Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus anstatudol ar gyfer Parc Ynni Garreg Fawr bellach wedi cau, yn dilyn chwe wythnos o ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid ledled Powys.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad o ddydd Mercher 17 Medi i ddydd Mercher 29 Hydref, gan roi cyfle i drigolion, cynrychiolwyr cymunedol ac ymgyngoreion statudol rannu adborth a gwybodaeth leol i helpu i lunio cynigion ar gyfer y prosiect.
Dywedodd Lauren, Rheolwr Prosiect Parc Ynni Garreg Fawr:
“Diolch i bawb a gymerodd ran ac a gyfrannodd at ein hymgynghoriad. Rydym wedi bod yn ddiolchgar am y cyfle i ddod i adnabod y cymunedau lleol ac am yr ymgysylltiad â’r broses. Nawr rydym yn edrych ymlaen at dreulio popeth rydym wedi’i ddysgu yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac at weld canlyniadau ein hastudiaethau technegol ac amgylcheddol parhaus.”
Drwy gydol y cyfnod ymgynghori, croesawyd adborth drwy sesiwn galw heibio gyhoeddus yn Neuadd y Pentref yn Llanfihangel Nant Brân, gweminar byw ar-lein, a gohebiaeth uniongyrchol dros y ffôn, e-bost, a ffurflenni adborth.
Bydd cyfle arall i roi adborth fel rhan o’n hymgynghoriad statudol, sydd wedi’i drefnu ar gyfer
Unwaith eto, hoffem ddiolch i bawb am yr amser a gymerasant i ymgysylltu â’r broses a rhannu adborth. Mae hyn bellach yn helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Garreg Fawr arfaethedig.
Bwriedir lleoli’r parc ynni hwn tua 9km i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu a 15km i’r de-orllewin o Lanfair-ym-Muallt ym Mhowys.
Mae’r rownd gyntaf o ymgynghori wedi cau ond gallwch chi barhau i gysylltu â’r tîm.
Cysylltwch â'r tîm
Cael y newyddion diweddaraf i gyd