Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o gyhoeddi mai’r datblygwr ynni adnewyddadwy Cymreig, Bute Energy, fydd noddwr swyddogol Cwpan Menywod Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwpan Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer y ddau dymor nesaf.
Bydd y bartneriaeth yn hyrwyddo’r weledigaeth o greu dyfodol gwyrddach, mwy cynhwysol ar gyfer pêl-droed ac yn bywiogi gêm y menywod tra’n meithrin twf o fewn y gamp. Mae’n ymrwymiad ar y cyd i rymuso menywod ifanc a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym maes pêl-droed cymunedol ledled Cymru.
Oherwydd y galw mawr am sgiliau STEM yng Nghymru, byddwn yn gweld mentrau pwrpasol yn cael eu datblygu sy’n cysylltu menywod a merched yn chwarae pêl-droed â phynciau STEM, cyfleoedd cyflogaeth yn y sector ynni glân, a Pholisi Cynaliadwyedd sydd wedi’i gyd-gynhyrchu y gellir ei deilwra a’i addasu gan glybiau yn y dyfodol.
Bydd y bartneriaeth, a fydd ar waith tan ddiwedd tymor 2025/26, yn golygu y bydd Cwpan Menywod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cael ei ail-enwi’n Cwpan Cymru Bute Energy a Chwpan Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cael ei alw’n Cwpan Dan 16 Bute Energy.
Dywedodd Annaliese Lewis, chwaraewr tîm hŷn a hyfforddwr tîm iau Cascade YC:
“Bydd buddsoddiad Bute Energy nid yn unig yn grymuso ein chwaraewyr ifanc i freuddwydio’n fwy a chwarae’n well, ond hefyd yn ein galluogi i weithio gyda chwmni ynni adnewyddadwy i greu amgylchedd cynaliadwy lle gallan nhw ffynnu. Rydyn ni’n gosod esiampl bwerus o gyfrifoldeb a gofal am yr amgylchedd, drwy sicrhau bod gan genedlaethau o chwaraewyr pêl-droed menywod y dyfodol gartref gwyrddach a mwy cynhwysol.”
Dywedodd Catryn Newton, Cyfarwyddwr Buddion Cymunedol Bute Energy: “Mae wedi bod yn wych gweld twf cyflym pêl-droed menywod a merched yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydyn ni’n falch o fod yn cefnogi’r twf hwn mewn cymunedau ar draws Cymru.
“Mae chwaraeon yn ffordd bwerus o wella hyder pobl a’u galluogi i fod yn rhan o gymuned. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o hynny, tra hefyd yn cefnogi datblygiad menywod a merched fel arweinwyr ac yn helpu pobl ifanc i gael mynediad at bynciau STEM a chyfleoedd cyflogaeth.
“Yn Bute Energy rydyn ni’n gweithredu nawr i ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a’r argyfwng costau byw mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Rydyn ni’n gyffrous i fod yn dechrau gweithio gyda chlybiau, yn enwedig y rheini sydd wedi’u lleoli gerllaw parciau ynni Bute Energy, i’w helpu i ddod yn fwy cynaliadwy. Rwy’n hynod o falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â thîm Cymdeithas
Bêl-droed Cymru, sydd yr un mor flaengar ac arloesol, ac yn gyffrous o fod yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn ystod y flwyddyn i ddod.”
Ychwanegodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Ein nod yw gweithio gyda phartneriaid ymroddedig sy’n gallu buddsoddi, cefnogi a hyrwyddo’r gêm i ferched i alluogi’r gêm i barhau i dyfu.
“Bydd nawdd Bute Energy yn ein galluogi i wella a datblygu ein cystadlaethau cwpan cenedlaethol i holl dimau menywod a merched ledled Cymru. Mae Bute Energy yn angerddol am gefnogi Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu clybiau cynaliadwy ac i gynnig mwy o gyfleoedd i fenywod a merched wireddu eu potensial llawn.”
Mae Bute Energy wedi’i leoli yng Nghymru, ac mae ganddo weledigaeth am Gymru iachach, cyfoethocach sy’n defnyddio cynhyrchu ynni fel pŵer positif i’r byd, i Gymru, i gymunedau lleol – ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Cwmni o Gaerdydd yw Bute Energy ac mae’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy greu dyfodol positif i Gymru gydag ynni glân, gwyrdd, a grymuso ein cymunedau drwy fuddsoddi, swyddi a sgiliau.
Bydd pob Parc Ynni Bute Energy yn elwa o Gronfeydd Buddion Cymunedol, sydd gyda’i gilydd, werth miliynau o bunnoedd y flwyddyn. Mae Bute Energy yn siarad â phobl a sefydliadau lleol ynglŷn â’r prosiectau, y grwpiau a’r gwasanaethau y maen nhw’n ymgysylltu â nhw a sut y gallant helpu, gan ganolbwyntio ar gymorth costau byw, hamdden ac iechyd, addysg, yr amgylchedd a diwylliant a chyflogadwyedd. Mae buddsoddiad y cwmni yn y maes hwn yn dangos yr ymrwymiad i wneud y mwyaf o’r buddion i gymunedau Cymreig, gyda’r lefelau o gymorth ariannol yn uwch na safon y diwydiant.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd