Cwestiynau cyffredin

Pam mae'r safle hwn wedi cael ei ddewis?

Nodwyd bod gan y safle hwn adnodd ynni gwynt ardderchog. Nid yw ychwaith yn cael ei effeithio gan unrhyw ddynodiadau amgylcheddol a fyddai’n atal y datblygiad.

Mae rhan o’r Safle, sy’n cynnwys 6 o’r 30 tyrbin gwynt arfaethedig, wedi’i nodi fel Ardal Blaenoriaeth Ynni Gwynt a Aseswyd Ymlaen Llaw (‘PAA’) yn Dyfodol Cymru: Cynllun Cenedlaethol 2040 Llywodraeth Cymru.

Er bod rhagdybiaeth o blaid datblygu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr o fewn PAAau, nid oes cyfyngiad ar ddatblygu y tu allan i’r ardaloedd hynny, mewn gwirionedd mae cefnogaeth gref i bolisi cynllunio mewn egwyddor yn gyffredinol.

Beth fydd effaith weledol y cynnig?

Rydym wedi cynnal asesiad o’r effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol (LVIA) i nodi’r effeithiau tirwedd a gweledol sylweddol sy’n debygol o godi o ganlyniad i’r cynnig.

Roedd hyn yn cynnwys asesiad manwl o olygfannau allweddol o fewn ardal astudio o radiws o 28km o’r safle, mewn ymgynghoriad ag arbenigwr tirwedd y Cyngor. Mae pob cartref o fewn 2 km i dyrbinau wedi’i asesu’n fanwl o safbwynt amwynder gweledol preswyl.

Rydym hefyd wedi asesu effaith gronnus y cynnig ar y cyd â datblygiadau tebyg eraill (gyda chaniatâd cynllunio) o fewn yr ardal astudio.

Mae’r cynllun terfynol arfaethedig o 30 tyrbin, o’i gymharu â’r 36, yn darparu gwelliant o ran effeithiau tirwedd ac effeithiau gweledol, yn arbennig o ran yr effeithiau amwynder gweledol preswyl ar eiddo i’r ogledd, gorllewin a de o’r safle lle mae’r cartrefi agosaf.

Pam mae'r tyrbinau mor uchel?

Isod mae dadansoddiad o’r tyrbinau yn ôl uchder:

  • Tri ar 220m
  • 24 ar 205m a
  • Thri ar 180m.

 

Mae tyrbinau mwy yn dod yn safonol yn y diwydiant, ac mae angen y senario dylunio mwyaf hwn i sicrhau bod y prosiect yn darparu trydan effeithlon a fforddiadwy. Mae tyrbinau gwynt ar y tir 200m i’r brig eisoes yn weithredol neu’n cael eu hadeiladu yn y DU, gan gynnwys yn ffermydd gwynt Kype Muir, Longhill Burn a Cumberhead West, tra bod sawl prosiect gwynt ar y tir arall yn y DU wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer tyrbinau rhwng 220 a 251m i’r brig.[1]

 

Mae tyrbinau mwy, yn benodol diamedrau rotor mwy, yn cynyddu effeithlonrwydd tyrbinau gwynt.

[1] Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.gov.uk/government/publications/renewable-energy-planning-database-monthly-extract#full-publication-update-history

A roddwyd ystyriaeth i dreftadaeth yr ardal?

Rydym wedi arolygu’r safle’n helaeth,a nodwyd 17 o asedau hanesyddol nas cofnodwyd o’r blaen, yn ogystal ag asesiad manwl o’r asedau heb eu dynodi a’r henebion cofrestredig hysbys. Mae gan y safle hanes diddorol yn ymestyn o’r oes efydd ar ffurf twmpathau angladdol hyd at ddefnydd llai adnabyddus o’r safle yn ‘ysgol frwydr’ o’r Ail Ryfel Byd.

Rydym wedi gweithio i osgoi effeithiau ffisegol uniongyrchol ar unrhyw asedau treftadaeth heb eu dynodi neu sydd wedi’u dynodi. Mae ein dyluniad yn cynnal ‘llinellau golwg’ rhwng y tair heneb angladdol gofrestredig, lle credir bod perthynas weledol rhyngddyn nhw.

Yn dilynadborth yn ystod yr ymgynghoriad statudol,rydym wedi diwygio’r dyluniad trwy symud T25 50m i’r de i dynnu’r ardal sy’n cael ei hysgubo gan y rotor o’r llinell olwg rhwng henebion cofrestredig Shepherd’s Tump a Great Rhos Round Barrow.

Bydd angen monitro ac adrodd archaeolegol fel rhan o unrhyw ganiatâd cynllunio.
Drwy ein Cynllun Amgylchedd Hanesyddol a’n Fframwaith Hamdden Strategol, mae gennym gyfle i greu ‘llwybr treftadaeth’ gan ddefnyddio rhwydwaith o arwyddion, gwybodaeth a phwyntiau dehongli i ddod ag ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddiwylliannol hynod ddiddorol y safle a mynediad ati, gan gynnwys defnyddio realiti estynedig a rhith-realiti.

Pa arolygon cynefinoedd a rhywogaethau sydd wedi cael eu cynnal i leihau'r effaith ar fywyd gwyllt?

Fe wnaethom gynnal amrywiaeth o arolygon ecoleg rhwng 2020 a 2024 i ddiffinio gwaelodlin ecolegol y Safle. Roedd yr arolygon yn cynnwys Astudiaeth seiliedig ar waith Desg, arolygon cynefinoedd Cam 1, arolygon Cam 2 (Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (NVC)), arolygon asesu clwydfannau posibl ystlumod, arolygon gweithgarwch ystlumod yn cynnwys synwyryddion sefydlog ac arolygon ar gyfer moch daear, dyfrgwn, llygod y dŵr, madfallod dŵr cribog (GCN) a physgod.

Bydd Cynllun Rheoli Cynefinoedd ar gyfer y prosiect yn sicrhau ei fod yn darparu budd net i fioamrywiaeth dros ei oes.

Mae arolygon wedi’u diweddaru yn cael eu cynnal yn 2025 a bydd arolygon cyn-adeiladu pellach yn digwydd fel sy’n arfer safonol.

Bydd caniatâd cynllunio hefyd yn amodol ar amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredu Strategaeth Lliniaru a Monitro Ystlumod, Cynllun Lliniaru a Gwella Madfallod Dŵr Cribog ac Arolygon Dyfrgwn cyn adeiladu.

A yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Fforest Clud wedi cael ei ystyried?

Ni chynigir unrhyw ddatblygiad o fewn y SoDdGA.

Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn dod i’r casgliad bod yr effeithiau ar SoDdGA Fforest Clud ar ôl lliniaru yn cael eu hystyried yn ddibwys ac nid yn arwyddocaol.

Mae’r Cynllun Rheoli Cynefinoedd amlinellol yn nodi mesurau a allai wella SoDdGA Fforest Clud.

Sut fydd y rhwydwaith trafnidiaeth lleol yn cael ei effeithio?

Mae Pennod 10 o’r Datganiad Amgylcheddol: Mynediad, Traffig a Thrafnidiaeth yn dod i’r casgliad, gyda gweithredu lliniaru priodol, na ragwelir unrhyw effeithiau gweddilliol sylweddol o ran problemau mynediad, traffig a thrafnidiaeth.

Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd yr effeithiau traffig yn fach neu’n ddibwys gan eu bod yn dros dro ac yn wrthdroadwy.

Yn ystod y cyfnod gweithredol, bydd effeithiau’r traffig yn isel.

Byddwn yn cyfleu manylion dyddiadau ac amseroedd dosbarthu llwythi annormal drwy amrywiaeth o ddulliau ymlaen llaw er mwyn caniatáu cynllunio teithiau ymlaen llaw.

A oes risg llifogydd o'r prosiect hwn?

Mae Asesiad Canlyniadau Llifogydd a Strategaeth Draenio Amlinellol (gweler Atodiadau 11.1 ac 11.2 i’r Datganiad Amgylcheddol) wed cael eu paratoi ar gyfer y datblygiad arfaethedig sy’n nodi sut y bydd dŵr ffo wyneb yn cael ei reoli er mwyn peidio ag arwain at risg llifogydd uwch ar y safle nac yn rhywle arall.

Bydd angen Cymeradwyaeth Draenio Cynaliadwy ar gyfer y prosiect, yn ogystal â chaniatâd cynllunio.

Sut mae mawn wedi cael ei ystyried?

Rydym wedi cynnal astudiaethau desg ac astudiaethau safle i ddeall yr amodau sylfaenol presennol yn ogystal ag ymgysylltu â Gwasanaeth Cynghori ar Ansawdd Tir Llywodraeth Cymru.

Mae hyn wedi cynnwys archwilio mawn i helpu i lywio’r cynnig, sy’n lleihau’r rhyngweithio rhwng seilwaith ac ardaloedd o fawn ac yn benodol mawn dyfnach.

Mae’r Cynllun Rheoli Pridd Amlinellol, gan gynnwys Mawn (oSMPP) yn cadarnhau bod presenoldeb mawn wedi’i gyfyngu i bocedi bach ar lwyfandir Rhos Fawr (o fewn ffin y SoDdGA), pantiau arwahanol o fewn y blanhigfa goedwigaeth ar Esgairnantau a phocedi ynysig sy’n gysylltiedig â phantiau topograffig ar Nyth-grug a Bryn Llan-Efan, ac ar hyd Nant Cwm Du.

Mae’r oSMPP yn cadarnhau bod yr holl seilwaith wedi’i osod y tu allan i’r ardaloedd mawn diffiniedig ac yn nodi mesurau i’w defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu a fydd yn lleihau ac yn lliniaru aflonyddwch i amddiffyn priddoedd.

Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i effaith cysgodion symudol ar drigolion, anifeiliaid a'r rhai sy'n defnyddio'r safle?

Rydym wedi cynnal asesiad manwl o gysgodion symudol damcaniaethol yn unol â’r canllawiau. Fodd bynnag, mae a yw cysgodion symudol yn cael eu profi mewn gwirionedd ar eiddo yn dibynnu ar nifer o ffactorau eraill gan gynnwys cyflymder a chyfeiriad y gwynt, effeithiau cysgodi/sgrinio posibl adeiladau, coed, llystyfiant neu rwystrau eraill, cyfeiriadedd ffenestri’r eiddo a thyrbinau, neu a oes rhywun mewn ystafell ar adeg y digwyddiad.

Byddwn yn ailadrodd yr ymarfer hwn ar ôl cael caniatâd, unwaith y bydd ymchwiliad tir wedi’i gwblhau a bod y lleoliad manwl gywir (o fewn y lwfans microleoli ‘hyd at’ 50m cyfredol) a dimensiynau’r tyrbinau a ddewiswyd yn hysbys.

Byddwn yn dilyn y canllawiau sefydledig ac yn sicrhau y caiff mesurau lliniaru eu rhoi ar waith pan eir y tu hwnt i’r trothwyon canlynol:

  • ’30 munud y dydd’ – a ddeellir i olygu mwy na 30 munud o gysgodion symudol a brofir gan eiddo unigol mewn unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn; a
  • ’30 awr y flwyddyn’ – a ddeellir i olygu cyfanswm y digwyddiadau cysgodion symudol sy’n cael eu profi gan eiddo unigol.

Os bydd unrhyw un o’r preswylwyr yn profi effeithiau cysgodion symudol sylweddol yn eu heiddo, bydd hyn yn cael ei ymchwilio a gellir archwilio mesurau lliniaru fel plannu llystyfiant. Fel arall, os yw trigolion yn profi cysgodion symudol na ellir eu lliniaru trwy ddulliau eraill, yna gellir cau’r tyrbin(au) perthnasol ar yr adegau hynny o’r effaith fwyaf.

Beth yw ôl troed carbon y cynnig?

Bydd costau carbon y prosiect yn cael eu had-dalu ar ôl tuag 1.4 mlynedd o weithredu, trwy ddisodli cymysgedd tanwydd ffosil o gynhyrchu ynni yn y Grid Cenedlaethol. Bydd gweithrediad y Parc Ynni yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar arbed allyriadau CO2 ac NOx.

Rydym wedi cymharu costau carbon y cynnig (a gynhyrchir fel arfer yn ystod y gwaith adeiladu) â’r arbedion carbon sy’n gysylltiedig â’r cynnig. Mae’r asesiad hwn wedi’i lywio gan Offeryn Cyfrifiannell Carbon Llywodraeth yr Alban (v1.1.8) i amcangyfrif yr arbedion allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’r cynnig. Cynhyrchwyd yr offeryn gan Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban (SEPA) i asesu effaith datblygiadau ffermydd gwynt ar fawndir mewn perthynas â rhyddhau carbon o adnodd mawn yr effeithir arno.

Beth yw effeithiau cronnol y cynnig gyda datblygiadau eraill sy'n bodoli eisoes neu sydd wedi cael caniatâd yn yr ardal?

Fel sy’n ofynnol gan Reoliad 5 o Reoliadau’r EIA, mae’r Datganiad Amgylcheddol yn ystyried yr effeithiau posibl y gallai cynnig eu cael ar y cyd â datblygiadau presennol neu rai sydd wedi cael caniatâd. Yn unol â chanllawiau’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, mae proses gam wrth gam ar gyfer asesu cynlluniau wedi’i mabwysiadu, fel y gofynnwyd gan PEDW.

 

Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn darparu asesiad o’r cynnig a’i effeithiau cronnol ar yr amgylcheddau naturiol, adeiledig a dynol, fesul pennod ac o fewn Pennod 15: Crynodeb o Effeithiau Cronnol Cydberthynol ac Effeithiau Arwyddocaol Tebygol.

 

Cynigiwyd mesurau lliniaru i leihau unrhyw effeithiau cronnol y Parc Ynni fel y nodir yn Nhabl 15.2 o’r Datganiad Amgylcheddol.

Beth yw effaith y cynnig ar amaethyddiaeth yng nghefn gwlad Powys?

Mae’r cynnig yn gydnaws ag amaethyddiaeth, gan ddefnyddio arwynebedd cymharol fach o’r Safle, gan alluogi pori ac arferion amaethyddol eraill i ddigwydd.

Er mwyn darparu budd net i fioamrywiaeth, bydd rhai ardaloedd ar gyfer rheoli cynefinoedd yn cael eu creu a bydd angen rheoli pori ar adegau penodol o’r flwyddyn.

A fydd y prosiect yn cael effaith negyddol ar dwristiaeth?

Rydym wedi adolygu sawl astudiaeth ynghylch effaith ynni gwynt ar y tir yn y DU ar dwristiaeth. Mae’r ymchwil hwn yn dod i’r casgliad nad oes llawer o dystiolaeth bod ffermydd gwynt wedi cael neu’n cael effaith negyddol ar dwristiaeth.

Beth fydd yr effaith ar brisiau tai lleol?

Rydym wedi cynnal adolygiad o astudiaethau i effaith bosibl gwynt ar y tir ar brisiau tai. Mae wedi canfod nad oes tystiolaeth glir i gefnogi cydberthynas rhwng ffermydd gwynt ac effaith negyddol gyson ar brisiau tai.

A fydd hyn yn effeithio ar unrhyw lwybrau troed lleol?

Mae nifer o hawliau tramwy cyhoeddus (PROW) yn croesi’r safle. Wrth leoli tyrbinau, rydym wedi ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid a thirfeddianwyr i gadw’r effeithiau mor isel â phosibl.

Yn ystod y cyfnod adeiladu efallai y bydd angen ailgyfeirio rhywfaint. Os bydd angen hyn, byddwn yn gwneud cais am ganiatâd perthnasol ac yn sicrhau bod cymunedau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Ar ôl cwblhau bydd yr holl PROWs presennol yn cael eu hadfer.

Rydym yn ceisio gwella mynediad a darpariaeth ar gyfer hamdden o amgylch y Parc Ynni. Ac mae Fframwaith Hamdden Strategol wedi cael ei baratoi sy’n amlinellu opsiynau posibl y gellir eu datblygu ymhellach wrth ymgynghori â rhanddeiliaid.

A fydd y tir o dan y tyrbinau gwynt yn dal i allu cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill?

Mae’n gyffredin i ffermwyr barhau i fagu da byw a/neu dyfu cnydau ar dir lle mae tyrbinau gwynt. Mae llawer o enghreifftiau hefyd o dir wrth ymyl ac o dan dyrbinau gwynt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hamdden, o gerdded a rhedeg, i feicio a marchogaeth.

Yn ystod y cyfnod adeiladu efallai y bydd angen rheoli mynediad a chyfyngiadau ar y mathau o weithgareddau y gellid eu cynnal ar draws y safle ar adegau am resymau diogelwch. Fodd bynnag, unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ac y bydd y Parc Ynni yn weithredol, bydd gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle yn gallu dychwelyd i’r arfer.

A fydd y cynnig yn effeithio ar fynediad i dir agored?

Mae gan y safle ardaloedd o dir mynediad agored o’i fewn. Ni fydd tir mynediad agored yn cael ei effeithio o ran yr hawl i grwydro, ac eithrio ardaloedd bach lle mae strwythurau’r tyrbinau gwynt wedi’u lleoli gan y byddai hyn yn gyfystyr â ‘thir eithriedig’. Fodd bynnag, bydd pobl yn gallu crwydro’n syth i fyny at dyrau’r tyrbinau yn y lleoliadau hyn, os dymunant.

Rydym hefyd wedi nodi cyfleoedd posibl ar gyfer gwella mynediad at hamdden yn y Fframwaith Hamdden Strategol. Bydd unrhyw welliannau hamdden yn y dyfodol yn cael eu gwneud mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.

A fydd y cynnig yn effeithio ar dir comin?

Mae Comin Cowlod wedi’i leoli yng nghanol y Safle. Dim tyrbinau gwynt fel y cynigir yn yr ardal hon, dim ond traciau, draenio cysylltiedig a cheblau tanddaearol.

Mae gennym y cytundeb i ymgymryd â gwaith ar y Tir Comin gyda’r rhydd-ddeiliad perthnasol ac wedi trafod â’r Cominwyr sydd â hawliau i bori’r tir. Mae Tir Comin Newydd wedi’i nodi i wrthbwyso’r gwelliannau sy’n cael eu cynnig i’r gilffordd bresennol sydd ar agor i bob traffig (BOAT) drwyddi a thrac ychwanegol a gynigir yn yr ardal hon. Mae Caniatâd Tir Comin yn cael ei geisio fel rhan o’r cais.

Sut bydd y prosiect yn cysylltu â'r grid trydan?

Yng Nghanolbarth Cymru, nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y gallu i gysylltu’r holl ynni adnewyddadwy newydd arfaethedig â chartrefi a busnesau – er mwyn rhoi terfyn ar ddefnyddio tanwyddau ffosil mae angen seilwaith newydd arnom a hynny’ngyflym. Mae heriau sylweddol hefyd o ran bodloni’r galw am ynni yn y dyfodol heb fuddsoddi mewn seilwaith grid modern.

Mae’n arfer sefydledig i brosiectau generaduron ynni ddod yn gyntaf cyn atebion grid. Mae gofynion penodol i safleoedd prosiectau cynhyrchu ynni yn pennu eu lleoliad, tra bod angen i brosiectau trosglwyddo a dosbarthu drosglwyddo’r ynni i’r man lle caiff ei ddefnyddio.

Mae Green GEN Cymru wedi cynnig llinell grid Tywi Wysg, cysylltiad trydan 132kV newydd a fydd yn cludo ynni o Barc Ynni Nant Mithil a phrosiectau ynni adnewyddadwy eraill i’r grid cenedlaethol ger Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.

Mae angen y rhwydwaith newydd hwn i gysylltu ynni adnewyddadwy newydd Cymru â’r rhwydwaith trosglwyddo trydan, gan helpu i gael ynni gwyrdd i gartrefi a busnesau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae’r cynlluniau diweddaraf ar gyfer Green GEN Tywi Wysg yn dangos y bydd y pŵer a gynhyrchir gan Barc Ynni Nant Mithil yn gallu cael ei gludo ar un gylched 132kV, mae’n debyg, ar bolyn pren cyn belled â Bryn Aberedw (oddeutu 11.3km), lle bydd gorsaf switsio yn gallu ei drosglwyddo i gylched ddwbl peilonau dur.

Mae Green GEN Tywi Wysg yn destun cais cynllunio ar wahân a gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn www.greengentowyusk.com.

Pa brosiectau eraill sydd gan Bute Energy?

Mae gennym gynllun datblygu a all gyflenwi dros 2.2GW o wynt ar y tir erbyn 2030 – gan helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau o ran defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy.

Derbyniodd cais cynllunio cyntaf Bute ar gyfer Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ar gyfer Parc Ynni Twyn Hywel ganiatâd cynllunio gan Weinidog Cymru ym mis Tachwedd 2024.

Mae ein prosiectau parc ynni i gyd ar wahanol gamau yn y broses ddatblygu a rhagwelir y byddant i gyd yn cynhyrchu ynni gwyrdd glân erbyn 2030. Os rhoddir caniatâd, bydd ein parciau ledled Cymru yn darparu 25% o’r ynni gwyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn dweud sydd ei angen arnom i gyrraedd Sero Net, gan chwarae rhan ganolog wrth gyrraedd eu targed ar gyfer 100% o drydan adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2035.

Mae rhagor o wybodaeth am ein Parciau Ynni eraill ar gael yn: https://bute.energy/

Sut fydd cynigion Bute Energy yn gwella diogelwch ynni Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i 100% o alw trydan Cymru gael ei ddiwallu gan ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Yn 2022, roedd 59% o alw trydan Cymru yn cael ei fodloni o ffynonellau adnewyddadwy.

 

Er mwyn cyflawni 100% o drydan adnewyddadwy mae angen i Gymru:

  • Ddyblu ynni gwynt ar y tir erbyn 2035[1].
  • Capasiti ffotofoltäig solar i dreblu erbyn 2035 o’i gymharu â 2022.
  • Gwynt alltraeth i gynyddu mwy na saith gwaith.
  • Mae hyn yn gofyn am y camau galluogi cywir a phedwarplygu’r defnydd o ynni adnewyddadwy mewn ychydig dros 10 mlynedd.

 

Mae ynni gwynt yn amrywiadwy; fodd bynnag, mae’n un rhan o gasgliad o dechnolegau sy’n cynhyrchu ac yn storio ynni a gynhyrchir gan ffynonellau adnewyddadwy. Gan mai gwynt ar y tir yw’r llwybr mwyaf cost-effeithiol a chyflymaf i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, mae’n rhan allweddol o gyflawni targedau ynni glân y llywodraeth erbyn 2030 a 2035. Bydd datblygiad Parc Ynni Nant Mithil yn helpu i gyfrannu at y targedau hyn.

[1] Dadansoddiad adfywiad https://www.regen.co.uk/exploring-progress-towards-the-welsh-governments-energy-targets-and-their-future-evolution/. ESO Grid Cenedlaethol, FES 2022; WPD DFES, 2021; SPEN DFES, 2021; 6ed Cyllideb Carbon CCC, 2019.

Pwy fydd yn penderfynu a fydd cynigion y Parc Ynni yn cael caniatâd cynllunio?

Gan fod capasiti cynhyrchu’r Parc Ynni arfaethedig yn fwy na 10MW, mae’n dod o dan y categori cynllunio Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).

Cyflwynir ceisiadau DNS i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) lle cânt eu harchwilio gan Arolygydd cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad terfynol.

Cyflwynwyd y cais DNS i PCAC ddiwedd 2024 a’i dderbyn ym mis Tachwedd 2025. Mae’r cais ar gael i’w weld ar ei gwefan: planningcasework.service.llyw.cymru/drwy chwilio am y cyfeirnod CAS-01907-D7Q6Z1.

Mae Cyngor Sir Powys yn ymgynghorai statudol allweddol ac fe wnaeth baratoi Adroddiad ar yr Effaith Lleol ar gyfer PEDW ar y cais.

Sut mae’r effeithiau ar hedfanaeth yn cael eu hystyried?

Trwy gydol datblygiad y prosiect, rydym wedi ymgynghori â’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol (NATS) a’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) i lywio ein cynigion a’r effeithiau ar hedfanaeth. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r sefydliadau hyn i sicrhau bod unrhyw effeithiau ar eu sefydliadau yn cael eu lleihau a’u lliniaru.

Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn destun gwrthwynebiad radar hedfanaeth amodol. Rydym yn bwriadu dechrau proses y mae’r ddwy ochr yn cytuno arni gyda NATS ar gyfer asesu opsiynau lliniaru technegol posibl mewn perthynas â’r radar yn Clee Hill. Mae ymgysylltu ynglun â hyn yn parhau, a byddai unrhyw fesurau lliniaru yn amodol ar asesiad technegol pellach a chytundeb rhwng y partïon perthnasol.

A fydd y prosiect yn effeithio ar delathrebu yn fy ardal i?

Rydym wedi ystyried effaith bosibl y prosiect ar gysylltiadau cyfathrebu diwifr (telathrebu). Yn gyffredinol, mae cysylltiadau telathrebu yn agored i liniaru, ac mae llawer ohono’n digwydd ar ôl i brosiect gael caniatâd cynllunio. Mae Arquiva, sy’n gofalu am y BBC, ITV a’r rhan fwyaf o gwmnïau radio’r DU, wedi cadarnhau nad oes ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiad. Cadarnhaodd y Cwmni Radio ar y Cyd (JRC) nad oes ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiad i’r prosiect yng nghanol 2024 yn ystod yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol. Rydym yn gweithio gyda’r JRC i ddeall y newid yn ei safbwynt ac yn ceisio cytuno ar gamau lliniaru. Mae manylion ein cynlluniau i liniaru risgiau sy’n ymwneud â thelathrebu i’w gweld yn yr Asesiad Effaith Telathrebu a gyflwynwyd yn rhan o’r Datganiad Amgylcheddol (Atodiad 2.4). Gan nad ydy rhai darparwyr yn ymgysylltu ag atebion lliniaru nes bod prosiect wedi cael caniatâd, rydym yn bwriadu cyflwyno strategaeth delathrebu i’w chymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (Cyngor Powys) cyn codi unrhyw dyrbinau. Bydd y strategaeth yn nodi mesurau lliniaru technegol rhesymol ar gyfer y gwasanaethau a weithredir gan Airwave, BT, MBNL, Vodafone a JRC, lle bu angen.