Mae Nant Mithil yn barc ynni arfaethedig yn Fforest Clud, tua 9 km i’r dwyrain o Landrindod. Mae’r cynnig yn cynnwys 30 o dyrbinau hyd at 220m o uchder, byddai’n cynhyrchu 198MW o ynni glân, gwyrdd. Mae hynny’n ddigon i bweru’r hyn sy’n gyfwerth â rhwng 130,000 a 193,000 o gartrefi bob blwyddyn.
Bydd y prosiect yn creu buddion sylweddol i’r gymuned leol, gan gynnwys Cronfa Budd Cymunedol hyd at £1.5 miliwn er mwyn cefnogi grwpiau a phrosiectau yn y gymuned bob blwyddyn, ar hyd oes y parc. Cliciwch ar y ddolen hon i ddysgu mwy amdan ein ymrwymiad at gefnogi’r gymuned ger Parc Ynni Nant Mithil.
Oherwydd y capasiti mawr o ynni adnewyddadwy glân y gallai’r prosiect ei gynhyrchu (mwy na 10 megawat), mae wedi’i ddosbarthu’n Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). Erbyn hyn rydym wedi cyflwyno ein cais cynllunio DNS i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) a bydd yn cael ei ystyried gan Arolygydd cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan Weinidogion Cymru.
Ers lansio’r prosiect i’r cyhoedd yn hydref 2022, rydyn ni wedi cynnal proses ymgysylltu drylwyr, gan ddechrau gyda rownd ymgynghori gychwynnol (anstatudol) gyda’r cyhoedd, ac wedyn ail ymgynghoriad (statudol) gyda’r cyhoedd ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf 2024. Yn ystod yr amser hwn, rydym wedi:
Rydym wedi cynnal astudiaethau manylach ers hynny, ac mae ein dyluniadau wedi esblygu yn dilyn adborth gan randdeiliaid allweddol, y gymuned, a thirfeddianwyr. Hoffem ddiolch i bawb am gymryd rhan.
Ym mis Rhagfyr 2024, cyflwynwyd ein cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i PEDW. Ym mis Tachwedd 2025, derbyniwyd y cais, a pharatowyd ymgynghoriad pum wythnos gan PEDW. Cynhaliwyd hyn tair gwaith, gyda’r ymgynghoriad diweddaraf yn cau ddydd Gwener 26 Mehefin 2026.
Mewn man arall, ym mis Chwefror 2026, cyflwynodd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Powys ei Adroddiad ar yr Effaith Lleol i’w aelodau. Cliciwch yma i weld ein hymateb iddo.

*Bydd cynlluniau diweddaraf y tyrbinau a’r seilwaith yn cael eu harddangos unwaith y bydd y cais wedi’i ddilysu.
Cael y newyddion diweddaraf i gyd