’r gorllewin o Langurig.

Bydd y gyffordd mynediad yn cael ei chynnwys yn y cais am ganiatâd, a bydd yn darparu mynediad ar gyfer yr holl lwythi annormal sy’n gysylltiedig â chludo’r tyrbinau, yn ogystal â mynediad ar gyfer cerbydau nwyddau trwm (HGV) sy’n cludo deunyddiau adeiladu.

Bydd angen caniatâd cynllunio ar wahân ar gyfer unrhyw waith ychwanegol sydd ei angen i gludo llwythi annormal, a gyflwynir mewn ymgynghoriad â’r Awdurdod Lleol. Bydd Cynllun Rheoli Trafnidiaeth yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â’r heddlu, awdurdodau priffyrdd, a chludwyr i sicrhau bod cydrannau’n cael eu cludo’n ddiogel ac yn effeithlon.

Pwy fydd yn penderfynu a fydd cynigion y Parc Ynni yn cael caniatâd cynllunio?

Gan fod capasiti cynhyrchu’r Parc Ynni arfaethedig yn fwy na 10MW o ynni, mae’n dod o dan y categori cynllunio a elwir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).

Cyflwynir ceisiadau DNS i Weinidogion Llywodraeth Cymru i benderfynu arnynt drwy Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Mae rhanddeiliaid a thrigolion lleol yn gallu rhoi eu barn ar sawl cam o’r broses gynllunio, gan gynnwys ein hymgynghoriad anstatudol yn hydref 2022 a’r cyfnodau cyn ymgeisio a phenderfynu. Y dyddiad cyflwyno ar gyfer y cais DNS yw yn ddiweddarach yn 2025.

Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghorai statudol allweddol a bydd yn paratoi Adroddiad Effaith Leol ar gyfer PEDW ar y cais.

Beth fyddwch chi'n ei wneud i warchod bywyd gwyllt lleol a'r amgylchedd fel rhan o'r cynlluniau?

Bydd y prosiect yn sicrhau budd net i fioamrywiaeth yn ystod ei oes, gan gynnwys creu ac adfer cynefinoedd. Bydd y gwelliannau hyn, a ddaw dan reolaeth briodol am gyfnod y cynllun (45 mlynedd), hefyd o fudd i fywyd gwyllt ar draws y safle drwy gynyddu ansawdd, maint, amrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd o’r sefyllfa bresennol.

Fydd y tyrbinau gwynt yn swnllyd?

Rydym wedi cynnal gwaith monitro sŵn ac asesiadau effaith trylwyr yn unol ag arfer gorau, deddfwriaeth berthnasol ac mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Powys. Mae hyn yn sicrhau bod terfynau sŵn yn cael eu gosod i amddiffyn trigolion lleol a diogelu amwynder preswyl. Bydd unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn cynnwys terfynau sŵn llym, ac rydym wedi ymrwymo i beidio â mynd y tu hwnt iddynt.

Bydd sŵn dros dro yn ystod y gwaith adeiladu yn cael ei reoli trwy Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu a’i liniaru cymaint â phosibl trwy fesurau rheoledig. Mae’r rhain yn cynnwys oriau gwaith sefydledig, rhaglenni rheoli sŵn ac amseroedd dosbarthu.

A fydd hyn yn effeithio ar unrhyw lwybrau troed lleol?

Yn ystod y cyfnod adeiladu efallai y bydd angen peth ailgyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus (HTC) oherwydd rhesymau adeiladu ac iechyd a diogelwch. Os bydd angen hyn, byddwn yn gwneud cais am ganiatâd perthnasol ac yn sicrhau bod cymunedau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Ar ôl cwblhau bydd yr holl HTC presennol yn cael eu hadfer.

Ar safleoedd eraill Bute Energy, rydym wedi ceisio gwella mynediad a darpariaeth ar gyfer hamdden o amgylch y Parc Ynni. Rydym yn ailadrodd y dull hwn ar gyfer Parc Ynni Banc Du ac yn paratoi ein Fframwaith Hamdden Strategol mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

A roddwyd ystyriaeth i dreftadaeth yr ardal?

Mae ein tîm wedi cynnal asesiadau cefndir archeolegol a hanesyddol helaeth o’r safle a’r ardal gyfagos. Daeth yr asesiadau hyn i’r casgliad nad oes unrhyw asedau treftadaeth dynodedig o fewn y safle arfaethedig.

Mae deg Adeilad Rhestredig Gradd II ym mhentref Llangurig, 400m i’r de-ddwyrain o’r safle. Mae Eglwys restredig Gradd II* Curig hefyd wedi’i lleoli ym mhentref Llangurig. Rydym wedi dylunio’r prosiect i osgoi effaith ffisegol uniongyrchol ar yr asedau treftadaeth hyn.

Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd protocol ar gyfer darganfyddiadau archeolegol annisgwyl yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gytuno gyda Heneb (Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys gynt).

A fydd y tir o dan y tyrbinau gwynt yn dal i allu cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill?

Mae’n gyffredin i ffermwyr barhau i fagu da byw a/neu dyfu cnydau ar dir lle mae tyrbinau gwynt. Mae llawer o enghreifftiau hefyd o dir wrth ymyl ac o dan dyrbinau gwynt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hamdden, o gerdded a rhedeg, i feicio a marchogaeth.

Yn ystod y cyfnod adeiladu efallai y bydd angen rheoli mynediad a gosod cyfyngiadau ar y mathau o weithgareddau y gellid eu cynnal ar draws y safle ar adegau am resymau diogelwch. Fodd bynnag, unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ac y bydd y parc ynni yn weithredol, bydd gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle yn gallu dychwelyd i’r arfer.

Sut bydd y prosiect yn cysylltu â'r grid trydan?

Yng Nghanolbarth Cymru, nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y gallu i gysylltu’r holl ynni adnewyddadwy newydd arfaethedig â chartrefi a busnesau – er mwyn rhoi terfyn ar ddefnyddio tanwyddau ffosil mae angen seilwaith newydd arnom a hynny’n gyflym.

Ers y cyfnod ymgynghori anstatudol yn Hydref 2022, mae GEN Gwyrdd Cymru wedi cynnig llinell grid Rhiwlas.

Mae GEN Gwyrdd Rhiwlas yn destun cais cynllunio ar wahân a gellir dod o hyd i fwy o fanylion yn www.rhiwlasgen.cymru

A fydd cyfleoedd i fusnesau neu gyflenwyr lleol gymryd rhan yn y prosiect?

Mae Bute Energy wedi ymrwymo i wneud y defnydd gorau posibl o gadwyni cyflenwi a busnesau lleol i sicrhau bod potensial y prosiect o ran buddsoddiad, swyddi a hyfforddiant yn cael ei uchafu. Byddem yn annog perchnogion busnesau lleol sydd â diddordeb mewn cyfleoedd caffael yn y dyfodol i gysylltu â ni ag unrhyw ymholiadau.

Byddem yn awyddus i ddefnyddio’r camau cyn ymgeisio a phenderfynu i adeiladu rhwydwaith o gyflenwyr lleol a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gam caffael y prosiect, yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio.

Pryd ydych chi'n cyflwyno'r cais cynllunio?

Rydym yn falch o gadarnhau bod cais cynllunio ar gyfer Parc Ynni Banc Du wedi cael ei gyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) ar 23 Rhagfyr 2025.

Ar hyn o bryd mae PEDW yn adolygu’r ceisiadau i sicrhau bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi cael ei chyflwyno. Ar ôl iddynt gael eu derbyn, bydd y dogfennau ar gael i’w gweld ar Borth Gwaith Achos PEDW. Yna bydd PEDW yn dechrau ei ymgynghoriad pum wythnos ei hun a fydd yn gyfle olaf i chi roi eich barn ar y cynigion.