Home » Newyddion » Cynlluniau ar gyfer prosiect Parc Ynni Nant Cement i gael eu tynnu’n ôl

Cynlluniau ar gyfer prosiect Parc Ynni Nant Cement i gael eu tynnu'n ôl

Heddiw (26 Chwefror 2026) rydym wedi rhannu ein bod yn tynnu’n ôl ein cynnig ar gyfer prosiect gwynt ar y tir wedi’i leoli tua 5km i’r de o Lanbedr Pont Steffan yn Sir Gaerfyrddin, o’r enw Parc Ynni Nant Sement.

Daw’r penderfyniad yn dilyn adolygiad manwl o’r prosiect a ystyriodd ddata arolwg ac asesiad cynnar a gofynion polisi cynllunio Cymru. Penderfynodd gwerthusiad o’r data hwn y byddai heriau i ddatblygu ar y safle yn cael effaith sylweddol ar hyfywedd hirdymor y parc ynni. Mae’r rhain yn cynnwys heriau amgylcheddol, tir a masnachol sy’n unigryw i Barc Ynni Nant Sement.

Dywedodd yr Uwch Reolwr Prosiect Daniel Wills:

“Mae Bute Energy wedi ymrwymo i gyflwyno cynigion o’r safonau uchaf, sydd nid yn unig yn cadw at bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru, ond o fudd i’r amgylchedd lleol a chymunedau yn y tymor hir.

“Daw ein penderfyniad i dynnu ein cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Nant Cement yn ôl yn dilyn adolygiad o’r gwaith asesu ac arolygu a gynhaliwyd ar y safle hyd yn hyn. Dyma enghraifft o system gynllunio Cymru ar waith, gan sicrhau mai dim ond y ceisiadau cywir a gorau sy’n symud ymlaen i benderfyniad.

“Hoffem estyn ein diolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu ein cynigion hyd yn hyn.”

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n datblygu parciau ynni gwynt ar y tir ledled Cymru – i greu Cymru iachach a chyfoethocach – wedi’i phweru gan ynni cartref.

Dysgu mwy