Wrth annerch yr ystafell, tynnodd Martin Chown, ein Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro yn Bute Energy, sylw at raddfa’r cyfle yn benodol o fewn ynni adnewyddadwy – a’r camau pendant sydd eu hangen nawr i’w manteisio.
“Er mwyn i Gymru wireddu ei photensial yn llawn fel arweinydd byd-eang mewn ynni gwyrdd, mae angen sicrwydd a chydlyniad arnom gan ddiwydiant a pholisi… Bydd llwyddiant yn cael ei farnu yn ôl y canlyniadau economaidd pendant a gyflawnwn gyda’n gilydd a’r etifeddiaeth a grëwn i Gymru.”
Nododd Martin weledigaeth ar gyfer Cymru wedi’i phweru gan ynni glân cartref erbyn 2035 — dyfodol a allai ddarparu gwydnwch economaidd, swyddi o ansawdd uchel, a chadwyn gyflenwi Gymreig lewyrchus.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd