Rydym yn awyddus i glywed ystod eang o safbwyntiau wrth i ni symud ymlaen â’n cais cynllunio ar gyfer Parc Ynni Moel Chwa. Boed yn ystod ein hymgysylltiad anffurfiol cychwynnol, neu ein hymgynghoriad cyn ymgeisio statudol, rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu’n agored ac yn onest mewn ffordd mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.
Rydym wedi cwblhau cam cyntaf ein hymgynghoriad yn barod, a oedd yn rhoi cyfle i gymunedau a rhanddeiliaid lleol ddweud eu dweud am ein cynlluniau cynnar ar gyfer y Parc Ynni.
Yn rhan o’r ymgynghoriad cawsom dri sesiwn galw heibio o amgylch y Parc Ynni ac ar hyd llwybr coridor y llinell uwchben.
Rydym yn ddiolchgar am yr holl adborth a gawsom yn y sesiynau hyn, a thrwy ein dulliau cysylltu eraill. Cawsom sylwadau ac awgrymiadau gwerthfawr, sydd wrthi’n cael eu dadansoddi’n ofalus gan dîm y prosiect. Os nad oeddech wedi gallu ymuno â ni yn unrhyw un o’n digwyddiadau, gallwch weld ein hymgynghoriad rithwir o hyd, sy’n cynnwys yr holl ddeunyddiau oedd yn cael eu harddangos yn ystod yr ymgynghoriad. (Nodwch fodd bynnag bod y cyfnod ymgynghori wedi cau bellach, felly efallai na fydd modd rhoi ystyriaeth i unrhyw adborth pellach a gyflwynir ar y cam hwn).
Cael y newyddion diweddaraf i gyd