Garreg Fawr FAQs

Pam mae'r safle hwn wedi cael ei ddewis?

Mae ein hastudiaethau hyd yn hyn yn dangos bod gan y safle ym Mharc Ynni Garreg Fawr fynediad ardderchog at adnoddau gwynt ac mae ganddo addasrwydd technegol ac amgylcheddol.

Faint o dyrbinau gwynt fydd yno?

Ein cynnig cychwynnol yw darparu hyd at uchafswm o 22 o dyrbinau ar y safle.  Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei fireinio wrth i ni gael mwy o wybodaeth o’n hasesiadau technegol (fel effaith amgylcheddol, effaith weledol a modelu sŵn) ac arolygon, yn ogystal ag mewn ymateb i adborth gan y gymuned, ymgyngoreion arbenigol a rhanddeiliaid eraill.

Sut fyddwch chi'n cael mynediad i'r safle?

Megis dechrau ydym o hyd o ran nodi’r llwybrau gorau i sicrhau y gall traffig sy’n teithio i’r safle ac oddi yno wneud hynny’n ddiogel a chyda’r effaith leiaf bosibl ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach.

Bydd dyluniad manwl y parc ynni yn esblygu dros y misoedd nesaf, gan ystyried adborth gan gymunedau ac ymgyngoreion statudol, yn ogystal ag asesiadau amgylcheddol a thechnegol parhaus.

Pwy fydd yn penderfynu a fydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen ai peidio?

Gan fod capasiti cynhyrchu’r parc ynni arfaethedig yn fwy na 10MW o ynni, mae’n dod o dan y categori cynllunio a elwir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).

Cyflwynir ceisiadau DNS i Weinidogion Llywodraeth Cymru i benderfynu arnynt drwy Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).  Felly bydd rhanddeiliaid a thrigolion lleol yn gallu rhoi eu barn ar gamau lluosog o’r broses gynllunio, gan gynnwys y cyfnodau cyn ymgeisio a phenderfynu. Y dyddiad cyflwyno arfaethedig ar gyfer y cais DNS yw 2026.

Sut fydd cymunedau lleol yn gallu dweud eu dweud?

Gall unrhyw un ddweud ei ddweud ar y cynigion ar hyn o bryd drwy gymryd arolwg byr Bute gan ddefnyddio’r platfform adborth Give My View. Yn ogystal â defnyddio Give My View yn y cyfnod cynnar hwn, byddwn yn cyfarfod ag aelodau o’r cyhoedd dros y misoedd sydd i ddod. Byddwn yn ysgrifennu at y trigolion a’r busnesau sy’n byw agosaf at y safle â gwybodaeth fanylach yn y misoedd nesaf i gasglu adborth ar ddyluniad y prosiect mewn arolwg cymunedol. Bydd gwybodaeth am y prosiect a’r arolwg ar gael ar y wefan.

Bydd Bute Energy yn ymgymryd ag ymgynghoriad statudol â chymunedau lleol, ymgyngoreion arbenigol a rhanddeiliaid eraill yn gynnar yn 2026 cyn cyflwyno cais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol yn hydref 2026. Bydd trigolion lleol yn gallu gwneud sylwadau yn ystod y camau archwilio a phenderfynu a gynhelir gan PEDW a Gweinidogion Cymru.

A fydd y tyrbinau yn swnllyd?

Fel rhan o’n cyfnod datblygu, byddwn yn cynnal asesiad sŵn a fydd yn cael ei gyflwyno i PEDW.  Bydd hyn yn amlinellu’r sŵn y disgwylid ei gynhyrchu gan y parc ynni yng nghyd-destun y sŵn cefndir ehangach o bob rhan o’r safle a’r ardal gyfagos.

Er mwyn cael caniatâd cynllunio bydd angen i ni arddangos y byddai’r tyrbinau arfaethedig yn bodloni’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer allyriadau sŵn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i waith yn ystod y cyfnod adeiladu, a bydd sŵn yn ystod y cyfnod hwn yn cael ei reoli’n agos a’i liniaru gymaint â phosibl trwy fesurau rheoledig; mae’r rhain yn cynnwys oriau gwaith sefydledig, rhaglenni rheoli sŵn ac amseroedd penodol i ddanfoniadau.

A fydd y tir o dan y tyrbinau gwynt yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill?

Mae’n gyffredin i ffermwyr barhau i fagu da byw a/neu dyfu cnydau ar dir lle mae tyrbinau gwynt. Mae llawer o enghreifftiau o dir wrth ymyl ac o dan dyrbinau gwynt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hamdden, o gerdded a rhedeg, i feicio a marchogaeth ceffylau.

Yn ystod y cyfnod adeiladu byddai angen mynediad wedi’i reoli a chyfyngiadau ar y mathau o weithgareddau y gellid eu cynnal ar draws y safle.  Fodd bynnag, unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau a’r parc ynni yn weithredol, bydd gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle yn gallu dychwelyd i’r arfer.

A fydd y prosiect yn effeithio ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Gomin Mynydd Epynt?

Mae’r cynlluniau drafft cynnar yn dangos y tŵr tyrbin agosaf wedi’i leoli tua 3km i’r gogledd o ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Ardal Hyfforddi Milwrol Pontsenni (SENTA) wedi’i lleoli yn union i’r gogledd a’r gorllewin o’r safle, wedi’i lleoli ar Dir Comin Mynydd Epynt, sy’n dir comin cofrestredig â hawliau i borwyr ac wedi’i ddosbarthu fel ‘tir agored’ o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000).

Fel rhan o baratoi ein cais i PEDW byddwn yn asesu effaith y prosiect yn fanwl ar draws amrediad o feysydd, gan gynnwys pethau fel yr amgylchedd a gwelededd. Lle nodir unrhyw effeithiau, byddwn yn ceisio lliniaru’r rhain gymaint â phosibl.

Byddwn yn ceisio ymgysylltu â chyrff fel Adnoddau Naturiol Cymru (ANC), Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r MOD yn gynnar yn ein proses ymgynghori i ddeall er mwyn i ni allu ymgorffori eu barnau ac adborth yn ein cynlluniau cyn cyflwyno.

A fydd cyfleoedd i fusnesau neu gyflenwyr lleol gymryd rhan yn y prosiect?

Mae Bute Energy wedi ymrwymo i wneud y defnydd gorau o gadwyni cyflenwi a busnesau lleol er mwyn sicrhau bod y prosiect yn gwneud y mwyaf o botensial buddsoddi, swyddi a hyfforddiant. Byddem yn annog perchnogion busnesau lleol sydd â diddordeb mewn cyfleoedd caffael yn y dyfodol i gysylltu â ni ag unrhyw ymholiadau.

Rydym ar hyn o bryd ar gam cynnar iawn o’n prosiect, ond byddem yn awyddus i ddefnyddio’r camau cyn ymgeisio a phenderfynu i adeiladu rhwydwaith o gyflenwyr lleol a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gam caffael y prosiect, yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio.

A yw'r datblygiad hwn yn gysylltiedig â Chysylltiad Grid Tywi Wysg?

I fynd i’r afael â diffyg capasiti’r grid ac i alluogi prosiectau ynni adnewyddadwy Cymreig newydd i gysylltu â’r rhwydwaith trydan, mae Green GEN Cymru yn datblygu cysylltiad grid 132kV newydd – y Cysylltiad Tywi Wysg. Mae Tywi Wysg yn brosiect ar wahân sy’n cael ei ddatblygu gan Green GEN Cymru ac mae’n ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio ar wahân. Gellir canfod rhagor o fanylion yn: https://greengentowyusk.com/

Beth yw Mast Met a pham mae ei angen?

Mae mast meteorolegol (Mast Met) yn strwythur dros dro a ddefnyddir i fesur cyflymder y gwynt, cyfeiriad y gwynt, ac amodau tywydd eraill ar safle parc ynni arfaethedig. Mae casglu’r data hwn yn helpu’r tîm prosiect i ddeall yr adnodd gwynt lleol ac mae’n rhan safonol o ddatblygiad fferm wynt cynnar.

Fel arfer, mae Mastiau Met yn eu lle am gyfnod cyfyngedig ac fe’u cynlluniwyd i’w tynnu ar ôl i’r data gofynnol gael ei gasglu. Mae’r wybodaeth a gesglir yn helpu i sicrhau bod y prosiect wedi’i gynllunio’n ddiogel, yn effeithlon, ac mewn ffordd sy’n gwneud y defnydd gorau o’r amodau lleol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Esboniad o Mastiau Met ar gyfer Ffermydd Gwynt.