Home » Newyddion » Bute Energy yn penodi ANTZ Cymru i Helpu i Sbarduno Effaith Gymdeithasol

Bute Energy yn penodi ANTZ Cymru i Helpu i Sbarduno Effaith Gymdeithasol

Mae’r sefydliad effaith gymdeithasol blaenllaw, ANTZ Cymru, wedi’i benodi gan y datblygwr ynni adnewyddadwy o Gymru, Bute Energy, i gefnogi eu gwaith o ddarparu buddion positif, ystyrlon i gymunedau ar draws Cymru.

Mae Bute Energy wedi ymrwymo i greu dyfodol gwyrddach i gymunedau yng Nghymru drwy ddarparu ynni glân a fforddiadwy tra’n meithrin twf economaidd lleol a lles cymdeithasol. Bob tro y bydd tyrbin yn troi, bydd yn creu arian er budd y cymunedau sydd agosaf at eu parciau ynni arfaethedig, a’u galluogi i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol hefyd.

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i sicrhau bod y buddion i gymunedau lleol yn cyd-fynd â’r themâu allweddol o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae ANTZ Cymru wedi’i benodi i weithio gyda’i gyflenwyr dewisol, partneriaid elusennol a grwpiau cymunedol i gyflawni newid cymunedol cynaliadwy, effeithiol, hirdymor sy’n cael ei fonitro a’i werthuso’n fanwl.

Mae ANTZ Cymru yn datblygu system monitro gwerth cymdeithasol bwrpasol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar ran Bute Energy sy’n olrhain yr unigolyn. Bydd yn sicrhau bod targedau cymunedol Bute Energy yn cael eu gwireddu drwy roi rheolaeth i elusennau a grwpiau cymunedol asesu a diweddaru’r cynnydd, yn hytrach na dilyn y dull traddodiadol o adael i gyflenwyr a chontractwyr farcio eu gwaith cartref effaith gymdeithasol eu hunain.

Bydd pob contract a ddyfernir yn ystod y gwaith datblygu ac adeiladu yn golygu y bydd partneriaid yn ymrwymo i Safon Gwerth Cymdeithasol Bute Energy a chael mynediad at hyfforddiant drwy ANTZ Cymru. Bydd y safon yn cefnogi ac yn cyfeirio partneriaid i fuddsoddi mewn swyddi, amser, adnoddau ac arian yn y cymunedau gerllaw prosiectau’r cwmni gydag arweiniad y Tîm Buddion Cymunedol.  Y nod yw cadw cymaint o’r buddsoddiad â phosib yng Nghymru er budd cymunedau lleol.

Mae ANTZ mewn lle da i gyflwyno hyfforddiant i gadwyn gyflenwi Bute Energy diolch i lansiad eu hachrediad dysgu effaith gymdeithasol cyntaf, sydd, drwy fframwaith cyfrifol ANTZ, yn gosod safon i’r busnes gyflawni effaith a gwaddol o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt.

Mae’r cymhwyster yn rhan o gyfres o hyfforddiant i greu diwylliant o effaith gymdeithasol o fewn sefydliad. Mae’n galluogi unigolion i ddilyn siwrnai a chael dealltwriaeth glir o effaith gymdeithasol a sut gellir ei hintegreiddio ar draws prosesau gwaith. Mae’n galluogi arloesedd a dealltwriaeth o sut i werthuso ac adrodd ar effaith, ac yna i gloi, adeiladu strategaeth gymdeithasol sy’n cyd-fynd â’r cynllun busnes masnachol cyffredinol.

Bydd yr achrediad yn helpu busnesau hefyd i ddod ag eglurder i beth yw effaith gymdeithasol, ei gadw’n syml a darparu methodoleg uniongyrchol i ysgogi ymgysylltiad pwerus, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gydag effaith gymdeithasol yn fewnol ac yn allanol.

Dywedodd Catryn Newton, Cyfarwyddwr Buddion Cymunedol Bute Energy:

“Dyw mesur gwerth cymdeithasol busnes erioed wedi bod mor bwysig, ac yn Bute Energy, rydyn ni eisiau arwain y ffordd yn y maes hwn. Rydyn ni eisiau i’n partneriaid contract symud ymlaen o weld gwerth cymdeithasol fel rhywbeth i dicio bocs – ac yn hytrach canolbwyntio ar werth cymdeithasol fel rhywbeth sy’n cynnig buddion go iawn i lesiant pobl drwy’r buddsoddiad cymunedol y bydd ein prosiectau yn eu cefnogi.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod gennym brosesau llywodraethu cadarn ar waith i gasglu, mesur a gwerthuso’n effeithiol y gwerth cymdeithasol a ddarparwn, ac mae ein partneriaeth gydag ANTZ Cymru wrth wraidd yr agwedd flaengar tuag at werth cymdeithasol, sy’n ganolog i’r person, rydyn ni’n ceisio ei gyflwyno i gymunedau ledled Cymru. Dyma’r un cyntaf yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr ag ANTZ fel partner hollbwysig i rymuso ein pobl, cyflenwyr a phartneriaid yn ein cymunedau i wneud y pethau iawn.”

Wrth roi sylwadau ar ei benodiad, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol ANTZ Cymru, Jen Pemberton: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cefnogi Bute Energy gyda’r cyfle gwych hwn nid yn unig i ddarparu ynni glân, adnewyddadwy i gymunedau ar draws Cymru, ond i sicrhau bod gwaddol parhaol yn cael ei greu o fewn y cymunedau hynny, sy’n canolbwyntio ar swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd, drwy osod grwpiau cymunedol ac elusennau wrth wraidd y cynlluniau hynny.

“Mae Cymru yn arwain y ffordd yn y DU wrth sicrhau bod effaith gymdeithasol yn gwbl ganolog i ddatblygiadau’r dyfodol, ac mae Bute Energy yn enghraifft o sut i lwyddo gydag effaith gymdeithasol.  Mae’n gosod effaith gymdeithasol wrth wraidd popeth mae’n ei wneud, a thrwy ddod â’i gadwyn gyflenwi ar y daith honno mae’n sicrhau’r effaith fwyaf bosibl o fewn cymunedau. Dylai pob sefydliad edrych ar Bute Energy a’i agwedd at effaith gymdeithasol ac ystyried gwneud yr un peth.”

Mae’r tîm ynni adnewyddadwy yn Bute Energy yn bwriadu cyflwyno teulu o ffermydd gwynt a solar ar draws Cymru a fydd yn helpu i wireddu targedau Sero Net y Llywodraeth, gan alluogi pobl Cymru i fyw bywydau modern drwy ddefnyddio cerbydau trydan a phympiau gwres sy’n cael eu pweru gan drydan i roi pŵer i fusnesau ac i wresogi cartrefi.