Effaith ar y dirwedd ac effaith weledol
Mae’r Asesiad o’r Effaith ar y Dirwedd ac Effaith Weledol (LVIA) sy’n cefnogi’r cais cynllunio wedi cynnal asesiad manwl o olygfannau allweddol o fewn ardal astudiaeth radiws 28km o’r safle, mewn ymgynghoriad ag arbenigwr tirwedd y Cyngor. Mae pob cartref o fewn 2.1 km i dyrbinau hefyd wedi’i asesu’n fanwl o safbwynt amwynder gweledol preswyl.
Mae’r gosodiad arfaethedig o 30 tyrbin, o’i gymharu â’r 36 gwreiddiol, yn darparu gwelliant o ran effeithiau tirwedd ac effeithiau gweledol, yn arbennig o ran yr effeithiau amwynder gweledol preswyl ar eiddo i ogledd, gorllewin a de o’r safle lle mae’r cartrefi agosaf.
Mae’r safle wedi cael ei arolygu’n helaeth gan dîm y prosiect a nodwyd 17 o asedau hanesyddol nas cofnodwyd o’r blaen, yn ogystal ag asesiad manwl o’r asedau heb eu dynodi a’r henebion cofrestredig hysbys. Mae gan y safle hanes diddorol yn ymestyn o’r oes efydd ar ffurf twmpathau angladdol hyd at ddefnydd llai adnabyddus o’r safle yn ‘ysgol frwydr’ o’r Ail Ryfel Byd.
Rydym wedi gweithio i osgoi effeithiau ffisegol uniongyrchol ar unrhyw asedau treftadaeth heb eu dynodi neu sydd wedi’u dynodi. Mae ein dyluniad yn cynnal ‘llinellau golwg’ rhwng y tair heneb angladdol gofrestredig, lle credir bod perthynas weledol rhyngddyn nhw.
Yn ystod y gwaith adeiladu, byddwn yn penodi Clerc Gwaith Archaeolegol a fydd yn monitro gweithgareddau adeiladu’n agos ac yn sicrhau, os bydd unrhyw asedau treftadaeth anhysbys yn cael eu darganfod, y caiff y rhain eu cofnodi a’u diogelu ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu.
Trwy ein Fframwaith Hamdden Strategol mae cyfle i greu ‘llwybr treftadaeth’ gan ddefnyddio rhwydwaith o arwyddion a mannau gwybodaeth i ddod ag ymwybyddiaeth o dreftadaeth ddiwylliannol hynod ddiddorol y safle, gan gynnwys defnyddio technoleg realiti estynedig a rhith-realiti.
Bydd y prosiect yn sicrhau budd net i fioamrywiaeth yn ystod ei oes, gan gynnwys trwy greu pyllau, adfer cynefinoedd nentydd ac afonydd, plannu coed brodorol, rheoli rhedyn a rheoli pori. Mae ein cynlluniau yn cynnwys mesurau megis creu gwrychoedd a phlannu oddeutu 10 hectar o goetir llydanddail er budd rhywogaethau fel ystlumod ac adar.
Mae dros ddwy flynedd o arolygon wedi cael eu cynnal ar draws y safle, gan gynnwys arolygon golygfaol, adar sy’n magu, adar ysglyfaethus sy’n magu, troellwr mawr sy’n magu ac arolygon cerdded dros y gaeaf. Mae hyn wedi cofnodi’r amrywiaeth o rywogaethau sy’n defnyddio’r safle, yn ogystal â chanolbwyntio ar rywogaethau sydd mewn perygl o wrthdaro, megis y barcud coch. Mae poblogaeth iach o farcudiaid coch wedi cael ei nodi yn yr ardal.
Er mwyn lleihau’r perygl o wrthdaro, lle mae’r barcud coch yn fwyaf gweithgar, mae tyrbinau wedi’u tynnu a’u symud ac mae ardal ysgubo llafn ymyl isaf 50m hefyd wedi’i chynnal mewn rhai lleoliadau tyrbinau. Bydd y cynefin hefyd yn cael ei reoli i atal gweithgarwch barcudiaid coch ger tyrbinau.
Rydym wedi ymgynghori â’r Awdurdod Hedfan Sifil, Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol a’r Weinyddiaeth Amddiffyn i lywio ein cynigion.
Oherwydd uchder y tyrbinau, bydd angen goleuadau diogelwch hedfan arnyn nhw. Mae hwn wedi’i gynllunio fel bod cyn lleied o oleuadau â phosibl, sy’n golygu y byddai llai na hanner ) o’r tyrbinau’n cael eu goleuo. Byddai’r goleuadau hynny ar y dwysedd lleiaf am 88% o’r amser a bydd goleuadau cyfeiriadol hefyd yn cael eu defnyddio fel bod y dwyster yn cael ei leihau hyd yn oed ymhellach wrth edrych arnynt oddi isod.
Rydym wedi monitro sŵn o amgylch y safle ac mae asesiad effaith wedi’i gynnal yn unol â deddfwriaeth berthnasol ac arfer gorau cyfredol mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Powys i benderfynu terfynau sŵn i ddiogelu amwynder preswyl. Bydd unrhyw ganiatâd cynllunio’n ddarostyngedig i amod terfynau sŵn, ac ni fyddem yn mynd dros y terfynau sŵn hyn.
Yn ystod y cyfnod adeiladu byddai sŵn dros dro a bydd yn cael ei reoli trwy Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu gan gynnwys cyfyngiad ar oriau gwaith.
Mynediad, traffig a thrafnidiaeth
Ar yr adeg hon, gallai’r llwythi anghyffredin ar gyfer y Parc Ynni ddod naill ai o ogledd neu dde’r safle, felly gwneir darpariaeth ar gyfer dau opsiwn ar gyfer cyffordd mynediad y safle oddi ar yr A44 ar ymyl de-orllewinol y safle. Er y gofynnir am gysyniad ar gyfer y ddau opsiwn, dim ond un fydd yn cael ei adeiladu.
Nid yw unrhyw waith sydd ei angen i hwyluso cludo cydrannau’r tyrbinau a llwythi annormal eraill yn rhan o’r cais DNS hwn ond efallai byddai angen caniatâd cynllunio ar wahân mewn rhai achosion. Byddai hyn yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad â’r Awdurdod Lleol perthnasol.
Hydroleg, hydroddaeareg a daeareg
Mae cyfres o astudiaethau wedi cael eu cynnal o’r safle er mwyn darparu dealltwriaeth fanwl o’r amgylchedd dŵr presennol a chyflwr y tir. Roedd hyn yn cynnwys asesiadau desg a sawl cam o waith maes. Archwiliwyd priddoedd trwy archwilio’r ddaear a samplu a wnaed mewn miloedd o leoliadau ar draws y safle ac mae nodweddion dŵr wedi’u mapio’n drylwyr.
Cytunir ar Gynlluniau Rheoli Amgylcheddol Pridd, Dŵr Wyneb ac Adeiladu gyda rhanddeiliaid arbenigol cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle, gan gynnwys adeiladu a gweithredu.
Mae llawer o gyflenwadau dŵr preifat ar y safle. Gellir rheoli’r rhain trwy arferion safonol yn y rhan fwyaf o achosion, gan gynnwys dyluniad draenio parhaol addas, rheolaethau cyfnod adeiladu ar gyfer llygredd a gwaddod, cynllun monitro ansawdd dŵr, cyfathrebu a chysylltu clir ac aml â’r tirfeddianwyr perthnasol, a chyfres o fesurau brys i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau, pe byddent yn digwydd, sy’n annhebygol.
Mae cysgodion symudol posibl mewn eiddo preswyl lleol wedi’i asesu a’i ystyried. Mae cysgodion symudol yn effaith y gellir ei rhagweld yn gywir, gellir defnyddio mesurau lliniaru megis plannu llystyfiant i gysgodi eiddo a gellir gosod tyrbinau i beidio â gweithredu yn ystod y cyfnodau hyn.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd