Home » Newyddion » Dau barc ynni ger Tregaron yn agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Dau barc ynni ger Tregaron yn agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Rydym wedi lansio ein rownd gyntaf o ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Parciau Ynni Lan Fawr a Bryn Rhudd – dau brosiect arfaethedig sy’n gamau hanfodol tuag at system ynni fwy gwyrdd a diogel.

Mae’r ymgynghoriad chwe wythnos hwn yn gyfle pwysig i bobl leol, rhanddeiliaid ac ymgynghoreion statudol helpu i lunio ein cynigion. Rydym yn gwahodd adborth ar bob agwedd ar y prosiectau – o ystyriaethau amgylcheddol a dylunio tyrbinau i gyfleoedd er budd cymunedol. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau ar agor tan 18 Rhagfyr 2025 am 23:59.

Gyda’i gilydd, gallai’r ddau brosiect hyn gynhyrchu digon o ynni glân i bweru hyd at 250,000 o gartrefi bob blwyddyn, gan ddisodli tua 360,500 tunnell o garbon deuocsid yn flynyddol.

Parc Ynni Lan Fawr

Cynigir lleoli Parc Ynni Lan Fawr tua 10km i’r de-ddwyrain o Dregaron, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r dyluniad presennol yn cynnwys hyd at 40 o dyrbinau gwynt, pob un ag uchder blaen uchaf o 220m, gan gynhyrchu tua 268MW o drydan adnewyddadwy.

Parc Ynni Bryn Rhudd

Dim ond 2km i’r gogledd-orllewin o Lan Fawr, byddai Parc Ynni Bryn Rhudd wedi’i leoli tua 3km i’r de-ddwyrain o Dregaron, yng Ngheredigion. Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 15 o dyrbinau gydag uchder blaen uchaf o 220m, sy’n gallu cynhyrchu tua 100.5MW.

Buddion i'r gymuned

Os rhoddir caniatâd cynllunio gan Lywodraeth Cymru, bydd Parciau Ynni Lan Fawr a Bryn Rhudd yn darparu buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol – gan gynnwys Cronfa Budd Cymunedol flynyddol o tua £2.7miliwn, sy’n cyfateb i dros tua £100miliwn dros oes weithredol y prosiectau.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei lunio gan fewnbwn lleol i gefnogi gwasanaethau hanfodol, mentrau cymunedol, a thwf economaidd hirdymor trwy swyddi lleol a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi.

Dysgwch fwy am ein dull o fuddsoddi yn y gymuned drwy glicio ar y ddolen hon.

Sut i ddysgu mwy a rhannu eich adborth

Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau fel rhan o’r ymgynghoriad hwn:

Digwyddiad cyhoeddus mewn person:
26 Tachwedd 2025, 15:00–20:00
Canolfan Gymunedol Llanddewi Brefi, Tregaron

Gweminar dwyieithog ar-lein:
3 Rhagfyr 2025, 18:00–19:00
Bydd y weminar yn cynnwys cyflwyniad byr ac yna sesiwn holi ac ateb fyw.

Ewch i wefannau’r prosiectau i ddysgu mwy a chysylltu:
Cliciwch yma i ymweld â Pharc Ynni Lan Fawr
Cliciwch yma i ymweld â Pharc Ynni Bryn Rhudd