Home » Newyddion » Recriwtio ymddiriedolwyr yng Nghymru i egnïo cronfa gymunedol gwerth £800 miliwn

Recriwtio ymddiriedolwyr yng Nghymru i egnïo cronfa gymunedol gwerth £800 miliwn

Mae Bute Energy wedi cychwyn recriwtio ymddiriedolwyr i oruchwylio buddsoddiad trawsnewidiol mewn cymunedau ger ein parciau ynni gwynt.

Rydym wedi lansio ymgyrch i recriwtio ymddiriedolwyr i helpu i lunio a llywodraethu ein Cronfa Budd Cymunedol – gwerth hyd at £800 miliwn – a fydd yn cefnogi prosiectau a lleoedd ger ein parciau ynni gwynt ar y tir ledled Cymru.

Bydd grantiau ar gyfer cymunedau lleol yn cael eu dyfarnu i helpu i ddyrchafu a thrawsnewid prosiectau a lleoedd yng nghanol cymunedau Cymru.

Mae ein teulu cyfan o barciau ynni yn cynrychioli buddsoddiad enfawr gwerth £3 biliwn. Os bydd ein holl barciau ynni arfaethedig yn mynd yn eu blaen – bydd yn golygu y byddai hyd at £20 miliwn ar gael trwy’r sefydliad elusennol bob blwyddyn, am oes ein tyrbinau.

Cronfa dan Arweiniad y Gymuned gydag Effaith Genedlaethol

Bydd y gronfa’n cael ei rheoli gan elusen annibynnol gyda bwrdd cenedlaethol o ymddiriedolwyr a phaneli cymunedol lleol wedi’u recriwtio o ardaloedd o amgylch pob parc ynni. Bydd y gronfa yn cefnogi grwpiau lleol, elusennau a sefydliadau trwy grantiau a gynlluniwyd i wella mentrau presennol a sbarduno syniadau newydd sy’n diwallu anghenion pobl leol.

Bydd gan bob parc ynni ei bot arian ei hun wedi’i ddyrannu, wedi’i gyfrifo ar £7,500 fesul megawat o gapasiti cynhyrchu wedi’i osod. Bydd y cronfeydd hyn yn gysylltiedig â Mynegai Prisiau Defnyddwyr i gadw eu gwerth ar draws oes lawn pob parc.

Ymgyrch Recriwtio ar gyfer Ymddiriedolwyr

Rydym yn chwilio am unigolion angerddol sydd â phrofiad byw, arbenigedd strategol, ac ymrwymiad i newid dan arweiniad y gymuned i ffurfio’r bwrdd ymddiriedolwyr . Bydd y bwrdd yn darparu llywodraethiant ac arweinyddiaeth ar gyfer Sefydliad Elusennol Corfforaethol (SEC) y gronfa, a reolir gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr – er mwyn sicrhau bod grantiau’n effeithiol, yn gynhwysol, ac yn dryloyw.

Ochr yn ochr â chynrychiolydd o Bute Energy, bydd ymddiriedolwyr yn chwarae rhan arweinyddiaeth hanfodol wrth sicrhau bod y gronfa’n cyflawni newid systemig trwy fuddsoddiad cymdeithasol arloesol, sy’n cael ei arwain gan ddata, ac sy’n cael ei yrru gan y gymuned.

“Mae’r elusen yn chwilio am unigolion arbennig i ymuno â’r bwrdd ymddiriedolwyr newydd ar yr adeg hollbwysig hon, gan y byddant yn helpu i lunio a llywodraethu’r model newydd beiddgar o wobrwyo grantiau a buddsoddi cymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bwrdd amrywiol sydd â brwdfrydedd dros newid, profiadau byw, ac arbenigedd sy’n berthnasol i’r genhadaeth. Yn ogystal ag unigolion annibynnol o bob cwr o Gymru, bydd aelod o dîm Bute hefyd yn eistedd wrth fwrdd yr ymddiriedolwyr, gan ddarparu mewnwelediadau a data mapio cymdeithasol byw i gynorthwyo'r cyfleoedd hirdymor y gwneir cais amdanynt.”

Catryn Newton - Cyfarwyddwr Buddsoddiad Cymunedol, Bute Energy

Paneli cymunedol lleol

Tra’n bod ni’n recriwtio ar gyfer y bwrdd ymddiriedolwyr ar hyn o bryd, byddwn ni’n recriwtio paneli lleol yn ddiweddarach ar gyfer pob parc ynni fel bod gennym ni gymaint o wybodaeth a chefnogaeth leol â phosibl i wireddu’r cyfan.

Bydd y bobl hyn yn arweinwyr cymunedol angerddol a fydd yn adnabod eu cymuned yn wych a sut orau i gefnogi i sicrhau bod blaenoriaethau a phrosiectau lleol yn cael eu cyflwyno a’u cefnogi.

Cronfa grantiau dan arweiniad mewnwelediad

Wedi’i arwain gan ein themâu ffocws, mae ein tîm wedi mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ddata i fapio heriau a dyheadau cymunedau lleol. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddadansoddiad data ansoddol (ymchwil, sgyrsiau, astudiaethau achos) a meintiol (cyfrifiad, ystadegau, arolygon barn) – rydym yn defnyddio platfform digidol i ddelweddu a deall y rhyngddibyniaethau rhwng canlyniadau’r gwaith ymchwil. Bydd y dull hwn yn ein helpu i nodi ble y gallem fuddsoddi cyn gynted â phosibl, ac yn arwain paneli lleol a bwrdd yr ymddiriedolwyr.

Helpu i lunio Cronfa Budd Cymunedol newydd gwerth

i Gymru

£800m

 

Dysgwch fwy am rôl yr ymddiriedolwr