Home » Newyddion » Bute Energy yn dechrau ymgyslltu cynnar ar Barc Ynni Nant Ceiment yn Sir Gaerfyrddin.

Bute Energy yn dechrau ymgyslltu cynnar ar Barc Ynni Nant Ceiment yn Sir Gaerfyrddin.

Gall Parc Ynni Nant Ceiment gynhyrchu digon o ynni glân, gwyrdd i bweru hyd at 61,100 o gartrefi.

Ein cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Nant Ceiment

Rydym yn gyffrous i ddechrau sgyrsiau cynnar gyda chymunedau am ein project diweddaraf – Parc Ynni Nant Ceiment – parc ynni arfaethedig yng Nghaerfyrddin a allai gynhyrchu digon o drydan glân, gwyrdd i bweru hyd at 61,100 o gartrefi.

Wrth i ni lunio’r cynlluniau ar gyfer y datblygiad gwynt ar y tir hwn, rydyn ni am glywed gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal. Dyna pam rydyn ni wedi lansio ymgysylltiad cynnar ac yn gwahodd cymunedau lleol i rannu eu barn trwy ein platfform rhyngweithiol, Give My View.

Credwn y dylai datblygiadau ynni ddod â manteision i’r cymunedau sy’n eu cynnal – nid yn unig trwy pwer glân, ond trwy fuddsoddiad lleol, cyfleoedd, a phartneriaethau. Dyna pam gall Parc Ynni Nant Ceiment ddarparu hyd at £643,500 bob blwyddyn i’r ardal leol trwy Gronfa Budd Cymunedol, gan greu etifeddiaeth o fuddsoddiad mewn lleoedd cymunedol, gwasanaethau a chymorth.

Mae’r parc ynni hwn yn cael ei gynnig i’w adeiladu tua 5km i’r de o Lanbedr yn Sir Gaerfyrddin.

Mae dyluniadau cynnar yn cynnwys 13 tyrbin.

A fyddai’n ddigon i bweru tua 61,100 o gartrefi.

Gall cymunedau lleol gael mynediad at grantiau o hyd at £643,500 bob blwyddyn.

Dod i nabod cymunedau lleol.

Ond nid yw ein cynlluniau amdan y gronfa yn unig. Mae ein tim Buddsoddi Cymunedol wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â phobl leol i wella mynediad at natur, archwilio cyfleoedd cyflogaeth lleol, a chefnogi ysgolion a chyfleusterau lleol.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, rydym yn anelu at gysylltu â chymaint o grwpiau ac sefydliadau ag y gallwn – o gynghorau lleol a chlybiau chwaraeon i ysgolion a elusennau – i ddeall beth sydd wirioneddol o bwys yn eich cymuned, a sut y gallwn wneud cyfraniad ystyrlon.

"Mae Bute Energy yn falch o ddechrau ein hymgysylltiad â chymunedau wrth ddatblygu Parc Ynni Nant Ceiment. O fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, heriau costau byw, a'n dibyniaeth ar nwy o dramor, mae potensial enfawr i ynni adnewyddadwy yng Nghymru ddarparu buddion parhaol i Gymru a'n cymunedau."

Dan Wills, Uwch Rheolwr Prosiect

Cynlluniau cynnar.

Mae’r safle tua 5km i’r de o Lambedr. Rydym dal ar ddechrau’r daith hon, ac nid yw unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud – felly nawr yw’r amser i gymryd rhan a helpu i lunio’r dyfodol.

Darganfod mwy