“Rydym yn hynod falch o’n partneriaeth â Phartneriaid Seilwaith Copenhagen a’r cyfleoedd y bydd y buddsoddiad hwn yn eu cynnig i fusnesau a chymunedau ledled Cymru.
“Rydym ar flaen y gad yng nghenhadaeth Cymru i bweru’r genedl gydag ynni glân, creu swyddi, rhoi hwb i gadwyn gyflenwi Cymru a darparu cyfleoedd trawsnewidiol i bobl leol.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn bleidlais o hyder gan un o’r buddsoddwyr byd-eang mwyaf mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru ac yng nghynlluniau Bute Energy i gyflawni’r buddsoddiad unigol mwyaf mewn gwynt ar y tir yng Nghymru.
“Mae 2025 yn argoeli i fod yn flwyddyn brysur arall i Bute Energy. Gyda 10 parc ynni yn y system gynllunio, nod y cwmni yw cael chwech o’r prosiectau hynny ar ddesg Ysgrifennydd y Cabinet i’w penderfynu erbyn haf 2025. Byddai’r prosiectau hyn yn darparu 1GW arall o gapasiti ynni newydd – digon i bweru 1m o gartrefi.”
Stuart George – Rheolwr Gyfarwyddwr, Bute Energy.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd