Cwmni datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru’n lansio ymgynghoriad am gynlluniau Parc Ynni
Mae’r cwmni datblygu ynni adnewyddadwy Bute Energy, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Moel Chwa, a allai gynhyrchu digon o ynni gwyrdd, glân i bweru bron i 52,000 o gartrefi.
Mae’r prosiect yn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a bydd yn helpu cymunedau lleol i fyw bywydau trydan modern, gan hefyd gefnogi targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod 100% o’n trydan yn adnewyddadwy erbyn 2035.
Bydd y gwaith arfaethedig, Parc Ynni Moel Chwa, gerllaw Llanfihangel Glyn Myfyr yng Nghonwy, a bydd yn cynnwys 12 tyrbin sy’n mesur hyd at 200m at y blaen uchaf. Unwaith y bydd yn weithredol, gallai’r Parc Ynni gynhyrchu tua 79.2MW o drydan adnewyddadwy a bydd yn cysylltu â’r Grid Cenedlaethol mewn is-orsaf newydd gerllaw Gwyddelwern, tua 7km o’r Parc Ynni. Bydd y cysylltu’n digwydd drwy linell uwchben ar bolion pren.
Mae Bute Energy yn ymroddedig i gefnogi a chydweithio â’r cymunedau lle maen nhw’n datblygu eu prosiectau. Yn rhan o brosiect Parc Ynni Moel Chwa, bydd Cronfa Budd Cymunedol yn cael ei sefydlu a rhagwelir ar hyn o bryd y bydd hon yn darparu buddsoddiad sydd werth tua £590,000 y flwyddyn yn lleol.
Yn ogystal â’r gronfa, mae Bute Energy wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint ag y bo modd o’r buddsoddiad yn aros yn lleol. Mae tîm Budd Cymunedol y cwmni’n canolbwyntio ar greu llwybrau i bobl leol sicrhau swyddi, cael y mynediad gorau i’n parciau ynni a gweithio gydag ysgolion lleol a chyfleusterau cymunedol i helpu i ostwng eu biliau ynni a’u hôl-troed carbon.
Bydd rownd gyntaf ymgynghoriad cyhoeddus ar waith tan Ddydd Sul 11 Mehefin 2023, gyda sesiynau galw heibio cyhoeddus fydd yn gadael i bobl weld gwybodaeth a dweud eu dweud. Bydd y cwmni’n rhannu gwybodaeth gyda’r bobl hynny sy’n byw gerllaw’r prosiect, ar hyd llwybr cysylltu’r grid, a gyda busnesau a sefydliadau eraill.
Yn y rownd gyntaf hon o’r ymgynghoriad, byddai Bute Energy yn hoffi clywed barn y gymuned leol am eu cynigion cyntaf. Bydd tîm Budd Cymunedol Bute Energy yn mynd i’r digwyddiadau, gan ganolbwyntio ar ganfod grwpiau a gwasanaethau lleol i ymgysylltu â nhw yn awr er mwyn deall anghenion a gobeithion y cymunedau, a sut y gall buddsoddiad sicrhau’r budd mwyaf i’r ardal leol.
Meddai John Reilly, Rheolwr Prosiect yn Bute Energy:
“Fel cenedl, rydym mewn argyfwng hinsawdd ac argyfwng costau byw. Mae digwyddiadau byd-eang yn bygwth ein cyflenwad ynni. Ac eto mae potensial diddiwedd i ynni adnewyddadwy yng Nghymru – yn enwedig gan y gwynt sy’n chwythu ar draws ein bryniau a’n mynyddoedd. Mae Bute Energy yn cymryd camau yn awr i helpu i ddarparu ynni glân gwyrdd i’n cartrefi a’n busnesau, gan ostwng ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil a chefnogi targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod 100% o’n trydan yn adnewyddadwy erbyn 2035.
“Rydym eisiau clywed barn pobl leol am ein cynlluniau, fel y gallwn roi ystyriaeth i’w sylwadau wrth i ni ddatblygu’r prosiect. Ac rydym eisiau clywed gan bobl leol sut y gallwn helpu i gefnogi prosiectau a mynd i’r afael â phroblemau mewn cymunedau o amgylch y safle – er mwyn i ni allu darparu buddion go iawn i bobl leol.”
Yn dilyn y rownd hon o ymgynghoriad cyhoeddus, byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl adborth a dderbyniwn, ynghyd ag adroddiadau o arolygon amgylcheddol a thechnegol, cyn cynnal rhagor o ymgynghori â’r cyhoedd.
Gallwch glywed rhagor, a chael atebion i’ch cwestiynau yn un o’r sesiynau galw heibio cyhoeddus.
Gallwch weld gwybodaeth hefyd, a rhoi adborth, ar wefan y prosiect: www.moelchwaenergypark.wales.
Mae safle’r Parc Ynni arfaethedig mewn Ardal wedi ei Rhagasesu ar gyfer ynni gwynt graddfa fawr ar y tir yn ôl Fframwaith Datblygiad Cenedlaethol Llywodraeth Cymru: Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Bydd y parc arfaethedig, Parc Ynni Moel Chwa, yn cynhyrchu mwy na 10MW o ynni, felly mae wedi ei gategoreiddio’n Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y bydd Bute Energy yn gwneud cais i PEDW (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru), a fydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, p’un a ddylent roi caniatâd cynllunio ai peidio. Ar hyn o bryd disgwylir i Bute Energy gyflwyno cais cynllunio i PEDW yn 2024, yn dilyn ymgynghoriad trwyadl â’r cyhoedd.
Mae gan Bute Energy weledigaeth am Gymru sy’n fwy iach a chyfoethog ac sy’n defnyddio cynhyrchiad ynni fel pŵer cadarnhaol i’r byd, i Gymru, i gymunedau lleol – i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cwmni wedi ei seilio yng Nghaerdydd ac mae’n mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd drwy bweru Cymru gydag ynni glân a gwyrdd, ac yn pweru ein cymunedau drwy fuddsoddiad, swyddi a sgiliau.
Mae Bute Energy yn bwriadu adeiladu ffermydd gwynt a solar ar hyd a lled Cymru a fydd yn helpu i gyflawni targedau Sero Net y Llywodraeth, yn gwresogi cartrefi, pweru busnesau, a gwefru cerbydau trydan. Mae gwynt atraeth yn un o’r dewisiadau mwyaf cost effeithiol i drydan newydd yn y DU – yn rhatach na nwy, niwclear, glo a deunyddiau adnewyddadwy eraill. Bydd hyn yn gostwng ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil wedi eu mewnforio.
Bydd y prosiectau cynhyrchu ynni hyn yn bartneriaeth rhwng Bute Energy a phobl Cymru a byddent yn galluogi buddsoddiad ariannol mawr mewn cymunedau gerllaw. Am ein bod yn gwmni sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd, byddwn yn gwneud y defnydd gorau o gadwynau cyflenwi yng Nghymru ac yn buddsoddi mewn cynlluniau hyfforddi a chyfleoedd prentisiaeth yn lleol er mwyn cael effaith hirdymor
Cael y newyddion diweddaraf i gyd